Skip to main content

Y Cyngor yn cytuno ar Strategaeth ar gyfer Cyllideb 2024/25

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cytuno ar y gyllideb ar gyfer 2024/25.

Mae'r Cyngor bob amser yn gweithredu agwedd gyfrifol tuag at osod lefelau treth y Cyngor, gan gydbwyso'r angen i ddiogelu gwasanaethau allweddol a modd trigolion i dalu. Cytunodd yr Aelodau Etholedig i gynyddu Treth y Cyngor 4.99%.

Mae pob Cyngor yng Nghymru yn wynebu heriau sylweddol i osod cyllideb gytbwys yn gyfreithiol. Mae hyn yn seiliedig ar ffactorau gan gynnwys lefel uchel chwyddiant, yr argyfwng Costau Byw parhaus, a phwysau ar draws gwasanaethau allweddol y mae angen eu diogelu cyn belled ag y bo modd – megis ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.

Elfennau allweddol o'r gyllideb

Mae'r Setliad Llywodraeth Leol yn darparu cynnydd o 3% yn y cyllid ar gyfer Rhondda Cynon Taf, gan adael bwlch cychwynnol o £36.65 miliwn yn y gyllideb. Lleihaodd mesurau cynnar i leihau'r gyllideb a chynigion y cytunwyd arnyn nhw'n flaenorol y bwlch i £25.91 miliwn.

Yn rhan o'r gyllideb, caiff cyllid ei ddyrannu i ysgolion i dalu'r holl bwysau sy’n ymwneud â chyflogau, a chaiff cyllideb bellach gwerth £1 miliwn ei darparu tuag at gostau nad ydyn nhw'n ymwneud â chyflogau. Yn ychwanegol at hyn, cytunodd y Cabinet hefyd i ddyrannu £500,000 pellach o gyllid sy'n golygu y bydd ein cyllideb ysgolion yn cynyddu £12.4 miliwn (6.6%) y flwyddyn nesaf.

Yn ddiweddar, mae Uwch Swyddogion wedi nodi arbedion effeithlonrwydd pellach gwerth £5.24 miliwn, y mae modd eu cyflwyno heb gael effaith sylweddol ar wasanaethau rheng flaen. Cyfanswm yr arbedion effeithlonrwydd a gyflawnwyd ar gyfer 2024/25 yw dros £13 miliwn.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:

“Mae Aelodau Etholedig wedi cytuno ar strategaeth y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, a hynny ar adeg sy'n profi i fod yn gyfnod ariannol heriol i gynghorau ledled y DU, gan gynnwys Rhondda Cynon Taf.

“Fel Cyngor, rydyn ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau allweddol yn parhau i gael eu darparu mewn ffordd ariannol gynaliadwy.

“Rydyn ni wedi blaenoriaethu addysg i gefnogi ein trigolion ieuengaf, ac felly bydd ein hysgolion yn derbyn dros £12 miliwn yn fwy na’r llynedd.

“Rydyn ni hefyd yn cyflwyno cynnydd gwerth dros £8 miliwn yn y cyllid sy’n cael ei ddyrannu i’r gwasanaethau cymdeithasol a hynny er mwyn sicrhau bod y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn parhau i dderbyn y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw.

“Nid yw cynyddu Treth y Cyngor byth yn weithred boblogaidd, serch hynny, mae’r Cyngor wedi gweithio’n galed i ddod o hyd i filiynau o arbedion effeithlonrwydd a ffyrdd newydd o weithio i leihau’r baich ar drigolion. Mae'r Cyngor wedi sicrhau dros £16 miliwn o arbedion effeithlonrwydd dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae bellach wedi nodi £13 miliwn arall yn rhan o gyllideb y flwyddyn nesaf.

“Mae rheolaeth ariannol ofalus wedi golygu bod y newidiadau i’n gwasanaethau rheng flaen yn gymharol fach o’u cymharu â chynghorau eraill yng Nghymru, ac mae cynnydd o 4.99% yn Nhreth y Cyngor ymhlith y cynnydd isaf eleni yng Nghymru.

“Yn ystod y cyfnod ymgynghori, nodwyd bod pobl yn cytuno’n gyffredinol gyda strategaeth y gyllideb ac yn cydnabod yr heriau ariannol anodd y mae Cynghorau ledled y DU yn eu hwynebu. Dyma ddiolch i drigolion am eu hadborth yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Mae mesurau eraill y cytunwyd arnyn nhw yn strategaeth y gyllideb yn cynnwys mesurau effeithlonrwydd mewn perthynas ag ynni a ffrwd incwm newydd o gynhyrchu ynni unwaith y bydd fferm solar newydd y Cyngor yn weithredol, a chynnydd safonol o 5% mewn Ffioedd a Thaliadau ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor, gyda’r olaf yn cynhyrchu £452,000 o incwm ychwanegol.

Ar ôl gweithredu’r uchod, bydd y bwlch sy’n weddill yn y Gyllideb ar gyfer 2024/25, sef £7.5 miliwn, yn cael ei dalu gan ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn sydd wedi’u neilltuo at y diben yma.

Wedi ei bostio ar 07/03/2024