Gallai'r Cabinet gytuno i gam dau y broses ymgynghori ar Gyllideb eleni ganolbwyntio ar strategaeth ddrafft a gafodd ei chyflwyno gan swyddogion, a oedd yn cynnig sut y gallai'r Cyngor osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/25 ynghanol yr heriau ariannol sylweddol sy'n cael eu hwynebu.
Yn ei gyfarfod ddydd Mercher, 24 Ionawr, bydd y Cabinet yn trafod adroddiad manwl sy'n cynnig strategaeth ddrafft mewn ymateb i'r bwlch mawr sydd yn y Gyllideb. Roedd Setliad Llywodraeth Leol dros dro mis Rhagfyr yn cynnwys cynnydd o 2.8% yn y cyllid ar gyfer Rhondda Cynon Taf, a'r bwlch yn y Gyllideb yn dilyn hyn oedd £36.65 miliwn.
Mae pob Cyngor yng Nghymru yn wynebu heriau sylweddol i osod cyllideb gytbwys gyfreithiol erbyn mis Mawrth 2024. Mae hyn yn seiliedig ar nifer o ffactorau sy’n cynnwys lefel uchel chwyddiant, yr argyfwng Costau Byw parhaus, a phwysau ar draws gwasanaethau allweddol y mae angen eu diogelu yn y modd gorau posibl, megis ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.
Cafodd cyfres o newidiadau cynnar o ran lleihau’r bwlch yn y gyllideb eu hadrodd i’r Cabinet ym mis Tachwedd 2023, tra bod Aelodau hefyd wedi cytuno’n flaenorol ar gynigion yn ymwneud â’r cynnig Gwasanaethau Oriau Dydd ar gyfer Anableddau Dysgu, Gwasanaeth Byw â Chymorth i bobl ag anabledd, Gofal yn y Cartref, a Gwasanaethau Oriau Dydd i Bobl Hŷn. Bydd y rhain yn sicrhau arbedion cyfunol a fydd yn cyfrannu at leihau’r bwlch yn y Gyllideb i £25.91 miliwn – sef y sefyllfa y mae strategaeth y Gyllideb ddrafft yn seiliedig arni.
Strategaeth y Gyllideb ddrafft y gellid ymgynghori arni
Pe bai'r Cabinet yn cytuno arni, byddai'r strategaeth ddrafft sydd wedi'i chynnwys yn adroddiad dydd Mercher yn dod yn brif ganolbwynt ar gyfer cam dau o broses ymgynghori ar y Gyllideb y Cyngor, sy'n cael ei gynnal bob gaeaf. Gallai’r Aelodau gytuno iddo gael ei gynnal rhwng 24 Ionawr a 9 Chwefror.
Mae'r Cyngor bob amser yn defnyddio agwedd gyfrifol tuag at osod lefelau treth y Cyngor, gan gydbwyso'r angen i ddiogelu gwasanaethau allweddol a modd trigolion i dalu. Bydd angen i bob Cyngor yng Nghymru godi treth y Cyngor y flwyddyn nesaf yn sgil y rhagolygon ariannol, ac mae swyddogion wedi modelu strategaeth y Gyllideb ddrafft ar gynnydd o 4.9%.
Byddai'r Gyllideb arfaethedig i Ysgolion yn dyrannu cyllid i ysgolion i dalu am yr holl bwysau cyflogau, gan gynnwys dyfarniadau cyflogau athrawon. Uwchlaw hyn, cynigir bod cyllideb o £1 miliwn pellach yn cael ei ddarparu ar gyfer costau nad ydyn nhw'n ymwneud â chyflogau, a ariennir yn rhannol gan dâl arfaethedig am ofal plant cyn oriau ysgol cyn y Clwb Brecwast, yr ymgynghorwyd arno yn ddiweddar. Yn gyffredinol, £11.9 miliwn fydd y cynnydd ar gyfer ysgolion, sef cynnydd o 6.4%.
Mae gwaith gan Uwch Swyddogion i nodi arbedion effeithlonrwydd (y tu hwnt i’r rhai a adroddwyd i’r Cabinet ym mis Tachwedd 2023) wedi parhau – gan arwain at arbed £5.24 miliwn arall. Mae’r arbedion yn cynnwys cynigion Ad-drefnu Gwasanaethau Gweithredol sydd wedi’u rhestru yn adroddiad y Cabinet, ac mae swyddogion wedi rhoi sicrwydd y bydd modd gwneud y newidiadau heb effeithio'n sylweddol ar wasanaethau'r Cyngor.
Mae cynigion eraill i leihau'r bwlch yn y Gyllideb wedi’u rhestru yn yr adroddiad. Mae'r rhain yn cynnwys gofyniad i gwtogi'r gyllideb sylfaenol ar gyfer costau ynni y flwyddyn nesaf o gymharu ag eleni; ffrwd incwm newydd o greu a gwerthu ynni yn ystod y flwyddyn nesaf, unwaith y bydd fferm solar newydd y Cyngor yn weithredol; ac addasu rhai gofynion yn ymwneud â'r gyllideb sylfaenol yn dilyn adolygiad manwl.
Mae adroddiad ar wahân ar gyfer cyfarfod y Cabinet ddydd Mercher yn amlinellu'r Ffioedd a Thaliadau arfaethedig ar gyfer gwasanaethau'r Cyngor, y mae'n rhaid eu pennu bob blwyddyn yn rhan o'r Gyllideb. Cynigir bod cynnydd safonol o 5% yn cael ei roi ar waith - fodd bynnag, ceir nifer o wasanaethau lle mae bwriad rhewi costau neu eu cynyddu ar gyfradd mwy penodol. Byddai'r cynigion yn arwain at incwm ychwanegol o £425,000 y flwyddyn.
Ar ôl ystyried yr holl gynigion a amlinellir uchod, y bwlch a fyddai'n weddill yn y Gyllideb ar gyfer 2024/25 fyddai £8.95 miliwn. Mae'r strategaeth ddrafft yn cynnig bod y swm yma'n cael ei dalu'n llawn trwy ryddhau'r cyllid trosiannol sydd wedi’i neilltuo at y diben yma.
Dywedodd Y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae hwn yn gyfnod heriol iawn i Gynghorau ledled Cymru, a bydd pob Cyngor yn adolygu’n agos y modd y caiff eu gwasanaethau eu darparu er mwyn nodi arbedion refeniw posibl. Mae nifer o ffactorau economaidd yn dylanwadu ar yr her ariannol yma, gan gynnwys lefel uchel chwyddiant, yr argyfwng Costau Byw parhaus gan gynnwys prisiau bwyd uchel, a phwysau ar draws llawer o wasanaethau.
“Rydyn ni'n croesawu’r cynnydd gan Lywodraeth Cymru yn y setliad dros dro, fodd bynnag, dydy hyn ddim yn agos at y lefel y byddai’n ofynnol i ni osod cyllideb gyfreithiol gytbwys heb edrych ar wneud arbedion sylweddol. Roedd ein bwlch diwygiedig yn y Gyllideb yn dilyn y setliad yn fwy na £36 miliwn, sef un o’r bylchau mwyaf rydyn ni erioed wedi’i wynebu fel Awdurdod Lleol.
“Mae swyddogion wedi llunio strategaeth ddrafft sy’n amlinellu sut byddai modd i ni gyflawni Cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/25 – a gallai’r Cabinet gytuno i ymgynghori â phreswylwyr ar hyn yng ngham dau ein hymgynghoriad blynyddol, gan ddechrau ar 24 Ionawr.
“Mae’r strategaeth ddrafft, yn gwbl briodol, yn diogelu ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol sy’n cyfrif am tua 70% o’n Cyllideb. Cafodd hyn ei gyflawni mewn blynyddoedd blaenorol hefyd. Ond mae'n dod yn fwyfwy anodd gwneud arbedion pellach bob blwyddyn o'r 30% sy'n weddill o'n Cyllideb. Rydyn ni wedi gwneud arbedion effeithlonrwydd mawr dros flynyddoedd olynol, gan gynnwys £16.1 miliwn yn y flwyddyn gyfredol – ac mae dod o hyd i £13 miliwn arall ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi bod yn ymdrech aruthrol. Mae newidiadau gweithredol o'r fath yn fwyfwy anodd eu canfod heb effeithio ar wasanaethau.
“Mae’n ymddangos y bydd bron pob Cyngor yng Nghymru yn codi treth y Cyngor rhwng tua 5% a 10% y flwyddyn nesaf, ac mae’r strategaeth ddrafft wedi’i modelu ar gynnydd o 4.9%, sydd tua phen isaf y raddfa. Er nad ydyn ni am drosglwyddo costau i aelwydydd, mae'n rhaid i ni gydbwyso hynny â diogelu ein gwasanaethau - ac mae swyddogion yn credu bod y lefel arfaethedig yn gyfaddawd rhesymol.
“Yn olaf, cynigir bod bron i £9 miliwn yn cael ei ddefnyddio o'n cronfeydd wrth gefn i lenwi'r bwlch sy'n weddill yn y Gyllideb. Mae'r rhan fwyaf o'r cronfeydd wrth gefn sydd gan y Cyngor wedi'u dyrannu - er enghraifft, wedi'u clustnodi ar gyfer prosiectau seilwaith mawr fel ein buddsoddiad mewn cyfleusterau ysgolion newydd. Mae gyda ni rai cronfeydd trosiannol sydd ar gael, ac mae swyddogion wedi nodi y byddai modd ail-lenwi'r rhain â rhywfaint o sicrwydd wrth i'r Cyngor barhau â'i strategaeth o gyflawni arbedion yn gynnar bob blwyddyn.
“Os bydd y Cabinet yn cytuno ddydd Mercher, bydd cam dau y broses ymgynghori ar y Gyllideb yn cael ei symud ymlaen, a byddwn i'n annog trigolion i gymryd rhan a chael dweud eu dweud. Byddai rhagor o fanylion ar gael ar wefan y Cyngor ac yn cael eu rhannu’n fuan.”
Wedi ei bostio ar 22/01/2024