Bydd gwaith y prif gynllun i osod pont droed newydd Glan-yr-afon yn Llwydcoed yn dechrau yr wythnos nesaf. Bydd y bont droed ar gau i’r gymuned o 8 Gorffennaf tan ddyddiad yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae'r strwythur yn darparu cyswllt allweddol ar gyfer cerddwyr a beicwyr rhwng y Lôn Las a Llwybr Cwm Cynon. Mae'r bont droed mewn cyflwr gwael felly bydd strwythur newydd, sy'n lletach ac yn fwy cyfleus i’r gymuned, yn cael ei osod.
Mae gwaith dargyfeirio cyfleustodau wedi’i gwblhau ar y safle sy’n golygu y bydd gwaith y prif gynllun yn dechrau o ddydd Llun 8 Gorffennaf.
Mae’r bont droed bresennol yn cael ei dymchwel yn rhan o’r gwaith yma felly fydd y llwybr dros yr afon ddim ar gael yn ystod cyfnod y gwaith – gan ddechrau o 8 Gorffennaf. Mae disgwyl i'r bont droed newydd agor i’r gymuned erbyn diwedd yr Hydref, 2024.
O 8 Gorffennaf, dylai cerddwyr a beicwyr ddefnyddio’r llwybr amgen gan ddilyn yr arwyddion sydd wedi’u gosod. Ewch ar hyd y Lôn Las, Heol Cwmynysminton, Ffordd Llwydcoed a Llwybr Cwm Cynon - neu mae modd dilyn y gwyriad yma am yn ôl. Ni fydd modd i’r gwasanaethau brys gael mynediad dros y bont droed.
Mae'r Cyngor wedi penodi Horan Construction Ltd i gynnal gwaith y cynllun.
Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Diolch i'r gymuned ymlaen llaw am eich cydweithrediad yn ystod y cynllun sydd ar ddod yn Llwydcoed. O ganlyniad i’r gwaith yma, bydd angen cau'r hawl tramwy cyhoeddus dros yr afon drwy gydol y gwaith. Bydd gwaith y prif gynllun yn dechrau o ddydd Llun 8 Gorffennaf felly bydd y bont droed yn paratoi i fod ar gau o’r dyddiad yma.
"Byddwn ni'n ymdrechu i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned - nodwch na fydd y cynllun yn effeithio ar fynediad ar hyd Llwybr Cwm Cynon. Rydyn ni wedi penodi contractwr ar gyfer y prif gynllun yn ddiweddar. Byddwn ni'n gweithio'n agos gyda'r contractwr er mwyn sicrhau cynnydd da dros y misoedd nesaf."
Wedi ei bostio ar 04/07/24