Mae Panel Heddlu a Throsedd De Cymru eisiau penodi 2 Aelod Cyfetholedig Annibynnol. Mae’r Panel yn gorff cyhoeddus annibynnol a sefydlwyd yn unol â Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ac mae’n gyfrifol am y swyddogaethau canlynol:
- Cefnogi Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru i gyflawni ei rôl yn effeithiol.
- Adolygu drafft o Gynllun Heddlu a Throseddu Blynyddol y Comisiynydd.
- Adolygu cyllideb ddrafft flynyddol y Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
- Adolygu ac archwilio penderfyniadau'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd a'r camau y mae'n eu cymryd.
- Os oes angen, adolygu'r bwriad i benodi neu ddiswyddo'r Prif Gwnstabl.
- Rhoi adroddiadau neu argymhellion i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ôl yr angen.
Ni ddylai ymgeiswyr ar gyfer rolau aelodau annibynnol fod yn:
- Aelod o staff Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.
- Swyddog Heddlu neu aelod o staff sifil Heddlu De Cymru.
- Aelod Seneddol; aelod o Senedd Cymru, neu aelod o Senedd yr Alban.
- Aelod o awdurdod lleol yn ardal Heddlu De Cymru.
Bydd yr ymrwymiad gofynnol oddi wrth Aelod Cyfetholedig Annibynnol yn dibynnu ar y rhaglen waith a gaiff ei chymeradwyo gan y Panel, ond yn nodweddiadol bydd cyfartaledd o bump o gyfarfodydd y flwyddyn. Caiff cyfarfodydd eu cynnal yn ystod oriau swyddfa arferol ym Merthyr Tudful, ond mae’n bosibl y byddant yn cael eu cynnal mewn lleoliadau amrywiol ledled ardal De Cymru. Does dim cyflog am y rôl, ond mae lwfans yn daladwy.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau erbyn 09/08/2024 fan bellaf.
Sut i wneud cais:
Gellir gofyn am gopi o'r ffurflen gais drwy e-bostio Simon Jones, Swyddog Cefnogi'r Panel - simon.jones@merthyr.gov.uk.
Dylid anfon ffurflenni cais wedi'u cwblhau at Simon Jones, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN – ffôn 01685 725000 neu drwy e-bost at simon.jones@merthyr.gov.uk
Wedi ei bostio ar 09/07/2024