Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a Heddlu De Cymru wedi dod i gytundeb buddiol i weithio mewn partneriaeth er mwyn gwella gwasanaethau plismona yn yr ardal. Bydd hyn yn golygu bod adeilad Gorsaf Heddlu Pontypridd yn cael ei drosglwyddo i eiddo'r Cyngor. Ar yr un pryd, bydd swyddfeydd y Cyngor yn Nhŷ Trevithick, Abercynon yn trosglwyddo i Heddlu De Cymru ac yn dod yn Ganolfan Ranbarthol newydd ar gyfer Heddlu De Cymru.
Mae Gorsaf Heddlu Pontypridd yn ganolbwynt allweddol yn y dref ac mae perchen ar y safle yn galluogi'r Cyngor i edrych ar y safle a'r ardal gyfagos mewn ffordd fwy strategol, yn debyg i'r ffordd mae'r Cyngor wedi cynnal gwaith adfywio blaenorol ym Mhontypridd.
Trwy gydweithio, mae'r Cyngor a Heddlu De Cymru yn gwneud y defnydd gorau o asedau cyhoeddus ac yn rhoi'r gwerth gorau am arian i'n trigolion.
Bydd Heddlu De Cymru yn parhau i weithredu ar y safle presennol, hyd nes y bydd cytundeb ar y cynlluniau terfynol ar gyfer safle Gorsaf Heddlu Pontypridd, cyn symud i leoliad newydd yng nghanol y dref.
Meddai'r Cynghorydd Tina Leyshon, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol: "Bydd caffael Gorsaf yr Heddlu yn rhoi cyfle sylweddol i adfywio ac ailddatblygu safle mewn lleoliad allweddol yng nghanol tref Pontypridd, gan ddarparu cyfleoedd i'r sector preifat adleoli a gweithredu o leoliad hygyrch yng nghanol y dref, yn ogystal â chyfle i ystyried ffyrdd o wella trafnidiaeth yn yr ardal.
"Trwy drosglwyddo'r eiddo yma, rydyn ni ar y trywydd iawn i sicrhau fod safleoedd y Cyngor yn diwallu ein hanghenion yn y dyfodol.
"Mae datblygiad Llys Cadwyn wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref, adfywio hen Ganolfan Siopa Dyffryn Taf, a darparu gwasanaethau cyhoeddus modern a hygyrch, yn ogystal â chyfleoedd am waith.
"Gyda'r gwaith ailddatblygu parhaus yn ardal ddeheuol canol y dref ger Stryd y Taf yn mynd rhagddo, rydyn ni'n gobeithio efelychu'r llwyddiannau rydyn ni eisoes wedi'u gweld ac yn parhau i'w gweld wrth adfywio Pontypridd."
Meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Mark Travis: "Rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd plismona gweladwy a hygyrch ym Mhontypridd. Rydyn ni'n ymrwymo i sicrhau bod gan Heddlu De Cymru ganolfan weithredol yn y dref. Bydd hyn yn cynnwys gwell Gwasanaeth Desg Flaen a Gwasanaeth Plismona yn y Gymdogaeth, gyda heddweision a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu wedi'u lleoli yng nghanol y dref. Byddwn ni'n adleoli swyddogaethau cefn swyddfa'r heddlu i Dŷ Trevithick i wella effeithlonrwydd ar gyfer swyddi ategol ac elfennau anweithredol o blismona yn yr ardal.
"Dyma enghraifft wych o'r Cyngor a'r Heddlu yn cydweithio i wella effeithlonrwydd ein sefydliadau a'r gwasanaethau i'r cyhoedd. Dyw'r orsaf bresennol ddim yn diwallu ein hanghenion gweithredol bellach a thrwy ad-drefnu ein carfanau a dod ag adrannau at ei gilydd, bydd modd i ni gynllunio a chydlynu adnoddau'n well i ddarparu gwasanaeth plismona yn y rhanbarth."
Wedi ei bostio ar 22/03/24