Skip to main content

Gwaith i adnewyddu goleuadau traffig ger ysgol ym Mhentre'r Eglwys dros y Pasg

Ysgol Garth Olwg junction

Mae gwaith gosod goleuadau traffig newydd ger Ysgol Garth Olwg, Pentre'r Eglwys, wedi'i drefnu ar gyfer gwyliau'r Pasg er mwyn lleihau aflonyddwch.

Bydd y cynllun ar gyffordd y B4595, Yr Heol Fawr, yn cynnwys gosod cyfarpar gwell - gan gynnwys goleuadau traffig LED sy'n fwy effeithlon o ran ynni ac offer monitro.

Bydd gwaith yn dechrau ddydd Llun, 25 Mawrth, a bydd yn cael ei gwblhau yn ystod pythefnos gwyliau'r ysgol, ond fydd dim gwaith dros benwythnos y Pasg.

Mae'r Cyngor wedi penodi Centregreat Ltd yn gontractwr i gyflawni'r cynllun ar y safle.

Bydd angen i'r contractwr ddefnyddio goleuadau traffig tair ffordd dros dro i reoli traffig tra bydd y gwaith yn cael ei gynnal ar y goleuadau parhaol. Does dim disgwyl llawer o aflonyddwch yn ystod cyfnod y gwaith.

Mae'r cynllun yn cael ei ariannu'n rhan o Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth y Cyngor.

Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 21/03/24