Skip to main content

Murlun cyffrous yn dangos Rhondda Cynon Taf ar ei gorau!

Pavilion Mural - resized

Mae murlun enfawr, sy'n cynnwys hanes a threftadaeth Rhondda Cynon Taf, wedi cael ei greu a bydd yn cael ei arddangos ym Mhentref Rhondda Cynon Taf yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, eleni. Bydd gan Eisteddfodwyr gyfle i gymryd rhan drwy ddod â'r murlun yma'n fyw a'i liwio dros wythnos yr achlysur.

Mae'r murlun 15 x 5 troedfedd wedi'i greu gan Siôn Tomos Owen, artist, awdur a chyflwynydd teledu a radio o Dreorci. Mae'r murlun yn cynnwys golygfeydd hardd Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â llawer o bobl hanesyddol, tirnodau enwog ac atyniadau i dwristiaid. 

Meddai Siôn Tomos Owen:

Yn 2018 cefais fy nghomisiynu gan Love Treorchy i ddylunio darlun o Dreorci a Chwm Rhondda Uchaf a ddaeth yn ddarn parhaol ar hyd wal gefn tafarn The Lion ar y Stryd Fawr. Yn ddiweddar, cefais fy nghomisiynu i greu fy murlun mwyaf hyd yn hyn, ar dri llawr ar ochr Yr Hen Lyfrgell yn ardal Porth, sy'n darlunio hanes a threftadaeth Cwm Rhondda. Felly pan ofynnodd Cyngor Rhondda Cynon Taf i mi gyfuno'r syniadau yma a'u cynnwys mewn un murlun 15 x 5 troedfedd ac arddangos hanes a diwylliant ardal gyfan Rhondda Cynon Taf, cytunais yn syth.

Ar ôl cynnal gwaith ymchwil a gwneud ambell fraslun wrth grwydro'r Sir, nid dewis beth i'w gynnwys ar y murlun oedd yr her, ond sut byddai modd cynnwys ein holl etifeddiaethau diwylliannol anhygoel, pobl hanesyddol, tirnodau enwog a thirwedd hardd ar un dyluniad. Dyma ddweud yn sicr mai dyma un o'r murluniau mwyaf manwl rydw i erioed wedi'i wneud ac rydw i wedi ceisio cynnwys cymaint â phosibl arno. O James ac Evan James yn ysgrifennu ein hanthem genedlaethol ar ôl clywed yr alaw yn sŵn yr afon yn Nhrehafod, i dai crynion William Price uwchlaw Trefforest lle'r oedd am adfywio ein traddodiadau derwyddol Cymreig, o gerrig hynafol yr Orsedd a'r Maen Chwyf ym Mhontypridd i'r eitemau o'r Oes Haearn y daethpwyd o hyd iddyn nhw wrth y Llyn Fawr yn ardal Rhigos. O Groggs i’r Lido, timoedd chwaraeon i gorau, Llwybr Taith Taf i Gamlas Morgannwg, clybiau gweithwyr a theatrau. Gallai'r murlun fod dwywaith ei faint a byddwn i'n ei chael hi'n anodd cynnwys popeth sy'n ffurfio tapestri cyfoethog Rhondda Cynon Taf arno o hyd. Rwy'n gobeithio y bydd modd i bawb sy'n ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol helpu i liwio'r murlun a dod â fe'n fyw yn ystod yr wythnos arbennig yma o ddathlu'r Gymraeg ym mis Awst 2024.

Bydd y murlun yn cael ei arddangos ym Mhentref Rhondda Cynon Taf, a fydd yng Nghanolfan Calon Taf, yn agos i'r safle seindorf. Yn ogystal â'r murlun, bydd llwyth o weithgareddau'n digwydd yn yr ardal yma yn ystod wythnos yr Eisteddfod, gan gynnwys trafodaethau am hanes a threftadaeth, sesiynau 'Beth sydd y tu ôl i'r Bar?' gyda bragdai lleol, perfformiadau gan ysgolion lleol, corau a bandiau ar y safle seindorf a llawer yn rhagor. Bydd modd i Eisteddfodwyr hefyd gasglu llyfryn fydd yn llawn gwybodaeth ynglŷn â'r pethau sydd ar gael i'w gwneud yn lleol, lleoedd i ymweld â nhw a chodau gostyngiad i'w defnyddio yn ystod yr Eisteddfod ar gyfer llawer o atyniadau yn Rhondda Cynon Taf.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu:

Bydd Pentref Rhondda Cynon Taf yn gyfle arbennig i arddangos ein Bwrdeistref Sirol yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Bydd gwybodaeth ar gael i ymwelwyr â Rhondda Cynon Taf ynglŷn â'n parciau gwledig hardd ac ein hatyniadau unigryw i dwristiaid megis Parc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd ym Mharc Gwledig Cwm Dâr ac Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn Nhrehafod. Bydd sgriniau digidol yn arddangos lluniau o bopeth sydd gan Rondda Cynon Taf i'w gynnig i'n hymwelwyr gyda dolenni i'ch arwain at ragor o wybodaeth, a bydd yna drafodaethau a chyflwyniadau. Bydd llawer ar gael i annog ymwelwyr i wneud yn fawr o'u cyfnod yn Rhondda Cynon Taf yn ystod yr Eisteddfod a gobeithio eu denu nhw yn ôl i'r ardal dro ar ôl tro. 

Wedi ei bostio ar 31/07/2024