Skip to main content

Gwaith gwrthsefyll llifogydd wedi'i gwblhau yn Heol y Dyffryn yn Aberpennar

Dyffryn Road, Mountain Ash

Mae system cwlfer well bellach wedi'i gosod ar Heol Dyffryn, Aberpennar, gyda chwlfer, siambr archwilio ac arllwysfa newydd.

Yn rhan o'r gwaith ger y gyffordd â Heol Aber-ffrwd, cafodd y cwlfer ei newid a siambr archwilio ac arllwysfa newydd eu gosod.

Mae hyn wedi cynyddu gallu'r seilwaith i ymdopi â chyfnodau o law trwm.

Elwodd y cynllun ar gyfraniad ariannol o 85% gan grant ar gyfer gwaith ar raddfa fach Llywodraeth Cymru.

Cafodd gwaith y Cyngor ei orffen erbyn diwedd mis Chwefror, a daeth y gwaith ar y cyfleustodau i ben ddydd Gwener 8 Mawrth. Mae'r lôn oedd ar gau bellach wedi ailagor ac mae'r goleuadau traffig dros dro wedi mynd.

Sylwch, mae rhwydi dros dro wedi'u gosod o gwmpas rhan o'r ardal ble mae hadau wedi'u plannu. Bydd y rhwydi'n symud unwaith y bydd y glaswellt wedi tyfu.

Diolch i chi am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 12/03/24