Bydd gwaith yn dechrau'n fuan i greu 52 o leoedd parcio yng Ngorsaf Drenau Treorci, gyda'r Cyngor yn cefnogi Trafnidiaeth Cymru i greu cyfleuster Parcio a Theithio newydd. Does dim disgwyl i’r gwaith darfu llawer.
Bydd y cynllun yn dechrau o ddydd Llun 22 Gorffennaf i adeiladu'r cyfleuster newydd ar dir nad yw’n cael ei ddefnyddio ger Clos Ystradfechan. Caiff ei leoli i'r de o gae pêl-droed Cae Mawr ac i'r de-ddwyrain o'r orsaf drenau - y tu hwnt i'r maes parcio bach sydd yno eisoes. Trafnidiaeth Cymru sydd yn berchen ar y safle a gafodd ei ddefnyddio'n ddiweddar fel safle i gadw offer ar gyfer gwaith trydaneiddio rheilffyrdd. Mae Centregreat Ltd wedi'i benodi’n gontractwr i gyflawni'r cynllun ar y safle.
Ar y cyfan, bydd 52 o leoedd parcio'n cael eu creu - 43 lle cyffredinol, 6 lle ar gyfer gwefru cerbydau trydan a 3 lle i bobl anabl. Bydd y safle'n cynnwys draenio cynaliadwy trwy saith gardd law, pob un tua maint lle parcio.
Bydd y gwaith cychwynnol yn ystod mis Gorffennaf ac Awst 2024 yn cynnwys sefydlu piblinell ddraenio wrth ymyl y cae pêl-droed, ynghyd â thanc gwanhau i'r gogledd o'r cae. Bydd dŵr glaw o'r prif safle yn cael ei gludo ar hyd y llwybr yma i'r afon drwy'r rhandiroedd, lle cafodd gwaith draenio ei gwblhau'n flaenorol. Bydd y gwaith ar y prif safle yn dechrau ym mis Medi 2024 i'w gwblhau ddechrau gwanwyn 2025.
Fydd y gwaith ddim yn tarfu llawer, gan fod y prif safle wedi'i leoli ar dir nad yw’n cael ei ddefnyddio. Fodd bynnag, yn ystod y gwaith o adeiladu'r draeniau (Gorffennaf ac Awst) fydd y llwybr mynediad i'r gogledd o gae pêl-droed Cae Mawr, na'r cae pêl-droed ei hun, ar gael. Bydd y cae pêl-droed ar agor yn ôl yr arfer ar ôl i'r gwaith draenio gael ei gwblhau (o fis Medi ymlaen). Fydd maes parcio bach yr orsaf drenau ddim ar gael o fis Medi 2024.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi darparu cyllid ar gyfer cost adeiladu'r cynllun, drwy ei Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth 2024/25.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Bydd y cyfleuster Parcio a Theithio newydd ar gyfer Gorsaf Drenau Treorci yn ychwanegiad amhrisiadwy i'r gymuned, gan gynyddu mynediad trigolion at drafnidiaeth gyhoeddus. Ar hyn o bryd, dim ond maes parcio bach sydd ar gael ar gyfer yr orsaf - sy'n cynnwys saith lle parcio - felly mae'r cyfleuster newydd sydd â 52 o leoedd yn cynrychioli gwelliant mawr.
"Mae annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer eu teithiau cyfan neu ran o'u teithiau bob dydd yn cynnig llawer o fanteision - o leihau tagfeydd ar ein ffyrdd i ostwng amseroedd teithio a helpu i wella'r amgylchedd. Dyna pam mae'r Cyngor wedi darparu buddsoddiad cyfalaf sylweddol, o tua £733,000, i gefnogi Trafnidiaeth Cymru i gyflawni'r cynllun yma.
"Bydd y ddarpariaeth barcio ychwanegol hefyd yn ategu darpariaeth Metro De Cymru, a fydd yn cynyddu amlder y gwasanaethau rheilffordd yng Nghwm Rhondda. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi penodi contractwr ar gyfer y cynllun, fydd yn dechrau o 22 Gorffennaf - gan ganolbwyntio'n gyntaf ar y gwaith draenio cyn symud ymlaen i'r prif gynllun ym mis Medi. Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.”
Wedi ei bostio ar 19/07/2024