Mae Aelodau'r Cabinet wedi cytuno i weithredu'r cynigion pwysig i'r Cyngor adeiladu Ysgol Arbennig Newydd o'r radd flaenaf ar gyfer Rhondda Cynon Taf erbyn 2026 – a fydd yn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ac yn diwallu anghenion yr holl ddisgyblion.
Yn ei gyfarfod ym mis Hydref 2023, cytunodd y Cabinet i fwrw ymlaen â'r cynigion cyffrous ar ôl ystyried yr adborth cadarnhaol a dderbyniwyd mewn ymarfer ymgynghori cyhoeddus. Cafodd Hysbysiadau Statudol i agor ysgol arbennig 3-19 newydd a chyflwyno dalgylchoedd ar gyfer pob ysgol arbennig yn Rhondda Cynon Taf eu cyhoeddi at 10 Tachwedd, gan sbarduno cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebiadau.
Mae'r Cyngor wedi cynnig y buddsoddiad mewn ymateb i'r pwysau cynyddol sydd ar ysgolion arbennig o ran capasiti, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae adroddiadau blaenorol i'r Cabinet wedi dangos y duedd barhaus o gynyddu nifer y disgyblion, wrth amlygu bod anghenion pobl ifainc yn mynd yn fwy cymhleth.
Mae'r holl opsiynau i ehangu'r ysgolion presennol (Ysgol Arbennig Maesgwyn, Ysgol Arbennig Lôn y Parc, Ysgol Hen Felin ac Ysgol Tŷ Coch) wedi'u cynnal. Yr unig ddewis amgen dichonadwy i gynyddu capasiti a sicrhau bod modd i'r Cyngor gyflawni ei rwymedigaethau yn unol â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), yw creu ysgol newydd.
Amlinellwyd mewn adrodd i'r Cabinet ddydd Mercher 24 Ionawr na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau na sylwadau yn ystod y cyfnod rhybudd statudol, ac felly cytunodd yr Aelodau ag argymhellion y swyddogion i gymeradwyo'r cynnig.
Mae'r Cyngor eisoes wedi derbyn cytundeb ariannu mewn egwyddor i gyflawni'r cynllun ar y cyd â Llywodraeth Cymru, gyda chyfraniadau o 75% tuag at gyfanswm costau'r prosiect trwy'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Rwy'n falch iawn bod y Cabinet wedi cytuno ar yr Ysgol Arbennig newydd i Rondda Cynon Taf, a hynny er mwyn helpu'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau statudol i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae'r gymeradwyaeth yma yn amodol ar sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect, y mae cytundeb mewn egwyddor ar ei gyfer gyda Llywodraeth Cymru.
"Mae swyddogion wedi amlinellu bod pwysau capasiti sylweddol yn wynebu ein hysgolion arbennig presennol ac, mewn sawl adroddiad blaenorol i'r Cabinet, wedi dangos bod disgwyl i'r pwysau yma dyfu. Mae hyn oherwydd y galw mawr am leoedd ysgol ac anghenion cynyddol gymhleth disgyblion. Aethon ni ati i ystyried yr ymateb gorau i'r duedd yma mewn modd trylwyr – a daeth hi'n amlwg mai buddsoddi mewn ysgol newydd sbon yw'r dewis gorau.
"Rhoddodd yr ymarfer ymgynghori cyhoeddus a rhanddeiliad diweddar gyfle i drigolion gael gwybod rhagor am yr ysgol newydd arfaethedig, a'r bwriad i gyflwyno newidiadau dalgylch ar draws ein holl ysgolion arbennig. Ar y cyfan, roedd yn amlwg bod ymateb cadarnhaol.
"Mae gyda ni hanes rhagorol o gyflwyno ysgolion newydd yn llwyddiannus trwy'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, a bydd yr ysgol arbennig newydd yn gyfleuster modern sy'n diwallu pob angen ac yn cynnwys mynediad gwell at gyfleusterau, offer ac adnoddau arbenigol. Bydd y buddsoddiad hefyd yn lliniaru costau lleoliadau y tu allan i'r sir a lleoliadau annibynnol, a fyddai wedi codi pe bai ein hysgolion wedi cyrraedd eu capasiti llawn.
"Mae penderfyniad dydd Mercher gan y Cabinet bellach wedi dod â phroses benderfynu'r Cyngor ar y mater yma i ben. Bydd swyddogion yn datblygu'r prosiect ymhellach ac yn darparu diweddariadau i drigolion ar yr holl gerrig milltir arwyddocaol yn y dyfodol tuag at ddarparu ysgol arbennig newydd y Fwrdeistref Sirol yn 2026."
Mae'r broses ymgynghori ar gyfer yr ysgol newydd wedi'i chynnal yn unol â threfniadau'r Cod Trefniadaeth Ysgolion.
Mae lleoliad yr ysgol newydd wedi’i ystyried yn drylwyr drwy broses arfarnu safle, a’r opsiwn a ffefrir yw safle'r Pafiliynau yng Nghwm Clydach. Dyma'r safle mwyaf addas ac mae'n bodloni'r holl feini prawf. Mae'n lleoliad digonol o ran maint, mae mynediad boddhaol i'r lleoliad ac mae'n gyfle datblygu dichonadwy.
Wedi ei bostio ar 30/01/24