Cynhaliwyd y lansiad yn Ysgol Gynradd Gymunedol Pen-pych cyn tymor y merched yn 24/25.
Cafodd disgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Pen-pych, Tynewydd, sesiwn ymarfer pêl-droed y bore yma (19 Gorffennaf) gyda’r cyn-ddisgybl a chapten Gwalia United, Cori Williams-Mills, yn rhan o lansiad swyddogol Gwalia.
Bu Gwalia United, a adwaenid gynt fel Merched Dinas Caerdydd, yn diddanu disgyblion blwyddyn 5/6 gyda driliau a hyfforddiant ac yna gyda sgwrs a sesiwn holi ac ateb, lle cafodd y plant gyfle i ofyn cwestiynau i’r capten a chwaraewyr eraill a dysgu mwy am gymryd rhan yn y gamp.
Mae Capten Gwalia United, Cori Williams-Mills, yn un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gynradd Gymunedol Pen-pych ac roedd hi eisiau cynnwys yr ysgol a’r plant mewn fideo hyrwyddo byr ar gyfer ailfrandio’r clwb. Neges y clwb yw "Os ydyn nhw'n gallu ei weld, fe allan nhw ei wneud." Amlygwyd hyn yn y digwyddiad i ysbrydoli merched i ddilyn gyrfa mewn pêl-droed yn union fel y gwnaeth Cori.
Bydd yr unig gynrychiolwyr o Gymru yn system bêl-droed Lloegr, Gwalia United, yn dechrau tymor 2024/25 yn nhrydedd haen Uwch Adran Ddeheuol Cynghrair Cenedlaethol Merched yr FA, a bydd hyn o dan enw newydd y tîm. Bydd y gêm oddi cartref yn Billericay Town, ddydd Sul Awst 18.
Soniodd Teifion Lewis, Pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Pen-pych, am y sesiwn hyfforddi: “'I Ysgol Gynradd Gymunedol Pen-pych a'r gymuned gyfagos mae'n wych ein bod ni'n ymwneud â'r digwyddiad. Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o ba mor bwysig yw chwaraeon i’n hiechyd, yn feddyliol ac yn gorfforol, felly roedd croesawu Gwalia United yma i aillansio a hybu eu clwb a phêl-droed merched yn fraint wirioneddol.
“Mae gwybod bod y capten Cori Williams-Mills yn gyn-ddisgybl yn rhoi cysylltiad cryf ac ystyr i ni. Rydym yn falch iawn fel ysgol a chymuned o gyflawniadau Cori mewn pêl-droed, ac yn hapus i'w chefnogi hi a'r tîm. Hefyd, mae ymweliad heddiw gan dîm Gwalia United ond yn gwella proffil pêl-droed merched yn yr ardal hon, a’r gobaith yw y bydd yn annog rhai o’n disgyblion i ddilyn gyrfa mewn pêl-droed neu chwaraeon. Gobeithio y gallwn eu cefnogi yn y dyfodol gyda digwyddiad tebyg.”
Cyn y tymor, bydd Gwalia United yn chwarae dwy gêm gartref gyfeillgar cyn y tymor – un yn erbyn Wolverhampton Wanderers W.F.C ar 21 Gorffennaf a’r nesaf yn erbyn West Bromwich Albion F.C. Women ar 28 Gorffennaf, gyda’r ddwy gêm yn cael eu chwarae ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd am 2pm.
Wrth fyfyrio ar lwyddiant y lansiad, dywedodd Lee Griffin, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Go.Compare: “Rydym yn hynod o falch o fod yn noddwyr tîm Gwalia United ar gyfer ei dymor swyddogol cyntaf, ac mae ethos y tîm ar y cae ac oddi arno yn ysbrydoledig i unrhywun sy'n gwylio.
“Mae Gwalia United yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd i ferched a menywod gystadlu ar y lefel uchaf, ac rydym am fod yn rhan o feithrin yr uchelgais hwn a helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y gymuned.
“Mae lansiad heddiw ym Mhen-pych wedi bod yn enghraifft berffaith o ba mor ysbrydoledig y gall y tîm fod wrth annog pobl ifanc, ac yn enwedig merched ifanc, i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o ddisgyblion yn cyffroi am bêl-droed, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld yr effaith y gall Gwalia ei chael ar gymunedau llawr gwlad yn y dyfodol.”
Dywedodd Cydberchnogion Gwalia United, Julian Jenkins a Damien Singh: “Mae’r symudiad hwn o Ferched Dinas Caerdydd i Walia United wedi cymryd bron i 12 mis, ac rydym mor falch nawr bod pennod nesaf y clwb balch hwn wedi dechrau yn swyddogol.
“Mae’r clwb yma’n cynrychioli pob person yng Nghymru trwy gyfrwng pêl-droed merched, fyddwn ni ddim yn stopio nes i ni gael y clwb gwych yma nôl lle mae’n perthyn yn y WSL. Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd heddiw, ac roedd yn bleser gweld cymaint o wynebau’n gwenu, dyna hanfod y clwb hwn.
“Mae ein gweledigaeth yn glir, a gyda phob diwrnod sy’n mynd heibio, rydym yn symud yn nes at wireddu potensial eithaf y clwb a’r genedl hon. Mae’r newid o Fenywod Dinas Caerdydd i Gwalia United yn gam sylweddol ar y daith hon, gan ategu ein hymrwymiad i sicrhau llwyddiant ar y cae ac oddi arno.”
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod Cabinet ar faterion Addysg, Cynhwysiant a’r Iaith Gymraeg: “Mae’r ymweliad cyffrous hwn gan Gwalia United a chyn-ddisgybl Pen-pych, Cori Williams-Mills, wedi bod yn wych i’w gynnal. Roedd y dysgwyr yn amlwg wedi mwynhau’r diwrnod, ac rydym i gyd yn falch iawn o’u gweld yn cael eu cynnwys yn y fideo ailfrandio swyddogol ar gyfer y tîm! Bydd y cyfle i ymgysylltu a Gwalia am ddyfodol pêl-droed yn siŵr o ysbrydoli dysgwyr i ddilyn yn ôl troed Cori.”
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi buddsoddi'n sylweddol mewn creu cyfleusterau 3G newydd ar draws y Fwrdeistref Sirol i sicrhau bod cae 3G o fewn radiws o 3 milltir i bob preswylydd.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae chwaraeon yn hynod o bwysig i les ein dysgwyr, ac maen nhw’n dysgu llawer o sgiliau bywyd i ni, gan gynnwys gwaith tîm a meithrin gwytnwch.
“Rydym am sicrhau bod gennym y cyfleusterau gorau posibl, er mwyn rhoi cyfle i bobl gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon. Rwy’n falch o ddweud ein bod wedi gwneud a chyflawni ymrwymiad i wella mynediad i chwaraeon drwy ddarparu cae 3G o fewn radiws o 3 milltir i bob preswylydd.
“Eleni byddwn yn agor ein 17eg cae chwaraeon 3G pob tywydd, yn y Ddraenen Wen, y gellir ei ddefnyddio gan y gymuned gyfan. Rwy’n gobeithio bod dysgwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Pen-pych wedi’u hysbrydoli gan Gwalia United, ac yn gwneud defnydd o’n cyfleusterau 3G gwych.”
Wedi ei bostio ar 19/07/24