Mae cynnig i godi tâl am gyfnod o ofal plant cyn i'r diwrnod ysgol ddechrau, heb unrhyw effaith ar y mynediad cyffredinol i'r clwb brecwast am ddim, bellach wedi'i gytuno. Diwygiwyd y cynnig i gyflwyno system daliadau dwy haen sy'n rhatach i blant sy'n defnyddio'r ddarpariaeth hyd at dri diwrnod yr wythnos.
Ym mis Tachwedd 2023, cytunodd y Cabinet i ymgynghori â thrigolion ar y cynnig, a ddygwyd ymlaen mewn ymateb i'r her ariannol enfawr sy'n wynebu'r Cyngor wrth iddo osod ei Gyllideb ar gyfer 2024/25. Roedd y bwlch yn y gyllideb wedi’i ddiweddaru yn £36.65 miliwn ar ôl y Setliad Llywodraeth Leol dros dro i Gymru ym mis Rhagfyr 2023. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob gwasanaeth gael ei adolygu i weld sut mae modd gwneud arbedion refeniw.
Mae'r clwb brecwast yn wasanaeth statudol sydd am ddim ac yn agored i bob grŵp oedran ysgol gynradd, o’r Meithrin i Flwyddyn 6. Fel arfer mae'n cael ei gynnig rhwng 8.30am-9am bob dydd, pan fydd disgyblion yn cael brecwast iach yn yr ysgol. Fydd y gwasanaeth clwb brecwast ddim yn cael ei effeithio o dan unrhyw gynnig sy'n cael ei ystyried.
Yn hytrach, ymgynghorwyd â thrigolion ar dâl dyddiol newydd o £1 am gyfnod anffurfiol o ofal plant a gynigir cyn y clwb brecwast. Cynigir y gwasanaeth dewisol yma mewn ysgolion, fel arfer rhwng 8am a 8.30am. Os cytunir arno, byddai’r tâl yn cael ei godi o dymor ysgol y gwanwyn 2024 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.
O dan y cynnig, cynigiwyd i eithrio plant sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim o'r tâl. Roedd y cynnig gwreiddiol yn amlinellu y byddai angen talu'r tâl bob tymor, am gost wedi'i thalgrynnu i lawr i £60 am dymor llawn. Bydd yr holl incwm sy'n cael ei godi gan y cynnig yn cael ei glustnodi a'i ail-fuddsoddi yn ôl yn y Gyllideb Ysgolion yn rhan o Strategaeth Cyllideb Refeniw 2024/25. Roedd cyfnod yr ymgynghoriad rhwng 27 Tachwedd 2023 ac 8 Ionawr 2024.
Ddydd Mercher, 24 Ionawr, trafododd y Cabinet yr adborth a dderbyniwyd gan drigolion. Derbyniwyd cyfanswm o 1,351 o ymatebion trwy arolwg ar-lein, ynghyd â 10 e-bost a llythyr. Hysbysebwyd sesiynau wyneb yn wyneb gan y Cyngor a cafodd y rhain eu cynnal yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda yn Ystrad, Canolfan Hamdden Llantrisant, a Chanolfan Hamdden Sobell yn Aberdâr. Manteisiodd aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y cyfle hefyd i adolygu’r cynigion ar 13 Rhagfyr, 2023.
Trafododd y Cabinet yr holl ymatebion, a chytunwyd i weithredu'r cynnig gyda diwygiad yn dilyn thema allweddol a godwyd yn yr ymgynghoriad.
Bydd y diwygiad yn cyflwyno system dalu dwy haen sy’n cadw’r tâl tymor llawn o £60 i gael mynediad at y gofal plant am hyd at bum niwrnod yr wythnos. Byddai hefyd yn cyflwyno tâl tymor is o £40, ar gyfer plant sy’n defnyddio’r gwasanaeth hyd at dri diwrnod yr wythnos.
Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn ynghylch a ddylid darparu unrhyw eithriadau pellach ar wahan i'r plant hynny yr aseswyd eu bod nhw'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim.
Cytunodd y Cabinet hefyd y bydd rhieni a gwarcheidwaid ond yn talu am y ddau blentyn cyntaf, sy'n byw yn yr un cartref, sy'n defnyddio'r ddarpariaeth - fydd dim rhaid talu am unrhyw blant eraill o'r un aelwyd.
Yn dilyn cytundeb gan y Cabinet ddydd Mercher, bydd swyddogion nawr yn symud y cynnig diwygiedig ymlaen tuag at ei weithredu.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Gwnaed y cynigion yma gan swyddogion yn wyneb yr her ariannol enfawr sy’n wynebu’r Cyngor, sef gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/25 erbyn mis Mawrth. Mae pob cyngor yng Nghymru yn wynebu tasg debyg i bontio bylchau mawr yn y gyllideb, oherwydd ffactorau economaidd sy’n cynnwys chwyddiant uchel, yr argyfwng costau byw, a phwysau ar draws gwasanaethau hanfodol fel ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.
“Mae pedwar cyngor arall yng Nghymru eisoes yn codi tâl am ofal plant ychwanegol cyn clybiau brecwast am ddim, ac mae sawl un arall yn ei ystyried ar hyn o bryd. Mae’n bwysig i mi ychwanegu fydd y newid ddim yn effeithio ar y clwb brecwast mewn unrhyw ffordd – bydd yn parhau i fod am ddim ac ar gael yn gyffredinol i ddisgyblion o’r dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6.
“Ystyriodd y Cabinet yr holl adborth a dderbyniwyd – gan drigolion yn yr arolygon ar-lein, gohebiaeth ysgrifenedig, a thrafodaethau wyneb yn wyneb mewn sesiynau lleol, a chan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Mae'r aelodau wedi cytuno i symud ymlaen gyda'r cynnig er mwyn cyfrannu arbediad cyllideb pwysig - ond hefyd wedi penderfynu gwneud newidiadau allweddol yn dilyn adborth yr ymgynghoriad.
“Yn gyntaf, bydd system dalu dwy haen yn cael ei defnyddio. O'r herwydd, fydd dim rhaid i rieni'r plant sy'n mynychu’r sesiynau gofal plant am hyd at dri diwrnod yr wythnos dalu’r gyfradd lawn o £60 y tymor yn seiliedig ar bum diwrnod – byddan nhw'n talu ffi ostyngol o £40 yn lle hynny. Yn ail, yn ogystal â'r eithriad ar gyfer disgyblion sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim, cytunir bellach y bydd angen i deuluoedd sydd â nifer o blant sy'n defnyddio'r gwasanaeth dalu am y ddau ddisgybl cyntaf yn unig.
“Roedd y rhain yn bwyntiau pwysig a godwyd gan drigolion a hoffwn ddiolch i’r rhai a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad, sydd wedi helpu’r Cabinet i wneud penderfyniad gwybodus ar y materion yma. Bydd y cynnig diwygiedig nawr yn cael ei weithredu, gyda’r holl incwm ychwanegol yn cael ei neilltuo ar gyfer y Gyllideb Ysgolion.”
Wedi ei bostio ar 30/01/2024