Skip to main content

Ysgolion RhCT yn Rhannu Arferion Dysgu Digidol Newydd

Prosiect Prom (1)

Daeth ysgolion ar draws Rhondda Cynon Taf at ei gilydd ddydd Llun, Mehefin 24, i arddangos arfer effeithiol mewn dysgu digidol. Mae ysgolion RhCT wedi bod yn cydweithio i ddatblygu arferion arloesol i gefnogi datblygiad sgiliau digidol o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Cyflwynwyd Gwobr Arweinydd Digidol Disgybl RhCT cyntaf i ddisgyblion, sef penllanw rhaglen y maent wedi cymryd rhan ynddi i wella arweinyddiaeth ddigidol mewn ysgolion. Daw'r cynllun fel rhan o Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion RhCT, a ariennir gan gronfa HWB Llywodraeth Cymru.

Mae dysgu digidol wedi dod yn rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol ac mae Tîm Digidol i Ysgolion RhCT wedi datblygu ei Rwydwaith Arweinwyr Digidol cyntaf i gefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd ar eu taith i ddysgu digidol effeithiol. Mae rhaglen EdTech Hwb Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £100 miliwn i gefnogi’r gwaith o drawsnewid seilwaith digidol a darparu mynediad at ddyfeisiau digidol ar draws pob ysgol a gynhelir yng Nghymru.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail lle daeth Penaethiaid a Hyrwyddwyr Digidol o dros 50 o ysgolion i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai. Roedd y gweithdai a gyflwynwyd gan ysgolion RhCT yn arddangos arferion effeithiol, gan ddatblygu prosiectau digidol ysgol-i-ysgol ar y cyd, ymgorffori dysgu digidol yn y Cwricwlwm i Gymru, a defnyddio offer Hwb i wella a chefnogi dysgu. Cyflwynwyd gweithdy diogelwch ar-lein gan Dîm Gwydnwch Digidol Llywodraeth Cymru yn dangos sut y gwnaethant ddatblygu dysgu digidol gyda diogelwch mewn golwg a’r gwahanol ffyrdd y gall disgyblion ac athrawon aros yn ddiogel wrth ddysgu’n ddigidol.

Dyma’r ysgolion a’r gweithdai a gyflwynwyd yn y digwyddiad:

• Datblygu Llais Disgybl Dilys gyda Flipgrid - Ysgol Gynradd Maerdy

• Cynllunio ar gyfer dilyniant o fewn y Fframwaith Cymhwysedd Digidol - Ysgol Gynradd Craig yr Hesg ac Ysgol Gynradd Maes-y-Coed (yn cynrychioli Clwstwr Uwchradd Pontypridd)

• Ymgorffori Fframwaith Cymhwysedd Digidol o fewn Cwricwlwm i Gymru - Ysgol Gynradd y Seintiau Gabriel a Raphael

• Datblygu Cymhwysedd Digidol Trwy Brojectau Hanes Lleol/Cymunedol - Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref

• Cydweithio Ysgol-i-Ysgol Effeithiol - Ysgol Gynradd Treorci

• Datblygu Arferion Diogelwch Ar-lein Effeithiol - Tîm Gwydnwch Digidol Hwb

Gwahoddwyd disgyblion o ysgolion RhCT i rannu arferion gorau a derbyn Gwobr Arweinydd Digidol Disgybl RhCT cyntaf erioed a gyflwynwyd gan Tim Britton, Pennaeth Cyflawniad yn RhCT - Sector Cynradd. Rhoddwyd y wobr am gyflawni amrywiaeth o gerrig milltir yn ystod Rhaglen Arweinwyr Digidol Disgyblion RhCT.

Yr ysgolion a dderbyniodd y wobr yn y digwyddiad oedd:

Ysgol Gynradd Brynnau

Ysgol Gynradd Trewiliam

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Cwmbach

Ysgol Gynradd Craig Yr Hesg

Ysgol Gynradd Trehopcyn

Ysgol Gynradd Trerobart

Ysgol Gynradd Tref-Y-Rhyg

Ysgol Gynradd Darran Park

Ysgol Gymuned y Porth

Ysgol Gynradd Treorci

Ysgol Gynradd y Seintiau Gabriel a Raphael

Ysgol Gynradd Glenboi

Ysgol Gyfun Aberpennar

Ysgol Gynradd Pont-y-clun

Ysgol Gynradd Llantrisant

Dywedodd James Protheroe, Swyddog Arweiniol RhCT ar gyfer Dysgu Digidol mewn Ysgolion: "O helpu eraill i gadw’n ddiogel ar-lein neu ddatblygu sgiliau digidol, i gyfathrebu â rhieni a’r gymuned leol, mae’r dysgwyr hyn yn chwarae rhan bwysig wrth arwain dysgu digidol yn eu hysgolion."

Bydd y digwyddiad arddangos yn parhau fel dathliad blynyddol o ddysgu digidol ar draws RhCT, i rannu gwybodaeth bellach ac arferion gorau mewn dysgu digidol.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod Cabinet dros Addysg, Cynhwysiant a’r Iaith Gymraeg: “Diwrnod gwirioneddol lwyddiannus i ysgolion RhCT yn rhannu arfer gorau a dysgu am ddyfodol dysgu digidol. Roedd HWB Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn wych wrth gefnogi’r cynllun hwn ac addysgu’r ysgolion am ddiogelwch ar-lein, wrth hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael i athrawon sy’n integreiddio dysgu digidol i’r cwricwlwm.

“Rwy’n falch iawn o’r disgyblion arweinwyr digidol ac yn awyddus i weld dyfodol y rhaglen a sut mae’n datblygu dysgu yn y dyfodol yn Ysgolion RhCT, gan osod y disgyblion ar gyfer y dyfodol.”

Wedi ei bostio ar 09/07/2024