Skip to main content

Gwaith Ailddatblygu Adeilad Rock Grounds yn Aberdâr yn symud yn ei flaen

OHNL2319

Ym mis Gorffennaf 2023, cymeradwyodd Cabinet Rhondda Cynon Taf gynigion i ailddatblygu Adeilad Rock Grounds yng nghanol tref Aberdâr. Mae'r cynlluniau yma’n rhan o strategaeth Aberdâr sydd wedi’i mabwysiadu a bydd Adeilad Rock Grounds yn cael ei ailddatblygu'n westy o ansawdd uchel gyda bwyty, bar a sba, ar gael i ymwelwyr a'r gymuned leol.

Fel rhan o Strategaeth Swyddfeydd y Cyngor, mae gweithwyr y Cyngor bellach wedi gadael Adeilad Rock Grounds i baratoi ar gyfer ailddatblygu'r safle.

Ar ôl cynnal ymarfer caffael diweddar, mae'r Cyngor yn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda phartner datblygu posibl. Mae'r partner yma wedi cyflwyno cynnig dylunio cynhwysfawr ar gyfer yr ailddatblygiad sy'n anelu at ddarparu cyfleusterau o ansawdd uchel i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd ac yn gyrchfan o ddewis ar gyfer achlysuron arbennig.

Er bod y cynnig a gyflwynwyd yn amlinellu camau dylunio cychwynnol yr ailddatblygiad, mae disgwyl i adroddiad diweddaru gael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Medi i roi gwybod i Aelodau am gynnydd diweddar.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris - Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant: Rwy'n falch o ddweud bod y cynigion ar gyfer y Rock Grounds yn Aberdâr yn datblygu'n dda. Mae'r cynlluniau ailddatblygu sydd wedi'u cyflwyno yn cyd-fynd â'n gweledigaeth ar gyfer cyrchfan fywiog, ddeinamig, a deniadol. Y cam nesaf yw cyflwyno adroddiad cynnydd sydd wedi'i ddiweddaru i'r Cabinet ym mis Medi.

“Trwy drawsnewid Adeilad Rock Grounds yn gyfleuster gwesty o ansawdd uchel, ynghyd â bwyty, bar a sba, ein nod yw gwella hunaniaeth gyffredinol Canol Tref Aberdâr a chreu rhywle y gall ymwelwyr a'r gymuned leol ei fwynhau, yn unol â Strategaeth Dwristiaeth y Cyngor.

"Wrth i ni symud ymlaen gydag ailddatblygu Rock Grounds, rwy'n edrych ymlaen at weld y prosiect yma’n mynd rhagddo i greu cyfleuster blaenllaw a fydd yn cyfoethogi Aberdâr ac yn darparu atyniad ychwanegol i bobl ymweld â chanol y dref."

Mae Strategaeth Aberdâr a gafodd ei chymeradwyo gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2023, yn nodi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer ailddatblygu a gwella Aberdâr, gan ystyried treftadaeth unigryw a lleoliad strategol y dref. Mae gyda nhw weledigaeth i greu cyrchfan fywiog, ddeinamig, a deniadol ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr i'r ardal, drwy:

  • Gwella cynaliadwyedd
  • Cynyddu defnydd o safleoedd yng nghanol y dref
  • Gwella defnydd diogel o fannau cyhoeddus
  • Cefnogi datblygiad ystod amrywiol o fusnesau
  • Gwella ymddangosiad a hunaniaeth gyffredinol canol y dref.
Wedi ei bostio ar 16/07/24