Skip to main content

Y Cabinet yn bwrw ymlaen â chynigion diwygiedig ar gyfer ysgol ar safle Llanilid

School generic 2023 - rhydyfelin

Mae'r Cabinet wedi trafod cynlluniau diwygiedig ar gyfer darpariaeth ysgol gynradd yn y dyfodol ar gyfer datblygiad tai Llanilid. Mae aelodau wedi cytuno i ymgynghori ar y cynigion newydd – i sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg newydd, a newid Ysgol Gynradd Dolau yn lleoliad cyfrwng Saesneg. Mae disgwyl i'r ymgynghoriad ddechrau ym mis Medi.

Roedd adroddiad i'r Cabinet ar Ddydd Mercher, 17 Gorffennaf, yn rhoi diweddariad ar gynnydd y Cyngor o ran ymateb i'r galw yn y dyfodol am leoedd ysgol y bydd eu hangen wrth i ddatblygiad tai Llanilid fynd rhagddo. Yn 2016, cafodd caniatâd cynllunio ei roi i ddatblygwr adeiladu 1,850 o gartrefi ar yr hen safle glo brig - ynghyd ag amwynderau cymunedol sy’n cynnwys ysgol gynradd.

Yn sgil oedi a brofwyd gan y datblygwr tai wrth fwrw ymlaen â'r ysgol newydd, roedd yn rhaid ailedrych ar gynnig gwreiddiol y Cyngor (yr ymgynghorwyd arno yn 2018/19) a’i ail-lunio yn erbyn cefndir Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor (2022-2032). Yn wyneb y datblygiadau cenedlaethol hyn ac i gefnogi ymrwymiad y Cyngor i gynyddu nifer y disgyblion cyfrwng Cymraeg, mae swyddogion wedi diwygio'r cynigion i sicrhau y byddai ysgol cyfrwng Cymraeg penodedig yn yr ardal.

Byddai'r cynigion, pe cytunir arnyn nhw, yn cael eu cyflawni erbyn blwyddyn academaidd 2027/28 fan bellaf. Maen nhw'n cynnwys y canlynol:

  • Sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer plant 3-11 oed yn rhan o ddatblygiad tai Llanilid, gyda lle i 480 o ddisgyblion oedran ysgol statudol ynghyd â 60 o leoedd meithrin.
  • Newid cyfrwng iaith Ysgol Gynradd Dolau o ddwy iaith i gyfrwng Saesneg. Byddai ganddo gapasiti mwy ar gyfer 488 o ddisgyblion oedran statudol ynghyd â 63 o leoedd meithrin, wedi'u darparu trwy addasiadau ar raddfa fach i ail-ddefnyddio lleoedd presennol.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg: “Ddydd Mercher, fe wnaeth y Cabinet drafod cynigion newydd gan swyddogion ar gyfer y ddarpariaeth ysgol gynradd ychwanegol fydd ei angen pan fydd 1,850 o gartrefi yn cael eu hadeiladu yn Llanilid. Nod y cynlluniau diwygiedig yw hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ymhellach wrth i’r ardal dyfu mewn poblogaeth, gan gynnig lleoliad newydd sbon – yn ogystal â chadw Ysgol Gynradd Dolau, sy’n ysgol sy’n perfformio’n dda iawn, fel opsiwn parhaus ar gyfer addysg cyfrwng Saesneg. 

“Byddai’r cynnig yn cefnogi'r weledigaeth genedlaethol ar gyfer y Gymraeg yn y strategaeth Cymraeg 2050, ac yn cydymffurfio ag ymrwymiadau’r Cyngor ei hun sydd wedi'u hamlinellu yn ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Mae swyddogion yn nodi y byddai ysgol cyfrwng Cymraeg newydd sy'n gwasanaethu Llanilid yn cael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifainc o bob oed, ac mae disgwyl y byddai’r datblygiad newydd yma'n arwain at gynnydd yn nifer y disgyblion sy'n cael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg yn lleol. Mae’r uchelgais yma yn cyd-fynd â’r targedau a saith deilliant sy’n sail i’n Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 10 mlynedd.

“Yn ystod cyfarfod y Cabinet, rhoddodd yr Aelodau gymeradwyaeth ffurfiol i ddechrau’r broses ymgynghori statudol perthnasol mewn perthynas â’r ddau gynnig – sef creu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd a newid Ysgol Gynradd Dolau yn lleoliad cyfrwng Saesneg. Bydd swyddogion yn cyflwyno adroddiad ymgynghori i'r Cabinet mewn cyfarfod yn y dyfodol, a fydd yn llywio'r penderfyniad terfynol ar y cynigion hyn.

“Os cytunir arno, yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer Dolau fyddai ein cyfleuster addysg o'r radd flaenaf ddiweddaraf - ac mae gyda ni hanes rhagorol o gyflawni cyfleusterau o’r math hyn. Mae’r buddsoddiad mawr werth £79.6 miliwn yn ardal ehangach Pontypridd yn cynnwys ysgolion newydd ar gyfer y Ddraenen Wen, Cilfynydd a Rhydfelen a fydd yn agor ym mis Medi, a hynny'n ychwanegol i'r cyfleusterau rhagorol sydd eisoes yn cael eu defnyddio yn ardal Beddau. Fe wnaethon ni hefyd agor adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ym mis Ebrill - a bydd prosiectau tebyg yn dilyn yn Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi dros yr haf ac yn Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn 2025. Bydd Ysgol Gynradd Llyn y Forwyn hefyd yn derbyn ysgol newydd sbon."

Byddai gan yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd ystafelloedd dosbarth modern, cyfleusterau cwbl hygyrch a hyblyg, gofod ychwanegol ar gyfer ymyraethau Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac ardaloedd ar gyfer defnydd Ysgol Gynradd Dolau a’r gymuned. Bydd mannau awyr agored modern yn cefnogi gweithgareddau'r cwricwlwm ac yn gwella llif traffig.

Byddai cost cyfalaf yr ysgol yn cael ei thalu gan yr Ardoll Seilwaith Cymunedol, ynghyd â buddsoddiad drwy Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru. Byddai'r buddsoddiad bychan sydd ei angen yn Ysgol Gynradd Dolau yn cael ei dalu o gyllideb graidd y Cyngor. Byddai unrhyw gyllid pellach, er enghraifft costau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol, yn cael ei nodi wrth i'r prosiect fynd rhagddo.

Wedi ei bostio ar 30/07/2024