Mae Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn paratoi ar gyfer effaith sylweddol Storm Isha, wrth i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd tywydd oren ar gyfer y rhanbarth. Mae disgwyl i'r storm ddod â gwyntoedd cryfion, gan gyrraedd hyd at 80mya, a glaw trwm trwy gydol dydd Sul a dydd Llun.
Dylai trigolion ddisgwyl tywydd garw a allai achosi aflonyddwch o ran teithio, difrod i adeiladau, malurion yn hedfan, a choed a changhennau'n cwympo. Fe’ch anogir i ddiogelu unrhyw wrthrychau rhydd y tu allan i'ch eiddo.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn cynghori y gallai gweithgareddau yn yr awyr agored beri risg i ddiogelwch personol oherwydd gwyntoedd cryfion. Dylech chi osgoi ardaloedd coediog a pharciau yn ystod y cyfnod hwn oherwydd y perygl y gallai coed a changhennau gwympo.
Yn ystod cyfnod y rhybudd tywydd, rydyn ni’n annog trigolion a busnesau i fod yn effro ac yn wyliadwrus, yn ogystal â bod yn arbennig o ofalus wrth wneud teithiau hanfodol.
Os oes rhaid i chi deithio, cymerwch ofal arbennig a gyrru yn unol â’r amodau, gan ganiatáu lle ychwanegol rhwng cerbydau ac amser ychwanegol ar gyfer teithiau. Fe'ch cynghorir i fod yn ofalus iawn os oes rhaid i chi deithio ar ffyrdd mynydd oherwydd eu bod yn agored i’r gwyntoedd cryfion.
Dylai trigolion sydd wedi derbyn mesurau atal llifogydd yn flaenorol (fel llifddorau) ystyried rhoi’r rhain ar waith yn ystod y cyfnod hwn.
Os bydd gyda chi unrhyw broblemau, ffoniwch rif Argyfwng y Tu Allan i Oriau’r Cyngor ar 01443 425011 (dros y penwythnos tan 8.30am ddydd Llun).
Hefyd, dilynwch gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Swyddfa Dywydd a’r Cyngor am yr holl newyddion diweddaraf.
Wedi ei bostio ar 19/01/2024