Bydd Pont Droed newydd Tyn-y-bryn yn ailagor i'r cyhoedd ddydd Gwener (26 Ionawr) a hynny ar ôl i’r contractwr wneud cynnydd da ar y cynllun i ailsefydlu cyswllt poblogaidd yn y gymuned.
Mae'r bont droed yn darparu llwybr drosyr afon i gerddwyr a beicwyr rhwng Heol Tyn-y-bryn a thanffordd yr A4119. Cafodd yr hen bont ei dymchwel y llynedd a chafodd y bont newydd, sy'n cydymffurfio â gofynion teithio llesol, ei gosod ym mis Tachwedd 2023. Mae’r bont newydd hefyd yn gwella aliniad y strwythur. Mae gwelliannau wedi'u cynnal ar y llwybr troed a'r goleuadau stryd hefyd.
Mae’r cynllun yma i osod bont newydd yn rhan o gynllun ehangach yn y lleoliad yma. Mae gwaith ychwanegol wedi cynnwys adlinio sianel yr afon yn ogystal â chyflawni atgyweiriadau i'r arglawdd gerllaw - a hynny er mwyn atgyweirio difrod sgwrfa sylweddol yn yr Afon Elái, gwella llif yr afon, a lleihau'r risg o ragor o ddifrod yn y dyfodol.
Erbyn hyn, mae gwaith gosod wyneb newydd ar y ffordd yn cael ei gwblhau ger y bont droed newydd, a hynny er mwyn ailagor y bont i'r cyhoedd erbyn 5pm, ddydd Gwener 26 Ionawr. Bydd y bws gwennol sydd wedi bod yn gweithredu yn ystod y gwaith yn dod i ben, gyda'r gwasanaeth olaf yn cael ei gynnal am 6.20pm ddydd Gwener.
Bydd angen cynnal rhagor o waith i orffen y cynllun dros yr wythnosau nesaf, a bydd y contractwr yn bresennol ar y safle hyd at ganol mis Chwefror 2023. Mae'r gwaith yma'n rhan o gynllun sy'n cynnwys gwaith tirlunio a phlannu coed.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae’r gwaith yn rhan o Gynllun Pont Droed Tyn-y-bryn, ynghyd â gwaith atgyweirio cysylltiedig i sianel yr afon, yn un o'n cynlluniau sy’n cael eu blaenoriaethu yn 2023/24 - mae’n wych clywed y bydd modd ailagor y bont yr wythnos yma. Bydd yn adfer cyswllt lleol allweddol dros yr afon, dyma lwybr sy'n cael ei ddefnyddio'n aml gan y gymuned.
"Mae'r cynllun yn Nhonyrefail wedi cael ei gyflawni yn rhan o gynllun atgyweirio yn dilyn Storm Dennis yn Rhondda Cynon Taf. Mae wedi'i hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru eleni. Mae cynlluniau ar gyfer strwythurau mawr, megis y gwaith i osod pont newydd Castle Inn yn Nhrefforest a'r Bont Wen ym Mhontypridd, hefyd yn mynd rhagddo gan ddefnyddio'r buddsoddiad yma, sy'n cyfateb i gyfanswm o oddeutu £20 miliwn.
"Yn ogystal â hyn, mae gan y Cyngor raglen gyllid sylweddol ar gyfer strwythurau yn 2023/24. Cafodd dyraniad cychwynnol gwerth £4.5 miliwn yn rhan o’r Rhaglen Gyfalaf ei ategu gan gyllid ychwanegol gwerth £2.5 miliwn ar gyfer meysydd â blaenoriaeth y Cyngor ym mis Tachwedd 2023. Mae hyn wedi ein galluogi ni i gwblhau cynlluniau allweddol drwy gydol y flwyddyn megis Pont Imperial Porth, Pont Glan-elái yn Nhonysguboriau a Phont y Graig Las yn Hendreforgan - gyda rhagor o gynlluniau yn cael eu hychwanegu i'w cwblhau erbyn mis Mawrth 2024.
"Hoffwn i ddiolch i'r gymuned yn Nhonyrefail am eu cydweithrediad wrth i waith pwysig i osod Pont Droed newydd Tyn-y-bryn gael ei gwblhau - yn enwedig yr aelwydydd hynny gerllaw safle'r gwaith. Mae'r cynllun wedi darparu pont droed fodern a gwell sy'n addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Mae gwaith atgyweirio i sianel yr afon hefyd yn diogelu eiddo cyfagos rhag difrod wedi'i achosi gan yr afon hefyd, ac wedi lleihau'r risg o hyn yn digwydd eto yn y dyfodol."
Wedi ei bostio ar 24/01/24