Skip to main content

Archwilio pont dros nos ger Cylchfan Glyn-taf

Machine Bridge, Treforest

Bydd Pont y Doctor yn ardal Trefforest yn cael ei harchwilio nos Sadwrn, gan ddibynnu ar y tywydd. Mae'r archwiliad wedi'i drefnu yn ystod y nos er mwyn lleihau aflonyddwch.

Bydd y gwaith yn dechrau am 11pm nos Sadwrn 27 Ionawr ac yn dod i ben erbyn 9am ddydd Sul 28 Ionawr.

Fydd dim modd i gerbydau deithio ar y bont o'r Broadway, Trefforrest, i gyfeiriad cylchfan Glyn-taf.

Fydd dim effaith ar gerbydau sy'n teithio i'r cyfeiriad arall, o gylchfan Glyn-taf i Drefforest.

Bwriwch olwg ar y map sy'n amlinellu'r trefniadau cau drwy glicio ar y ddolen ganlynol: LINK

Bydd y llwybr i gerddwyr/beicwyr dros y bont ger y ffordd hefyd ar gau. Serch hynny, bydd llwybr amgen byr ar gael ar y bont gyfagos, o gwmpas ardal y gwaith.

Mae llwybr amgen i fodurwyr sy'n teithio o Drefforest i gylchfan Glyn-taf ar gael ar hyd y Broadway (B4595), yr A4058 Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm, yr A470 Ffordd Gyswllt tua'r Gogledd, Cylchfan Stryd y Bont, Heol Coedpenmaen, Ffordd Merthyr, Heol Pentrebach a Chylchfan Glyn-taf.
Bydd mynediad i eiddo lleol yn parhau, ond fydd dim mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys.

Fydd dim effaith ar wasanaethau bysiau lleol o ganlyniad i amser y trefniadau cau, sy'n dod i ben cyn y gwasanaeth bws cyntaf ddydd Sul.

Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 24/01/24