Skip to main content

Rhyddhau cynlluniau lleoliad ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024

Eisteddfod-Map-WELSH

Rydyn ni'n cyfri'r diwrnodau tan Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf! Gyda 150 diwrnod i fynd, mae’r cynlluniau ar gyfer gŵyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop wedi’u rhyddhau. 

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal rhwng 3-10 Awst. 

Fis Awst y llynedd, cafodd ei gadarnhau mai Parc Coffa Ynysangharad fydd cartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Ers hynny, mae gwaith cynllunio rhwng Cyngor Rhondda Cynon Taf, yr Eisteddfod, a'n sefydliadau partner wedi bod yn mynd rhagddo. 

Mae gwaith sylweddol wedi’i wneud o ran trafnidiaeth gyhoeddus, rheoli traffig, isadeiledd achlysuron, a lletya ymwelwyr â’r Eisteddfod. 

Mae cynlluniau’n dangos “ôl troed” Eisteddfod 2024, sy’n cynnwys:

  • Y Prif Faes ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd.
  • Defnyddio tir/cyfleusterau sy'n eiddo i'r Cyngor neu’n eiddo preifat, megis y Miwni ar ei newydd wedd, ar gyfer achlysuron ehangach yr Eisteddfod.
  • Canolfan groeso a swyddfa docynnau yn Llyfrgell Pontypridd.
  • Maes parcio hygyrch ym Maes Parcio Stryd y Santes Catrin.
  • Maes Pebyll (gwersylla) ar dir preifat rhwng Pontypridd a Glyn-coch.
  • Defnyddio tir Ysgol Uwchradd Pontypridd ar gyfer gŵyl gerddoriaeth gyfoes Maes B.
  • Defnyddio tir Ysgol y Ddraenen Wen a Phrifysgol De Cymru, Trefforest, ar gyfer cyfleusterau Parcio a Theithio, yn ogystal â safle Parcio a Theithio presennol Abercynon.

Mae adeiladu’r Eisteddfod Genedlaethol yn dasg enfawr, a bydd angen cyfyngu ar rai rhannau o Barc Coffa Ynysygharad a lleoliadau penodol ym Mhontypridd o ddechrau mis Gorffennaf. Mae hyn er mwyn diogelu trigolion a sicrhau bod modd cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol. Dyma'r un dull a gafodd ei roi ar waith yn y gorffennol ar gyfer achlysuron mawr yn y Parc. 

Rydyn ni am dawelu meddwl trigolion y bydd hyn yn cael ei wneud fesul cam, ac felly bydd ardaloedd yn cael eu cyfyngu am yr amser byrraf posibl, a dim ond pan fydd hynny’n gwbl angenrheidiol. Ein nod yw cadw cymaint o Barc Coffa Ynysangharad a Lido Ponty ar agor cyn hired â phosibl cyn i’r Eisteddfod Genedlaethol ddechrau. Bydd y Parc, Chwarae'r Lido a Lido Ponty yn cau'n llwyr i ymwelwyr ar 30 Gorffennaf, yn barod i'r achlysur ddechrau dridiau'n ddiweddarach ar 3 Awst. Ar ôl 31 Gorffennaf, byddai symudiad sylweddol o gerbydau, isadeiledd ac offer yn y parc yn rhoi defnyddwyr y parc mewn perygl o gael eu hanafu. 

Mae’n hanfodol cau’r parc fesul cam er mwyn sicrhau bod popeth yn ei le fel bod modd i’r Eisteddfod Genedlaethol gychwyn ar 3 Awst, gan gadw’r Parc ar agor cyhyd â phosib. 

Mae gan Bontypridd gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ardderchog a fydd yn cael eu gwella ymhellach gan Fetro De Cymru, a dyma ddylai’r dewis cyntaf fod i bobl sy’n teithio i’r Eisteddfod Genedlaethol. 

Rydyn ni'n gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu cynllun trafnidiaeth manwl sy’n cefnogi nid yn unig ymwelwyr â’r Eisteddfod, ond hefyd trigolion sy’n cymudo ac yn teithio yn yr ardal. 

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Mae’n 150 diwrnod tan i ni gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol, gŵyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop! Mae’n dipyn o beth, ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu tua 100,000 o ymwelwyr i Rondda Cynon Taf. 

“Mae’r Eisteddfod yn achlysur cynhwysol i bawb, ac rydyn ni'n annog y rhai sydd erioed wedi bod mewn Eisteddfod o’r blaen i gymryd rhan yn yr hyn sy’n addo i fod yn wythnos anhygoel! 

“Dyma gyfle i fwynhau ein diwylliant Cymreig a'r Gymraeg, ac arddangos yr hyn sydd ar gael yma. Rydyn ni eisiau cynnal Eisteddfod Genedlaethol i’w chofio, ac rwy’n gwybod bod trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd yn edrych ymlaen at yr achlysur. 

“Bydd yr Eisteddfod a niferoedd yr ymwelwyr yn gyfle gwych i’r rhai sy’n siarad Cymraeg, yn dysgu neu eisiau defnyddio mwy o'u Cymraeg. Rydyn ni'n gweithio i sicrhau gwaddol parhaol ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf. 

“Bydd yr achlysur hefyd yn rhoi hwb enfawr i fusnesau lleol ac atyniadau yng nghanol trefi ledled Rhondda Cynon Taf. 

“Nid ydym yn diystyru’r gwaith a’r trefniadau cynllunio sydd eu hangen i gynnal achlysur mor enfawr, ac mae’r Eisteddfod a’r Cyngor wedi bod yn gweithio ers misoedd lawer i sicrhau bod cynlluniau ar waith a bod cyn lleied o darfu â phosibl. 

“Dros y misoedd nesaf, bydd gwybodaeth fanylach am reoli traffig a chau safleoedd o amgylch Pontypridd yn cael ei rhannu â thrigolion, ond mae’r Cyngor a’r Eisteddfod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod yr achlysur yn cael ei gynnal yn ddidrafferth, ac annog trigolion i gymryd rhan yn y profiad arbennig yma. 

“Rydyn ni'n annog pawb sy’n mynychu’r Eisteddfod neu sydd â diddordeb yn yr achlysur i’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn cael gwybod am y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf.”

 

Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: “Gyda 150 diwrnod i fynd, mae’n wych cyhoeddi manylion ychwanegol am yr Eisteddfod eleni yn Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni'n ddiolchgar i'r Cyngor am ei holl gymorth a chefnogaeth dros y misoedd diwethaf. Mae cynnal yr Eisteddfod mewn ardal drefol yn dod â’i heriau ei hun, ac mae’r berthynas gyda’r Cyngor ac ystod eang o bartneriaid lleol wedi bod yn hollbwysig i ddod â phopeth at ei gilydd.

 

“Aeth lleoedd yn ein meysydd carafanau a’n stondinau ar werth ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, ac mae bellach modd cofrestru ar gyfer ein cyfleoedd gwirfoddoli ar-lein. Mae wedi bod yn wych gweld cynifer o gwmnïau ac unigolion lleol yn awyddus i gymryd rhan ym mhob agwedd ar ein gwaith dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

 

“Rydyn ni wedi bod yn trafod Eisteddfod Rhondda Cynon Taf gyda’r Cyngor ers 2017, felly mae cyrraedd 150 diwrnod i fynd yn gyffrous. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n cwblhau’r cynllun ar gyfer safle’r ŵyl, ac yn edrych ymlaen at rannu rhagor o wybodaeth gyda phawb dros y misoedd nesaf, wrth i ni baratoi i groesawu pawb i’r ardal yn ystod wythnos gyntaf mis Awst.”

Wedi ei bostio ar 06/03/2024