Bydd y Cyngor yn dechrau ar waith i ddarparu cyfleusterau gwell i gerddwyr mewn sawl lleoliad ledled pentref Hirwaun yn fuan, wedi iddo sicrhau cymorth grant trwy gyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru.
Mae Cynlluniau Llwybrau Diogel yn cynnwys mesurau i wella hygyrchedd a diogelwch mewn cymunedau, gan ganolbwyntio'n benodol ar ardaloedd o gwmpas ysgolion. Bwriad buddsoddiad Llywodraeth Cymru yw annog pobl i gerdded neu feicio teithiau lleol, drwy ddarparu amgylchedd mwy diogel i wneud hynny.
Ym mis Mehefin, cyhoeddodd y Cyngor ei fod wedi sicrhau cyllid gwerth £352,350 er mwyn darparu cynllun ar gyfer Hirwaun yn 2023/24. Bydd gwaith yn dechrau o ddydd Llun, 8 Ionawr er mwyn cyflwyno llwybrau troed, croesfannau diogel a mesurau lleihau cyflymder newydd. Bydd y gwaith yn para oddeutu 11 wythnos, gan ganolbwyntio ar elfennau amrywiol, gan gynnwys:
- Gosod croesfan nad yw'n cael ei rheoli (cyrbiau isel a phalmant botymog) ar hyd rhannau o Ffordd Abertawe, Ffordd Maescynon a Ffordd Merthyr.
- Darparu llwybr troed ar hyd Ffordd Abertawe, ger Ffordd Maescynon.
- Adeiladu ramp mynediad newydd i'w ddefnyddio gan gerddwyr ar Ffordd Merthyr, sy’n cysylltu â’r Dramffordd - a gwella mynediad cerddwyr ar gyffordd Ffordd Merthyr â'r Dramffordd.
Yn ogystal â hyn, bydd mesurau lleihau cyflymder yn cynnwys marciau ffordd 'Araf/Slow' ac arwyddion rhybudd mewn sawl lleoliad, ynghyd â chyflwyno camerâu cyflymder cyfartalog ar hyd rhannau o Ffordd Abertawe. Mae dyfeisiau dangos cyflymder wedi cael eu gosod yn barod.
Bydd Carfan Gofal y Strydoedd y Cyngor yn cyflawni'r rhan fwyaf o'r gwaith gydag is-gontractwr enwebedig, gyda Centregreat Ltd yn gosod y camerâu cyflymder cyfartalog. Bydd mesurau rheoli traffig yn cael eu defnyddio'n lleol lle bo angen er mwyn sicrhau diogelwch, a byddan nhw’n amrywio o leoliad i leoliad.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Bydd gwaith yn dechrau ar 8 Ionawr i wella diogelwch cerddwyr a lleihau cyflymder mewn sawl lleoliad yn Hirwaun, yn rhan o gynllun Llwybrau Diogel diweddaraf y Fwrdeistref Sirol. Mae cerdded neu feicio teithiau lleol yn cynnig sawl mantais o ran iechyd, lles a'r amgylchedd - dyma pam rydyn ni'n buddsoddi mewn mesurau i greu amgylcheddau mwy diogel yn ein cymunedau.
"Mae nifer o gynlluniau tebyg wedi'u darparu ledled Rhondda Cynon Taf yn barod, megis y gwelliannau i gerddwyr mwyaf diweddar yn Llanilltud Faerdref a gafodd eu cwblhau ym mis Ebrill 2023. Roedd hyn yn dilyn cynlluniau lleol yn Llwynypia, Abercynon, Llantrisant, Cilfynydd a Thonpentre dros y blynyddoedd diwethaf.
"Cafodd cyhoeddiad cyllid mwyaf diweddar Llywodraeth Cymru ei wneud yn gynharach eleni - ac rydyn ni wedi croesawu'r dyraniad o fwy na £740,000 tuag at ddarparu'r cynlluniau newydd yn Hirwaun a Phentre'r Eglwys yn 2023/24. Roedd y dyraniad hefyd yn cynnwys astudiaeth ddichonoldeb er mwyn penderfynu a fyddai rhagor o strydoedd gerllaw ysgolion yn elwa ar fuddsoddiad yn y dyfodol.
"Cyfanswm y buddsoddiad yn Hirwaun yw £391,500, sy'n cynnwys arian cyfatebol y Cyngor. Bydd trigolion yn sylwi ar weithgarwch mewn sawl lleoliad dros yr wythnosau nesaf. Bydd angen mesurau rheoli traffig lleol ar gyfer rhai elfennau o'r cynllun. Bydd Carfan Gofal y Strydoedd y Cyngor yn gweithio'n gyflym ac yn effeithlon, gan geisio tarfu cyn lleied â phosibl."
Nodwch, elfen gyntaf y buddsoddiad arfaethedig yn Hirwaun yw'r gwaith yma. Mae gwelliannau i lwybr troed cyffordd Heol Aberhonddu/Stryd Harris, a chroesfannau newydd i gerddwyr ar Ffordd y Rhigos a'r Stryd Fawr, i’w cyflwyno yn 2024/25. Daeth ymgynghoriad anffurfiol ar gyfer y croesfannau newydd i ben ar 29 Rhagfyr 2023, wedi derbyn barn trigolion er mwyn llywio’r cynlluniau.
Wedi ei bostio ar 04/01/2024