Skip to main content

Ditectifs Hanes yn Rhondda Cynon Taf

Burials re-sized2

Yn ddiweddar, cymerodd grŵp o bobl ifainc o Ysgol Gyfun Treorci ran yn her Diwygio Delweddau i ddod yn 'Dditectifs Hanes'. Fe wnaethon nhw ymchwilio i rai o'r Placiau Glas sydd i'w canfod yn nalgylch eu hysgol a chreu ffilm fyddai'n adrodd hanes diddorol a chyflawniadau trawiadol yr unigolion sy'n cael eu coffáu.  

Mae Placiau Glas yn cael eu gosod ar adeiladau ledled Rhondda Cynon Taf ac yn coffáu pobl, lleoedd a digwyddiadau ym maes cerddoriaeth, chwaraeon, celf, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth. 

Yn ystod eu sesiynau ymchwil yn Llyfrgell Treorci, cafodd rhestr fer ei llunio gan y bobl ifainc yn nodi pa unigolion roedden nhw am ganolbwyntio arnyn nhw. Roedd y grŵp yna'n cwrdd bob wythnos er mwyn datblygu'r straeon roedden nhw eisiau eu hadrodd, gan weithio gyda Hugh Griffiths o Lily Pad Films i greu eu ffilmiau byrion sy'n cyfuno ffotograffau o Archif Digidol y Gwasanaeth Llyfrgelloedd, cyfresi gwreiddiol wedi'u hanimeiddio a delweddau wedi'u creu gan ddeallusrwydd artiffisial.   

Roedd Diwygio Delweddau wedi gwahodd disgyblion o Flwyddyn 5 a Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd yr Hafod i ddod yn 'Dditectifs Hanes', er mwyn darganfod ac archwilio rhan o dreftadaeth Rhondda Cynon Taf sy'n anghyfarwydd i nifer - ei gwreiddiau cynhanesyddol. Gyda help gan staff o Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, daeth y grŵp yn archeolegwyr ifainc er mwyn bwrw golwg ar rai o'r henebion cofrestredig yn y rhanbarth.  

Mae sawl twmpath gladdu ledled Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys carneddi o'r Oes Garreg, yr Oes Efydd a'r Oes Haearn, yn ogystal â beddau Rhufeinig. Roedd y prosiect yn rhoi cyfle i'r plant ddysgu am y mathau gwahanol o ddefodau claddu drwy hanes, technegau cloddio, gwneud modelau ac animeiddio. Gwnaethon nhw deithio hefyd i Fro Morgannwg gan ymweld â Siambr Gladdu Tinkinswood, bedd Oes Garreg sydd ag un o gapfeini mwyaf Prydain, er mwyn cynorthwyo â’u gwaith ymchwil. 

Mae'r ddau grŵp wedi creu ffilmiau sy'n wreiddiol, creadigol a diddorol. Byddan nhw'n cael eu cynnwys ar wefan treftadaeth newydd sbon yn fuan sy'n cael eu datblygu yn rhan o brosiect Diwygio Delweddau, gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd y wefan, sy'n cael ei lansio yn 2024, yn arddangos a dathlu treftadaeth a hanes Rhondda Cynon Taf, a bydd y ffilmiau yma'n cael eu cynnwys yn falch yn rhan o gasgliad ar-lein newydd Rhondda Cynon Taf. 

Yn y cyfamser, mae modd bwrw golwg ar ffilm disgyblion Ysgol Gyfun Treorci yma 

Mae modd bwrw golwg ar ffilm Ysgol Gynradd yr Hafod yma 

Cafodd y prosiectau yma eu hariannu gan Ddiwygio Delweddau, sy'n hwyluso rhaglen weithgarwch tair blynedd o hyd sydd wedi'i dylunio i gysylltu ein cymunedau â'u treftadaeth a hanes lleol. Mae'r prosiect yn cyflawni hyn drwy weithio gydag ysgolion, grwpiau cymunedol ac unigolion ar amrywiaeth o brosiectau treftadaeth sy'n nodi straeon amrywiol ein cymunedau, gan gofnodi ac ymchwilio i hanes henebion a chofebion Rhondda Cynon Taf. Mae'r prosiect wedi cael modd i fyw diolch i £250,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.  

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, sy'n gyfrifol am y Gwasanaeth Treftadaeth:

Mae prosiect Diwygio Delweddau wedi caniatáu i bobl ifainc ymchwilio ac arddangos eu hanes lleol mewn dulliau cyffrous.  Rwy'n falch o weld plant ifainc yn cymryd rhan ac yn dysgu am hanes Rhondda Cynon Taf o oed ifanc.  Mae'r ffilmiau sydd wedi'u creu gan y ddau grŵp yn ddiddorol ac yn llawn ffeithiau. Bydd gwefan newydd Diwygio Delweddau, fydd yn cael ei lansio yn 2024, yn darparu'r lleoliad perffaith ar gyfer y ffilmiau yma a rhagor o wybodaeth am hanes lleol.  Da iawn chi ddisgyblion Ysgol Gyfun Treorci ac Ysgol Gynradd yr Hafod - gwir dditectifs hanes yn Rhondda Cynon Taf! 

Mae sawl ffordd i bobl ifainc gymryd rhan yn ein hanes lleol. Mae Carfan Dreftadaeth y Cyngor, wedi'u lleoli yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, yn gweithio gydag ysgolion ledled y Fwrdeistref Sirol gan gynnig i'r ysgolion ymweld â'r amgueddfa a llawer rhagor. Maen nhw hefyd yn cynnal Clwb Archeoleg am ddim i blant oed ysgol gynradd ac yn rheoli'r Cynllun Placiau Glas ledled Rhondda Cynon Taf.  Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch GwasanaethTreftadaeth@rctcbc.gov.uk

Nodiadau i'r Golygydd

Gwybodaeth am Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol 

Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yw darparwr cyllid mwyaf treftadaeth y DU. Ei gweledigaeth yw i dreftadaeth gael ei gwerthfawrogi, ei gwarchod a'i chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol, fel sydd wedi’i nodi yn ein cynllun strategol, Treftadaeth 2033.

Dros y ddeng mlynedd nesaf, mae'r Gronfa Dreftadaeth yn bwriadu buddsoddi £3.6 biliwn sydd wedi'i gynilo ar gyfer achosion da gan y rheiny sy'n chwarae'r Loteri Genedlaethol i gyflwyno buddion i bobl, lleoedd a'r amgylchedd naturiol. 

Mae'r Gronfa Dreftadaeth yn helpu i ddiogelu, trawsnewid a rhannu'r pethau o'r gorffennol sydd o bwys i bobl, boed yn amgueddfeydd a lleoedd hanesyddol poblogaidd, ein hamgylchedd naturiol a rhywogaethau bregus, neu'r ieithoedd a thraddodiadau diwylliannol sy'n dathlu pwy rydym ni. 

Mae'r Gronfa Dreftadaeth yn frwdfrydig am dreftadaeth ac yn ymrwymo i hybu arloesi gan gydweithio er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl heddiw, gan adael gwaddol parhaus i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau. 

Dilynwch @HeritageFundUK ar Twitter, Facebook ac Instagram gan ddefnyddio #CronfaDreftadaethyLoteriGenedlaethol https://www.heritagefund.org.uk/cy

Wedi ei bostio ar 24/01/24