Skip to main content

Cynllun atgyweirio waliau yn Llwynypia yn ystod gwyliau Pasg yr ysgol

Salem Terrace, Llwynypia

Bydd cam cyntaf gwaith atgyweirio'r wal yn y llun ar Deras Salem, Llwynypia, yn dechrau'r wythnos nesaf.

Mae angen cynnal gwaith hanfodol ar y wal gerrig dros gyfnod o ddwy wythnos o ddydd Llun, 25 Mawrth ymlaen. Mae'r gwaith wedi cael ei drefnu ar gyfer gwyliau ysgol y Pasg er mwyn lleihau aflonyddwch, a bydd yn dod i ben erbyn 5 Ebrill.

Bydd yn cynnwys cael gwared â llystyfiant ac ailadeiladu rhan o’r wal ger y grisiau a'r ardal gyfagos. Bydd rhannau eraill y wal yn cael eu hailbwyntio, a bydd y meini copa yn cael eu hailosod.

Er mwyn cynnal y gwaith yn ddiogel, bydd un lôn a llwybr troed ar gau ar hyd rhan 30 metr o hyd o Deras Salem. Bydd goleuadau traffig dros dro yn cael eu defnyddio. Bydd mynediad ar gael i eiddo yn yr ardal waith ar bob adeg.

Mae'r Cyngor wedi penodi Calibre Contracting Ltd i ddarparu'r cynllun, sy'n cael ei ariannu trwy Raglen Gyfalaf y Priffyrdd.

Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 20/03/2024