Yn dilyn proses ymgynghori helaeth, bydd adroddiad sy'n amlinellu'r adborth a ddaeth i law mewn perthynas â'r Polisi newydd arfaethedig ar gyfer Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol yn cael ei gyflwyno i'w graffu ymlaen llaw gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor yr wythnos nesaf (Dydd Llun 18 Mawrth).
Bydd y Cabinet yn trafod a yw’n dymuno bwrw ymlaen â rhoi'r Polisi Cludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol newydd ar waith yn ei gyfarfod ddydd Mercher 20 Mawrth.
Mewn ymateb i'r heriau ariannol sylweddol sy'n wynebu'r Cyngor, ymgynghoron ni ar adolygiad o'i drefniadau presennol ar gyfer cludiant rhwng y cartref a'r ysgol, i gyd-fynd â meini prawf pellter statudol Llywodraeth Cymru a nodir ym Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.
Byddai'r opsiwn a ffefrir yr ymgynghorwyd arno yn golygu y byddai'r Cyngor yn darparu cludiant i ysgolion cynradd ac uwchradd prif ffrwd Saesneg, Cymraeg a Ffydd a cholegau yn unol â’r meini prawf statudol o ran pellter, o ddechrau Blwyddyn Academaidd 2025/26. Y gofyniad statudol yw bod darpariaeth cludiant am ddim rhwng y cartref a'r ysgol i ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion cynradd sy’n byw 2 filltir neu ymhellach o’r ysgol addas agosaf ac i ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion uwchradd sy'n byw 3 milltir neu ymhellach o'r ysgol addas agosaf.
Cynnig presennol y Cyngor yw 1.5 milltir ar gyfer ysgolion cynradd a 2 filltir ar gyfer ysgolion uwchradd. Mae'r rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol yng Nghymru (18 o 22) yn gweithredu'u trefniadau cludiant yn unol â phellteroedd statudol yn unig.
Fyddai dim newid o dan y cynnig ar gyfer cludiant i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol neu anabledd/cyflwr meddygol sy'n negyddu gallu'r disgybl i gerdded i'r ysgol, gan fod cludiant yn cael ei bennu gan anghenion unigol y disgybl.
Mae'r adroddiad a fydd yn cael ei ystyried yr wythnos nesaf yn rhoi adborth i'r Cabinet o'r ymarfer ymgynghori cyhoeddus a dadansoddiad o'r themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg o'r ymgynghoriad. Mae'r Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb a'r Gymraeg hefyd wedi'u diweddaru ar ôl yr ymgynghoriad i'w hystyried gan y Cabinet.
Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Yr wythnos nesaf bydd yr Aelodau’n ystyried yr adborth a ddaeth i law yn dilyn y broses ymgynghori helaeth a gafodd ei gynnal rhwng Tachwedd 2023 a Chwefror 2024.
“Fel pob awdurdod lleol, mae’r Cyngor yn wynebu heriau ariannol sylweddol dros y tymor byr i ganolig, gydag amcangyfrif o fwlch o £85.4 miliwn yn y gyllideb yn wynebu Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf dros y tair blynedd nesaf. Felly does dim dewis arall gan y Cyngor ond ystyried meysydd gwasanaeth lle mae'n darparu y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol mewn deddfwriaeth.
"Oherwydd y pwysau ariannol hyn ymgynghorodd y Cyngor ar gynigion a fyddai’n newid y Polisi Cludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol presennol, sef alinio'r ddarpariaeth cludiant yn agosach â gofynion cludiant statudol Llywodraeth Cymru sydd wedi'u nodi ym Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.
"Caiff cludiant rhwng y cartref a'r ysgol ei ddarparu ar gyfer tua 9,000 o ddisgyblion prif ffrwd, 960 o ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a 2,300 o fyfyrwyr Coleg bob dydd. Mae dros 9,000 o'r disgyblion yma'n cael eu cludo ar sail ddewisol. Mae hyn yn golygu bod y Cyngor yn darparu cludiant dewisol rhwng y cartref a'r ysgol ar gyfer mwy o ddisgyblion na bron pob Cyngor arall yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, mae costau cludiant rhwng y cartref a'r ysgol y Cyngor wedi cynyddu o £8 miliwn yn 2015 i dros £15 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.
“Er gwaethaf y cyd-destun ariannol ehangach sy’n wynebu’r Cyngor, mae’r Cabinet yn cydnabod arwyddocâd y newidiadau arfaethedig a bydd yn ystyried yr adborth a ddaeth i law yn ystod y broses ymgynghori, ochr yn ochr â chyngor pellach a dderbyniwyd gan swyddogion y Cyngor ac asesiadau effaith ar gydraddoldeb a’r Gymraeg wedi’u diweddaru.
“Os bydd y newidiadau posibl yn cael eu rhoi ar waith, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn parhau i ddarparu un o’r polisïau dewisol mwyaf hael ar gyfer cludiant rhwng y cartref a’r ysgol yng Nghymru.
“Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Cyngor yn craffu ar y cynigion hyn yn y lle cyntaf, cyn i’r Cabinet ystyried a yw’n dymuno bwrw ymlaen â rhoi Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol newydd ar waith ai peidio yn ei gyfarfod ar 20 Mawrth 2024.”
Cafodd ymarfer ymgynghori cyhoeddus cynhwysfawr ei gynnal gyda'r holl randdeiliaid allweddol megis disgyblion, rhieni, cynhalwyr, darparwyr cludiant ac Aelodau Etholedig. Yn wreiddiol, roedd yr ymgynghoriad ar agor rhwng dydd Llun 27 Tachwedd 2023 a 5pm ar ddydd Llun 8 Ionawr 2024. Gan gydnabod arwyddocâd y cynnig i ddisgyblion sy'n defnyddio cludiant o'r cartref i'r ysgol ar hyn o bryd, ac a fydd yn ei ddefnyddio yn y dyfodol, cafodd yr ymgynghoriad ei ymestyn am gyfnod pellach o dair wythnos, o ddydd Iau 18 Ionawr tan 5pm ar ddydd Iau 8 Chwefror 2024.
Roedd y cyfnod yma'n gyfle pellach i'r rhai a fyddai o bosibl yn cael eu heffeithio i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Felly cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal am gyfanswm o naw wythnos.
Pe bai'r Cabinet yn eu cymeradwyo'r wythnos nesaf, byddai unrhyw newidiadau yn dod i rym o ddechrau blwyddyn academaidd 2025/26.
Wedi ei bostio ar 13/03/24