Ym mis Rhagfyr 2023, dathlon ni 30 mlynedd o fusnes arobryn y Cyngor, Vision Products. Mae Vision Products yn fusnes cyflogaeth gefnogol sydd wedi’i leoli ym Mhont-y-clun. Mae’r busnes yn cynnig cymorth, hyfforddiant a chyflogaeth ystyrlon i bobl leol ag anableddau, yn ogystal â chynnig ystod eang o nwyddau a gwasanaethau i gwsmeriaid.
Cynhaliwyd achlysur i ddathlu pen-blwydd perl y busnes ar y safle ym Mhont-y-clun. Aeth y gweithiwr sydd wedi bod yno am y cyfnod hiraf ati i blannu coeden ar y safle yn symbol o hau hadau ar gyfer y dyfodol a'r twf sydd ar y gweill i’r busnes. Aeth gweithiwr arall ati i greu plac i'w osod y tu allan i'r adeilad yn deyrnged i'r tri degawd diwethaf.
Dyma’r hyn y dywedodd Andrea Fleming, y gweithiwr sydd wedi bod yno am y cyfnod hiraf, am Vision Products: "Pan ddechreuais i weithio yma ym mis Ionawr 1985, roeddwn i'n rhan o'r Gweithdy ar gyfer Pobl Ddall ac Anabl yn Nhrefforest ac roedd ail weithdy yn Llwynypia.
"Roedden ni'n gwneud cardiganau a gwasgodau i dimau Bowlio Merched Cymru, Lloegr a'r Alban. Roedd y gweithwyr dall yn defnyddio'r peiriannau gwau i greu'r darnau unigol cyn eu hanfon i'r adran gweuwaith i'w rhoi at ei gilydd. Roedden ni'n creu siwmperi trwchus i'r Gwasanaeth Ambiwlans a'r Heddlu lleol.
"Roedd yno adran clustogwaith ac roedd bagiau du yn cael eu gwerthu i sawl Cyngor. Ar y pryd, roedd ffenestri'n cael eu gwneud yn Llwynypia yn bennaf, ond roedden ni wedi dechrau gwneud ffenestri yn Nhrefforest.
"Ym 1993, cyfunon ni gyda Llwynypia a symud i'r adeilad a ddefnyddir hyd heddiw a dod yn Vision Products."
Cafodd busnes Vision Products ei sefydlu ym 1993 yn rhan o gyn Gyngor Sir Morgannwg Ganol ac roedd yn cynnig gwasanaethau gwau a theilwra. Erbyn heddiw, mae Vision Products yn fusnes cyflogaeth gefnogol yn rhan o Gyngor Rhondda Cynon Taf ac mae’n cynnig ystod o nwyddau a gwasanaethau, yn gwneud ffenestri a drysau PVCu, yn gosod offer llinell fywyd a theleofal, siopau symudedd a gwasanaeth offer yn y gymuned, yn ogystal â thrin, trwsio a chynnal a chadw systemau technoleg ac offer. Mae Vision Products yn falch iawn o'i wasanaeth o'r radd flaenaf, ac mae enw da y cwmni a boddhad y cwsmeriaid yn dystiolaeth o hynny.
Ar hyn o bryd, mae 96 o weithwyr yn rhan o'r garfan ac mae gan nifer o'r gweithwyr hynny anabledd. Mae'r staff ymroddgar yn Vision Products yn derbyn cymorth i ddatblygu eu sgiliau, dod yn annibynnol a ffynnu yn unigolion. Mae Vision Products yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu cynllun prentisiaethau i bobl ifainc ag anableddau.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae Vision Products yn fusnes cyflogaeth gefnogol arobryn yn rhan o'r Cyngor. Mae'r cwmni'n adnabyddus am ei wasanaethau o'r radd flaenaf a gweithlu ymroddgar.
"Dros y tri deg mlynedd diwethaf, mae Vision Products wedi cynnig cyfleoedd dysgu a datblygu rhagorol, ac wedi darparu cyflogaeth gynaliadwy i bobl leol ag anableddau. Mae ymdrechion y cwmni wedi cyfrannu at wella annibyniaeth a lles aelodau'r gweithlu.
"Hoffwn longyfarch Vision Products a'i weithlu am gyflawni'r garreg filltir arwyddocaol yma a chynnal ansawdd ei wasanaethau ar hyd y daith. Mae'r Cyngor yn falch iawn o'ch gwaith caled, ac rwy'n edrych ymlaen at weld eich cyflawniadau yn y dyfodol."
I ddathlu'r pen-blwydd arbennig yma, mae'r garfan yn Vision Products wedi cymryd rhan mewn prosiect paentio murlun i greu Coeden Amrywiaeth gyda chymorth artist lleol. Mae'r prosiect yn rhan o waith ailwampio'r ffreutur ar y safle. Mae pob aelod o staff wedi cyfrannu at y murlun trwy baentio deilen unigol ar y goeden i'w cynrychioli nhw.
Meddai aelodau o staff Vision Products:
"Yng ngeiriau Karen Draper “Diversity doesn’t look like anyone. It looks like everyone”. Yn Vision Products, rydyn ni'n meddwl am y gymuned ac am ein gilydd, felly mae'n lle gwych i weithio. Rydyn ni'n edrych ymlaen at y 30 mlynedd nesaf." ― Paula
"Rwy' wedi mwynhau bod yn rhan o'r prosiect ac rwy'n hoff iawn o edrych ar y murlun wrth weithio." ― Max
"Es i ati i baentio fy neilen i'n goch gan mai coch yw fy hoff liw. Bydda i'n edrych arni bob dydd o nawr ymlaen." ― Josh
"Dewisais i liwiau'r Hydref a mwynheais i fod yn rhan o dîm wrth gwblhau'r murlun." ― David
"Bydd y goeden yno am y 30 mlynedd nesaf; fe wnes i fwynhau ei phaentio." ― Jason
Roedd prosiect paentio'r murlun wedi'i gefnogi gan Community Murals CIC. Am ragor o wybodaeth, bwriwch olwg ar y wefan: https://www.communitymurals.org.uk/
I gael rhagor o wybodaeth am Vision Products ewch i'r wefan: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/GetInvolved/VisionProducts/Home.aspx
Wedi ei bostio ar 26/01/2024