Mae'r Cyngor wedi cadarnhau bod yr Ymgynghoriad diweddar ar Gludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol yn cael ei ymestyn am dair wythnos. Mae'r Cyngor yn cydnabod arwyddocâd y cynnig i ddisgyblion sy'n defnyddio cludiant o'r cartref i'r ysgol ar hyn o bryd, ac a fydd yn ei ddefnyddio yn y dyfodol. Mae'r ymgynghoriad estynedig yn rhoi cyfle pellach i'r rhai a fydd o bosibl yn cael eu heffeithio gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Bydd rhagor o sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal lle bydd swyddogion wrth law i ateb unrhyw gwestiynau ar y cynnig ac annog pobl i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein:
- Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen, Y Ddraenen Wen, 29 Ionawr 2024, 4pm-7pm
- Canolfan Hamdden Sobell, Aberdâr, 30 Ionawr 2024, 12pm-2pm, 4pm-7pm
- Canolfan Hamdden Rhondda Fach, Tylorstown, 31 Ionawr 2024, 4pm-7pm
Mae hyn yn ychwanegol i'r cyfnod ymgynghori chwe wythnos o hyd blaenorol a gafodd ei gynnal rhwng 27 Tachwedd 2023 a 8 Ionawr 2024, ac a ddarparodd dri chyfle i fynd i sesiynau wyneb yn wyneb.
Bydd yr ymgynghoriad yn ailagor ddydd Iau, 18 Ionawr, gan ddod i ben ddydd Iau, 8 Chwefror. Os ydych chi wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad eisoes, does dim angen i chi wneud hyn eto. Mae modd i chi rannu eich barn yn yr ymgynghoriad ar-lein yma: Ymgynghoriad ar Bolisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor
Cwestiynau cyffredin
Mae'r cynnig ar gyfer Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol yn cael ei ystyried yn sgil y pwysau ariannol sylweddol y mae'r Cyngor yn ei wynebu, gyda bwlch o £36 miliwn wedi'i gadarnhau yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Wedi ei bostio ar 18/01/2024