Skip to main content

Buddsoddiad mewn cyfleusterau mwy diogel i gerddwyr yn y Ddraenen-wen bellach wedi'i gwblhau

Hawthorn grid

Mae'r holl waith i wella cyfleusterau i gerddwyr a darparu llwybrau mwy diogel i'r ysgol yn y Ddraenen-wen bellach wedi'u cwblhau. Bydd hyn hefyd yn barod ar gyfer agor cyfleusterau addysg newydd ar gyfer y gymuned ym mis Medi.

Mae'r cynllun cyffredinol hefyd wedi'i gwblhau mewn pryd ar gyfer cynnal Cyfleuster Parcio a Theithio rhwng y Ddraenen-wen a'r Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf sy'n cael ei chynnal ym Mhontypridd rhwng 3 a 10 Awst.

Mae Cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer y Ddraenen-wen wedi cael ei gyflawni yn defnyddio cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25 ac wedi canolbwyntio ar wella Heol Caerdydd, Lôn yr Ysgol a Ffordd Ynyslyn - llwybrau allweddol ar gyfer disgyblion a theuluoedd sy'n cerdded a beicio i Ysgol Gynradd y Ddraenen-wen ac Ysgol Uwchradd y Ddraenen-wen bob dydd.

Dechreuodd y gwaith ym mis Mai 2024, ac mae elfennau olaf y cynllun cyffredinol wedi'u cwblhau yn ddiweddar gan gontractiwr y Cyngor. Mae'r gwaith wedi cynnwys:

  • Gosod croesfan twcan newydd ar yr A4054 Heol Caerdydd, gydag addasiadau ar groesfan gerllaw er mwyn gwella diogelwch.
  • Gwared â'r lonydd aros ar Heol Caerdydd er mwyn lleihau lled y briffordd, sydd wedi gwella diogelwch i gerddwyr.
  • Gwella'r llwybr troed ar hyd Lôn yr Ysgol, gan greu llwybr teithio llesol a rennir, gan gynnwys arwyddion cyfeirio newydd ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
  • Darparu cilfannau parcio newydd er mwyn gwella'r gwelededd ar gyfer cerddwyr mewn sawl cyffordd leol.
  • Gwella rhannau o'r llwybr troed, a gosod a gwella croesfannau anffurfiol gan ddefnyddio palmant botymog.
  • Cyflwyno mesurau 'dim parcio' ar sawl cyffordd sydd wedi'u nodi er mwyn gwella'r llif traffig presennol.

Mae'r gwaith ailwynebu terfynol wedi'i gynnal yn ddiweddar ar hyd Heol Caerdydd. Caewyd y ffordd am gyfnod er mwyn cwblhau'r gwaith. Byddwch yn ymwybodol bydd lôn Heol Ynyscorrwg yn cael ei hailwynebu yn ddiweddarach yn yr haf - bydd y Cyngor yn cyflwyno manylion am y trefniadau i drigolion mewn da bryd.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Bydd y gwelliannau lleol pwysig yma yn y Ddraenen-wen yn darparu amgylchedd mwy diogel i gerddwyr a beicwyr yn y gymuned - ac i deuluoedd sy'n mynd i'r ysgol ac oddi yno bob bore a phrynhawn. Mae'r newidiadau wedi cynnwys croesfan ddiogel newydd ar Heol Caerdydd, yn ogystal ag uwchraddio llwybrau troed gyda chyfleusterau teithio llesol penodedig, gwella gwelededd ger cyffyrdd a gwella croesfannau anffurfiol.

"Mae'r Cyngor wedi elwa o gymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru, yn rhan o'i grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau er mwyn darparu'r gwelliannau lleol yma. Cafodd cyllid cyfalaf cyfatebol ei roi gan y Cyngor gan olygu bod y cynllun yn cynrychioli buddsoddiad gwerth £470,000. Rydyn ni'n ceisio annog rhagor o deuluoedd i gerdded i'r ysgol er mwyn gwella eu hiechyd a'u lles, i leihau traffig lleol, ac er mwyn helpu'r amgylchedd - mae'n bwysig felly i ddarparu llwybrau mwy diogel i'r ysgol.

"Mae'r gwaith yma yn y Ddraenen-wen wedi'i ddarparu yn ategol i'r buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau addysg yn yr ardal. O fis Medi 2024, bydd ysgol newydd Ysgol Afon Wen yn agor ei drysau ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 16 oed ar safle'r ysgol gynradd ac ysgol uwchradd oddi ar Heol Caerdydd - gan gynnwys adeilad ysgol a chyfleusterau allanol newydd sbon.

"Cafodd cynlluniau llwybrau mwy diogel eu darparu ar y cyd â'n datblygiadau ysgol diweddar yn Hirwaun, ac yn fwy diweddar ym Mhentre'r Eglwys - cyn agor adeilad newydd Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ym mis Ebrill 2024. Mae cynlluniau'r gorffennol naill ai wedi bod yn ategol at fuddsoddiadau mewn ysgolion neu wedi'u nodi ar wahân - ac mae'r rhain wedi'u cwblhau yn Llanilltud Faerdref, Llwynypia, Abercynon, Llantrisant, Cilfynydd a Thon Pentre dros y blynyddoedd diweddar.

"Hoffen i ddiolch i drigolion lleol y Ddraenen-wen am eu cydweithrediad dros gyfnod y gwaith diweddar, gan gynnwys cyfnod cau'r ffordd ar gyfer yr elfen ailwynebu derfynol."

Wedi ei bostio ar 26/07/24