Dyma roi gwybod i chi y bydd newidiadau i'r rhwydwaith bysiau ledled y Fwrdeistref Sirol o ddydd Llun, 1 Ebrill. Serch hynny, ni ddylai defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus brofi fawr ddim newid i’w teithiau bws rheolaidd.
Wrth baratoi am Grant Rhwydwaith Bysiau newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25, mae'r Cyngor wedi ail-dendro ei holl gontractau gwasanaethau bysiau â chymorth. Roedd hyn yn cynnwys tendro unrhyw wasanaethau bws sy'n hanfodion cymdeithasol ar gyfer cymunedau, nad oedd modd iddyn nhw weithredu'n fasnachol mwyach.
Mae’r cyfnod ail-dendro wedi dod i ben, ac oherwydd y cyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru a’r Cyngor sy’n cael ei ddyrannu i gefnogi gwasanaethau bysiau, dylai trigolion sylwi ar y newid lleiaf posibl o ran y trefniadau.
Dilynwch y ddolen yma i wefan y Cyngor er mwyn gweld rhestr lawn o'r gwasanaethau a fydd yn rhan o'r rhwydwaith bysiau o ddydd Llun, 1 Ebrill (2024).
Mae cofrestriadau gwasanaeth wrthi'n cael eu diweddaru gan swyddfa'r Comisiynydd Traffig, a dylai'r amserlenni newydd ymddangos ar wefan Traveline Cymru – yn ogystal â gwefannau gweithredwyr bysiau unigol – cyn 1 Ebrill. Rydyn ni'n argymell bod teithwyr yn gwirio'r amserlenni hyn cyn teithio rhag ofn y bydd mân newidiadau i rai amseroedd ac amserlenni.
Wedi ei bostio ar 28/03/2024