Skip to main content

Darparu bws gwennol yn ystod gwaith i wella'r ffordd ym Mhentre'r Eglwys

Church Village SRIC

Bydd ffordd ar gau ym Mhentre'r Eglwys yr wythnos nesaf er mwyn cyflawni gwaith gwella yn rhan o gynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.

Cafodd rhan gyntaf y cynllun ei rhoi ar waith yn gynharach eleni, gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i uwchraddio cyfleusterau i gerddwyr ar strydoedd ger Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref.

Mae angen cau Heol Sant Illtyd (2-5 Ebrill, 9am-5pm) yn y lleoliad yn y llun (y gyffordd sy'n arwain at yr ysgol gynradd). Mae hyn wedi'i drefnu yn ystod gwyliau'r Pasg i leihau aflonyddwch.

Bydd mynediad i'r maes parcio yn cael ei ddarparu trwy ailagor yr hen fynedfa oddi ar Heol Sant Illtyd. Bydd mynediad hefyd ar gael i bob eiddo.

Bydd cau'r ffordd yn fodd o osod wyneb newydd arni, yn ogystal â bwrdd cyffordd uwch.

Ffordd arall i fodurwyr yw Heol Sant Illtyd, Heol yr Eglwys a'r Heol Fawr.

Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys ac i gerddwyr, ond dylai beicwyr ddod oddi ar y beic a dilyn y llwybr i gerddwyr.

Bydd bws gwennol lleol ar waith oherwydd bydd Gwasanaeth 90 (Gwaunmeisgyn-Pontypridd) yn cael ei effeithio gan gau'r ffordd.

Bydd y gwasanaeth yn teithio rhwng Swyddfa Bost Pentre’r Eglwys, Cae Fardre, Fferyllfa Ton-teg a safle'r Three Horseshoes gynt – gan wneud 10 taith y dydd i bob cyfeiriad.

Bydd teithiau o Swyddfa Bost Pentre'r Eglwys yn gadael am 8.46am, 9.19am, 10.16am, 10.49am, 12.16pm, 12.49pm, 1.46pm, 2.19pm, 3.21pm a 4.04pm.

Bydd teithiau o'r Three Horseshoes yn gadael am 8.45am, 9.27am, 10.24am, 10.57am, 12.24pm, 12.57pm, 1.54pm, 2.27pm, 3.29pm a 4.12pm.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 28/03/2024