DIWEDDARIAD: 09/08/24 - Gwasanaeth bws gwennol wedi'i gadarnhau gwaith (wedi'u nodi ar waelod yr eitem newyddion)
Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar 29/07/24
Mae'r Cyngor yn rhoi rhybudd ymlaen llaw ynghylch y cynllun atgyweirio sylweddol ar gyfer ailadeiladu'r wal gynnal yn Stryd Margaret ym Mhont-y-gwaith; bydd y broblem hirdymor â'r strwythur yn sgil difrod wedi storm yn cael ei datrys o ganlyniad i'r cynllun yma.
Yn sgil y cynllun, bydd rhan 40-metr o'r wal yn cael ei hailadeiladu a bydd gwaith atygweirio sylweddol yn cael ei wneud i'r hyn sy'n weddill o'r strwythur. Mae'r prosiect mawr yma'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y strwythur yn gadarn a diogel – bydd peiriannau trwm a thechnegau adeiladu arbenigol yn cael eu defnyddio i ailadeiladu'r wal yn effeithiol.
Erbyn cyrraedd diwedd y cynllun bydd y wal yn fwy cadarn a diogel, a bydd hyn yn ateb hirdymor i'r problemau sy'n bodoli ar hyn o bryd. Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Raglen Cyfalaf y Priffyrdd a Thrafnidiaeth ar gyllideb o £6.58miliwn sydd wedi'i glustnodi ar gyfer Strwythurau'r Priffyrdd.
Mae'r Cyngor wedi cadarnhau y bydd y cynllun yn cael ei roi ar waith ddydd Llun, 12 Awst, ac mae disgwyl i'r gwaith ddod i ben ddiwedd tymor yr Hydref 2024. Hammonds ECS yw'r contractwr sydd wedi'i benodi i ymgymryd â'r gwaith yma ar y safle.
Bydd gofyn cau rhan o'r ffordd yn Stryd Margaret am y cyfnod cyfan; bydd y rhan yma'n dechrau yn 43 Stryd Margaret ac yn gorffen ar bwynt ger 6 Teras Lewis – gyda thraffig lleol yn cael ei ddargyfeirio drwy Bont-y-gwaith a Wattstown. Bydd trywydd arall ar gael ar hyd Heol Aberllechau, yr A4233 a Stryd Llywellyn. Bydd mynediad i gerddwyr a cherbydau'r gwasanaethau brys o hyd. Dylai beicwyr ddod oddi ar eu beiciau a defnyddio'r llwybr cerdded.
Bydd gwasanaeth bws gwennol ar waith er mwyn hwyluso trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y cyfnod y bydd y ffordd ar gau – er mwyn sicrhau cyn lleied o effaith â phosib ar y gymuned leol.
Bydd gwasanaethau cludo disgyblion yn parhau tra bod y ffordd ar gau. Caiff disgyblion wybod am unrhyw newidiadau i’r amserlen neu drefniadau'r man casglu/codi.
Bydd y Cyngor yn rhoi diweddariadau rheolaidd i breswylwyr drwy gydol cyfnod y cynllun, er mwyn rhoi gwybod i'r gymuned sut mae'r prosiect yn mynd rhagddo ac am unrhyw newidiadau i'r amserlen. Bydd y mesurau rheoli traffig sydd ar waith nawr ar Stryd Margaret yn dod i ben pan fydd y prosiect wedi'i gwblhau.
Gwasanaeth bws gwennol wedi'i gadarnhau
Bydd gwasanaeth bws gwennol AM DDIM gan gwmni Stagecoach yn rhedeg o safle bws Calfaria, Wattstown, a safle bws Teras Bragdy Cosmo, Pont-y-gwaith.
Mae'r amserlen ar gyfer y bws gwennol i’w gweld trwy ddilyn y ddolen ganlynol ar wefan y Cyngor.
Bydd y gwasanaeth yn gadael safle bws Calfaria ac yn teithio ar hyd y ffordd osgoi i arosfannau bysiau'r Jiwbilî a'r Feddygfa, cyn teithio i Bont-y-gwaith i safle bws Teras Bragdy Cosmo.
Ar y daith yn ôl, bydd cysylltiadau ar gyfer y gwasanaethau eraill tua'r gogledd a thua'r de, gan gynnwys Gwasanaethau 124 a 132, ar gael o arosfannau bysiau'r Jiwbilî a'r Feddygfa.
Bydd y bws gwennol wedyn yn dychwelyd i Arhosfan Bws Calfaria ar hyd y ffordd osgoi.
Trefniadau dros dro eraill ar gyfer gwasanaethau lleol
Fydd dim modd i Wasanaethau 124, 132, 155 ac X32 fynd i Wattstown, a fydd dim modd i Wasanaethau 124, 132 ac X32 fynd i Bont-y-gwaith. Bydd Gwasanaeth 155 yn dilyn ei lwybr arferol drwy Bont-y-gwaith.
Bydd gwasanaeth 133 (Llwyncelyn-Wattstown), gan gwmni Thomas o'r Rhondda, yn rhedeg yn ôl yr arfer.
Fydd safleoedd bysiau Stryd Margaret ym Mhont-y-gwaith na Theras Lewis yn Wattstown ddim yn cael eu defnyddio tra bod y ffordd ar gau. Dylai teithwyr ddefnyddio'r arosfannau agosaf, sef Teras Bragdy Cosmo neu Calfaria.
Bydd amserlenni wedi'u diweddaru ar gyfer y cyfnod cau yn cael eu gosod ym mhob arhosfan bysiau ledled Pont-y-gwaith a Wattstown.
Wedi ei bostio ar 29/07/24