Mae'r Cyngor wedi cael gwybod bod y trefniadau cyntaf i gludo llwyth anghyffredin ger Llwydcoed a Hirwaun wedi'u haildrefnu a bydd y rhan yma o’r daith bellach yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 20 Ionawr.
Bydd peiriannau ar gyfer gorsaf bŵer drydan yn cael eu cludo gan gwmni cludo arbenigol o ffin ogleddol y Fwrdeistref Sirol rhwng Merthyr Tudful a Hirwaun.
Bydd y cerbydau’n gadael o’r A465 (ger Baverstock) ac yn teithio i Ffordd yr Amlosgfa yn y bore, cyn oedi yng Nghroesbychan ac ailymuno â'r A465 i Hirwaun yn hwyrach yn y dydd.
Bydd Ffordd yr Amlosgfa a Heol Cwmynysminton yn cau am 9am.
Bydd Heddlu De Cymru yn atal mynediad i ffyrdd ar hyd y daith. Bydd y garfan draffig ar lawr gwlad yn helpu gyda thraffig lleol, gan roi cyngor i drigolion a pherchnogion busnes ar faterion o ran mynediad.
Gofynnwn i berchnogion cerbydau sydd wedi parcio ar Ffordd yr Amlosgfa drefnu bod eu cerbydau wedi'u parcio yn rhywle arall.
Unwaith y bydd y llwyth anghyffredin wedi cyrraedd safle Future Valleys Construction yng Nghroesbychan, bydd yn cael ei barcio.
Bydd y daith yn parhau ar hyd yr A465 i Ystad Ddiwydiannol Hirwaun ar ôl cyfnod prysur y prynhawn (tua 7pm) a gyda'r hwyr.
Rydyn ni'n argymell bod defnyddwyr y ffordd yma'n defnyddio llwybr amgen yn ystod yr amseroedd yma, neu'n gadael rhagor o amser ar gyfer y posibilrwydd o oedi sylweddol.
Diolch i ddefnyddwyr y ffordd am eich amynedd a'ch cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 19/01/2024