Skip to main content

Cynllun lleol ym Mhentre'r Eglwys i wella llwybrau cerdded i'r ysgol

Church Village SRIC - Copy

Bydd cyfres o welliannau yn cael eu darparu dros yr wythnosau nesaf yn rhan o gynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ym Mhentre'r Eglwys. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar wella cyfleusterau i gerddwyr ar strydoedd ger Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref.

Bydd gwaith i sefydlu amgylchedd mwy diogel i gerddwyr sy'n annog pobl i gerdded yn fwy aml wrth gyflawni eu teithiau lleol yn dechrau ddydd Llun, 29 Ionawr - mae hyn yn cynnwys annog teuluoedd sy'n teithio i'w hysgol gynradd leol ac yn ôl. Mae'r Cyngor wedi penodi ERH Communications Ltd yn gontractwr er mwyn cyflawni'r gwaith o ddydd Llun. Bydd y cynllun yn para oddeutu naw wythnos ac yn cynnwys:

  • Gwella rhan o lwybr troed, gan sefydlu mannau croesi anffurfiol newydd a gwella’r mannau croeso cyfredol trwy ddefnyddio palmant botymog pan fo angen.
  • Darparu gwelliannau i ymyl palmant ar gyffordd ddeheuol Heol Sant Illtyd a Chae Faerdref, fydd yn lleihau'r pellter croesi.
  • Torri llystyfiant sydd wedi gordyfu ac sy’n rhwystro Llwybrau Troed Hawl Tramwy Cyhoeddus mewn sawl lleoliad.
  • Adeiladu llwybr troed newydd ar ochr ddeheuol Cae Faerdref, rhwng Gelli'r Bedw a’r fynedfa i’r caeau chwarae, er mwyn sefydlu cyswllt ffurfiol â'r caeau chwarae.
  • Cael gwared ar 40 metr o'r gilfan sydd wedi'i lleoli i'r dwyrain o gyffordd Heol yr Orsaf, er mwyn creu llwybr troed sy’n parhau yn y lleoliad yma.
  • Gwella'r llwybr troed presennol sy'n mynd ar hyd y fynedfa i Faes Parcio Tŷ Illtyd ac o amgylch y gyffordd i Heol Sant Illtyd.

Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod y Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth £340,000 er mwyn cyflawni'r gwaith yma ym Mhentre'r Eglwys, yn rhan o'i chynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer 2023/24. Dyma gyfraniad gwerth 80%,mae’r Cyngor yn darparu’r cyllid cyfatebol sy’n weddill.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi:  "Bydd gwaith i wella llwybrau cerdded ger Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref yn dechrau ar 29 Ionawr, a hynny ar ôl i’r Cyngor groesawu'r cyllid diweddaraf a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni yn rhan o gynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. Mae'r cynllun wedi nodi sawl lleoliad lle mae modd gwella'r cyfleusterau presennol i gerddwyr - gan gynnwys ymestyn llwybrau troed a lledu llwybrau a gwella ymylon palmant.

"Mae'r pecyn cyllid ehangach ar gyfer 2023/24 hefyd yn cynnwys cynllun yn Hirwaun a ddechreuodd ym mis Ionawr 2024. Mae’r cynllun yn cynnwys cyflwyno mesurau diogelwch i gerddwyr a mesurau arafu traffig yn y pentref - yn ogystal ag astudiaeth ddichonoldeb er mwyn canfod a fyddai rhagor o strydoedd ger ysgolion yn Rhondda Cynon Taf yn elwa o fuddsoddiad yn y dyfodol. Mae’r cynlluniau sy’n cael eu cynnal eleni ym Mhentre'r Eglwys a Hirwaun yn dilyn cynlluniau gwaith tebyg gafodd eu cyflawni yn Llanilltud Faerdref y llynedd, yn ogystal â Llwynypia, Abercynon, Llantrisant, Cilfynydd a Thon Pentre dros y blynyddoedd diwethaf.

"Mae'r cynllun ym Mhentre'r Eglwys yn cynrychioli buddsoddiad gwerth cyfanswm o oddeutu £400,000, ac yn ceisio creu amgylchedd mwy diogel i gerddwyr - gan gynnwys teuluoedd lleol wrth iddyn nhw gerdded i'r ysgol. Mae annog rhagor o bobl i gerdded neu feicio wrth gyflawni teithiau lleol yn cynnig llawer o fanteision, gan gynnwys amddiffyn yr amgylchedd a gwella iechyd a lles, yn ogystal â lleihau tagfeydd traffig ar ein ffyrdd.

"Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda’r contractwr sydd wedi’i benodi i gwblhau'r gwaith yn y modd mwyaf effeithlon ac yn ymdrechu i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned. Mae’n debygol y bydd angen cyflwyno llwybrau amgen i gerddwyr ar sawl achlysur wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Bydd pob llwybr amgen yn cael ei nodi’n glir gan ddefnyddio arwyddion. Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad."

Wedi ei bostio ar 26/01/24