Wythnos Genedlaethol Gwaith Cymdeithasol 2024 yw hi (18-22 Mawrth). Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gydnabod a dathlu gwaith caled, ymrwymiad ac ymdrechion ein gweithwyr cymdeithasol ymroddedig yn y gwasanaethau i oedolion ac i blant.
Mae'r Cyngor yn frwd dros gydnabod gwaith ei weithwyr cymdeithasol. Drwy gydol yr wythnos, byddwn ni'n tynnu sylw at astudiaethau achos sy’n cydnabod ymroddiad ein staff gofal cymdeithasol a’u carfanau cymorth. Byddwn ni'n gwneud hyn er mwyn dangos ein gwerthfawrogiad o’r gwaith y maen nhw'n ei wneud a’r gwasanaethau hanfodol y maen nhw'n eu darparu i’r gymuned.
Yn ogystal â hyn, bydd y Cyngor yn dathlu Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd ddydd Mawrth, 19 Mawrth. Y thema eleni yw Buen Vivir: Dyfodol ar y Cyd ar gyfer Newid Trawsnewidiol, sy’n pwysleisio pwysigrwydd cydweithio, arloesi, a dulliau wedi'u harwain gan y gymuned yn y sector gofal cymdeithasol, sy’n elfen allweddol o genhadaeth gwaith cymdeithasol yng Nghymru.
Meddai Ffederasiwn Rhyngwladol y Gweithwyr Cymdeithasol (IFSW): “Nod Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd yw tynnu sylw at gyflawniadau gwaith cymdeithasol, gwneud gwaith cymdeithasol yn fwy gweledol, ac amddiffyn cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol.
“Mae gweithwyr cymdeithasol o bob rhan o’r byd yn dod at ei gilydd i ddathlu a hyrwyddo cyfraniadau’r proffesiwn i unigolion, teuluoedd, cymunedau, a’r gymdeithas ehangach.
“Mae thema eleni â'i gwreiddiau yn yr Agenda Fyd-eang ac mae’n pwysleisio’r angen i weithwyr cymdeithasol fabwysiadu dulliau arloesol wedi'u harwain gan y gymuned sydd wedi’u seilio ar ddoethineb cynhenid a chydfodolaeth gytûn â natur.”
Eleni, mae'r Cyngor yn canolbwyntio ar rymuso gweithwyr cymdeithasol, gan eu cefnogi yn eu cenhadaeth i gael effaith barhaol ar fywydau llawer o unigolion a theuluoedd sy'n agored i niwed.
Mae gwaith cymdeithasol yn chwarae rhan bwysig ym mywydau llawer o bobl. Ledled y DU, yr amcangyfrif yw bod tua 1.6 miliwn o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector gofal cymdeithasol. Yng Nghymru, y ffigur yw bron 91,000.
Mae gweithwyr cymdeithasol yn awyddus dros ben i helpu eraill, gwneud newidiadau cadarnhaol ym mywydau pobl, a chyfrannu at gymdeithas. Mae gyda nhw synnwyr cryf o gyfiawnder cymdeithasol ac maen nhw'n rhoi sylw i anghenion y rhai sy'n agored i niwed. Mae gwaith cymdeithasol yn broffesiwn sy'n ymroi i helpu pobl i fyw'n ddiogel ac yn iach, gan roi'r cyfle iddyn nhw gyrraedd eu llawn botensial.
Mae'r ymgyrch gwaith cymdeithasol flynyddol yn canolbwyntio ar gydnabod, gwerthfawrogi a chanmol gwaith caled ac ymroddiad gweithwyr cymdeithasol ar draws amrywiaeth o sectorau. Mae’r themâu allweddol yn cynnwys:
- Dysgu – Rydyn ni'n dathlu rhannu arfer da mewn proffesiwn hynod amrywiol. Mae ein gweithwyr cymdeithasol yn parhau i wella eu gwybodaeth a'u sgiliau er mwyn gwasanaethu ein cymuned yn well. Maen hyn yn cynnwys manteisio ar hyfforddiant a chymwysterau ychwanegol y mae'r Cyngor yn eu cynnig.
- Cysylltu – Nid proffesiwn yn unig yw gwaith cymdeithasol; mae’n brofiad proffesiynol byw, wedi’i ddysgu a’i rannu, sy’n creu cyfleoedd i’r sector gysylltu. Ac yntau'n sefydliad, mae'r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd meithrin trefniadau cydweithio ym maes gofal cymdeithasol i gryfhau ein heffaith ar y cyd.
- Dylanwadu – Wrth i’r Cyngor lywio heriau a dathlu llwyddiannau’r sector, mae’n bwysig ein bod yn mynd ati i archwilio datrysiadau arloesol. Mae ein gweithwyr cymdeithasol ar flaen y gad o ran newid cadarnhaol, gan eiriol dros les yr unigolion a'r teuluoedd hynny y maen nhw'n eu gwasanaethu a'u cefnogi.
Meddai Neil Elliott, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae staff gofal cymdeithasol yn chwarae rhan annatod yn ein cymunedau, gan roi cymorth i blant, pobl ifainc ac oedolion ar bob cam o’u bywyd.
“Ar gyfer Wythnos Genedlaethol Gwaith Cymdeithasol, rydyn ni'n dangos ein gwerthfawrogiad i weithwyr cymdeithasol a’u cydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol trwy gydnabod yr ymrwymiad y maen nhw'n ei wneud bob dydd mewn rôl hynod anodd a heriol.
“Trwy roi’r gydnabyddiaeth haeddiannol i’n gweithwyr cymdeithasol a’u cydweithwyr, mae hyn yn eu grymuso i barhau i fwrw'r maen i'r wal – sef darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel i’r plant, teuluoedd ac oedolion mwyaf agored i niwed yn ein cymuned.
“Hoffwn ddiolch i bob un o’n gweithwyr cymdeithasol, a’u cydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol sy’n gwneud gwahaniaeth hynod gadarnhaol ym mywydau llawer ac sy'n gweithio’n ddiflino i sicrhau bod pobl yn iach ac yn ddiogel.”
Mae gweithwyr cymdeithasol, ynghyd ag eraill, yn chwarae rhan allweddol wrth gadw pobl yn ddiogel ac wrth ofalu am y rhai sydd fwyaf agored i niwed. Mae gwaith arall yn cynnwys:
- Rhoi cymorth i deuluoedd sy'n wynebu anawsterau
- Amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso
- Rhoi triniaeth iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau
- Rhoi cymorth i ysgolion, ysbytai, a sefydliadau yn y gymuned
- Rhoi cymorth i bobl hŷn
- Rhoi cymorth i bobl ag anableddau
- Rhoi cymorth i rieni maeth a rhieni sy'n mabwysiadu
- A llawer yn rhagor.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae'n anhygoel gweld gwaith caled ac ymroddiad staff y Cyngor yn y Gwasanaethau i Oedolion ac i Blant.
“Mae'n hynod bwysig bod gweithwyr cymdeithasol a’u cydweithwyr ym maes gwasanaethau cymdeithasol yn cael y cyfle i gyflawni eu swyddi, ac yn derbyn y diolch a’r gydnabyddiaeth y maen nhw’n eu haeddu.
“Mae’r wythnos yma'n ymwneud â sicrhau bod yr holl staff gofal cymdeithasol yn gwybod bod eu gwaith yn cael ei werthfawrogi’n fawr.
Mae'n bwysig ein bod yn grymuso pob gweithiwr cymdeithasol a'u cydweithwyr ar draws carfanau gwasanaethau cymdeithasol fel bod modd iddyn nhw helpu i wella bywydau yn ein cymuned. I holl weithwyr cymdeithasol Rhondda Cynon Taf ac eraill, rydw i am ddweud diolch; mae eich gwaith caled yn cael ei werthfawrogi'n fawr.”
Mae hefyd yn bwysig nodi bod gwaith cymdeithasol yn wynebu heriau. Mae nifer y gweithwyr cymdeithasol wedi gostwng yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, tra bod nifer y swyddi gwag wedi cynyddu. Mae hyn yn rhannol oherwydd natur heriol y swydd. Oherwydd hyn, mae’n bwysicach fyth cydnabod y gwaith caled sy ynghlwm â gwaith cymdeithasol, ac ymrwymiad ein staff gwaith cymdeithasol er mwyn sicrhau’r deilliannau gorau i’r teuluoedd a’r unigolion maen nhw'n eu cynorthwyo.
Serch hynny, dyma ganfyddiadau arolwg a gafodd ei gynnal gan sefydliad Gofal Cymdeithasol Cymru yn 2023 ynghylch barn gweithwyr cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru:
- Dechreuodd 63% weithio ym maes gofal cymdeithasol oherwydd eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
- Roedd 79% o'r farn eu bod yn cael eu cefnogi gan eu cydweithwyr, ac roedd 66% o'r farn eu bod yn cael eu cefnogi gan eu rheolwr.
- Roedd 79% o'r farn eu bod yn cael yr hyfforddiant cywir i wneud eu gwaith yn dda, ac roedd 75% o'r farn bod cyfleoedd hyfforddi ar gael iddyn nhw.
- Roedd 50% o'r holl weithwyr cymdeithasol cofrestredig sydd ddim mewn sefyllfa arweinyddiaeth ar hyn o bryd yn credu ei bod yn bosibl iddynt fod yn arweinydd.
Rydyn ni'n gwahodd pawb i gymryd rhan yn Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2024 trwy gydnabod a gwerthfawrogi gwaith caled ein gweithwyr cymdeithasol a'r staff cymorth. Rhowch o'ch amser i rannu eich gwybodaeth, siarad, ac efallai #RhoiDiolchiWeithiwrCymdeithasol.
Am ragor o wybodaeth am Ddiwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd, ewch i: https://new.basw.co.uk/about-social-work/what-social-work/world-social-work-month-2024-events#wswd24
Am ragor o wybodaeth am IFSW, ewch i: https://www.ifsw.org/
#WSWD2024 #WythnosGwaithCymdeithasol2024 #WSWM2024 #RhoiDiolchiWeithiwrCymdeithasol
Wedi ei bostio ar 18/03/24