Skip to main content

Y newyddion diweddaraf ar ailwynebu ffyrdd ac adnewyddu llwybrau troed ers mis Ebrill

Porth Bypass completion 2 - Copy

Ffordd Osgoi’r Porth ym Mhont-y-gwaith

Mae'r Cyngor wedi gwneud cynnydd da iawn tuag at gyflawni ei brif raglenni ailwynebu ffyrdd ac adnewyddu llwybrau troed hyd yn hyn yn 2024/25. Bydd hyn yn cynrychioli buddsoddiad cyfunol o £7.5 miliwn y flwyddyn ariannol yma, sy’n cynnwys £1 miliwn a ddygwyd ymlaen o 2023/24.

Cytunwyd ar Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth gan y Cyngor ym mis Mawrth 2024 ar gyfer y flwyddyn ariannol yma. Dyrannodd £5.98 miliwn o gyllid ar gyfer rhoi wyneb newydd ar ffyrdd a chynlluniau trin ffyrdd, £575,000 ar gyfer adnewyddu llwybrau troed, a £200,000 tuag at y rhaglen barhaus o ofalu am ffyrdd heb eu mabwysiadu.

Ers i'r rhaglen ddechrau ym mis Ebrill 2024, mae'r Cyngor wedi cwblhau 33 o gynlluniau i ail-wynebu lonydd cerbydau hyd yma. Mae 12 o'r cynlluniau i adnewyddu llwybrau troed naill ai wedi'u cwblhau neu'n mynd ymlaen ar hyn o bryd, ac mae dwsinau yn rhagor wedi'u cynllunio ledled y Fwrdeistref Sirol.

Cwblhawyd nifer o gynlluniau ail-wynebu mawr yn ddiweddar – gan gynnwys Heol Aberdâr yn Aberpennar, Ffordd Llantrisant ym Mhenycoedcae, Stryd Morgan ym Mhontypridd, a Ffordd Osgoi’r Porth ym Mhont-y-gwaith.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Sawl blwyddyn yn ôl fe wnaethom ni ymrwymiad i fabwysiadu dull ariannu cyflymach tuag at gynnal a chadw ein ffyrdd – gan ddyrannu cyllid sylweddol flwyddyn ar ôl blwyddyn i wella eu cyflwr, gyda’r nod o fod angen gwneud llai o waith trwsio brys. Rydym ni wedi gweld tuedd gyffredinol o welliant dros nifer o flynyddoedd. Roedd 15.7% o’r holl ffyrdd dosbarthedig yn RhCT angen gwaith cynnal a chadw yn 2010/11, o gymharu â dim ond 3.6% pan gytunon ni ar ein rhaglen gyfalaf ddiweddaraf ym mis Mawrth 2024 – er ein bod yn gwybod bod mwy i'w wneud.

“Mae ein rhaglen gyfalaf ar gyfer 2024/25 wedi clustnodi £7.5 miliwn arall i wella ffyrdd a llwybrau troed lleol yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Rydym ni wedi defnyddio misoedd y gwanwyn a’r haf i wneud cynnydd pwysig hyd yn hyn – gan gynnwys cwblhau 33 o gynlluniau i roi wyneb newydd ar ffyrdd cerbydau a symud ymlaen â 12 o gynlluniau i adnewyddu llwybrau troed ers mis Ebrill. Byddwn ni'n parhau â’r ymdrech yma dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf i gyflawni gweddill ein rhaglen y flwyddyn ariannol yma.”

Wedi ei bostio ar 30/07/2024