Yn dilyn marwolaeth ddiweddar tri o'n cyn-Feiri annwyl, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn talu teyrnged i bob un ohonyn nhw.
Cafwyd munud o dawelwch er cof am y Cynghorydd Simon Lloyd a'r Cynghorydd Linda De Vet yn ystod cyfarfod llawn Cyngor Rhondda Cynon Taf ddydd Mercher 6 Mawrth. Yn y cyfarfod yma talwyd dau deyrnged gan y Cynghorydd Sheryl Evans a'r Cynghorydd Andrew Morgan, sef cydweithwyr ward a ffrindiau annwyl y cyn-Gynghorwyr.
Talwyd teyrnged arall a munud o dawelwch mewn cyfarfod diweddar o'r Cyngor Llawn ar Ebrill 24il i goffáu marwolaeth y Cynghorydd Emlyn Jenkins.
Cafodd y Cynghorydd Emlyn Jenkins ei benodi'n Faer Rhondda Cynon Taf rhwng 2005 a 2006. Yn ystod ei gyfnod yn Faer, cododd gyfanswm o £32,123.87 ar gyfer yr elusennau o'i ddewis – Ymchwil Canser Cymru, Faceup ac Ymddiriedolaeth Christian Lewis.
Roedd y Cynghorydd Jenkins hefyd yn Aelod Etholedig y Cyngor, yn cynrychioli ward Pentre ar ôl cael ei ethol yn ystod etholiadau lleol 2004.
Cafodd y Cynghorydd Simon Lloyd ei benodi'n Faer Rhondda Cynon Taf rhwng 2010 a 2011. Yn ystod ei gyfnod yn Faer, cododd gyfanswm o £42,265 ar gyfer yr elusennau o'i ddewis – Cymorth Canser Cwm Cynon, Marie Curie Cancer Care, Ymddiriedolaeth Christian Lewis, Childrens' Cancer Charity a Chorfflu Brenhinol y Signalau.
Roedd y Cynghorydd Lloyd hefyd yn Aelod Etholedig y Cyngor, yn cynrychioli ward Aberpennar ar ôl cael ei ethol yn ystod etholiadau lleol 2005.
Cafodd y Cynghorydd Linda De Vet ei phenodi’n Faer Rhondda Cynon Taf rhwng2019 a 2020. Yn ystod ei chyfnod yn Faer, cododd gyfanswm o £23,000 ar gyfer yr elusennau o'i dewis – Canolfan Therapi Plant Cymru Bobath, Cyfeillion Anifeiliaid Cymru, a Chanolfan Iechyd Meddwl a Lles New Horizons.
Roedd y Cynghorydd De Vet hefyd yn Aelod Etholedig y Cyngor, yn cynrychioli ward Aberaman ar ôl cael ei hethol yn ystod etholiadau lleol 2004.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:
“Ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf, hoffwn i estyn ein cydymdeimladau dwysaf â theulu a ffrindiau'r cyn-Feiri yn ystod y cyfnod anodd iawn yma.
Fe wnaeth y Cynghorydd Jenkins, y Cynghorydd Lloyd a'r Cynghorydd De Vet gyfraniadau arbennig yn ein cymuned yn ystod eu cyfnodau'n Faer, ac fel Cynrychiolwyr Etholedig. A ninnau'n awdurdod lleol, rydyn ni'n hynod o ddiolchgar am eu hymroddiad hirsefydlog i fod yn llais ar gyfer ein trigolion.
Rydyn ni'n ffodus o fod wedi cael y pleser o weithio gyda chydweithwyr eithriadol a ffrindiau annwyl a byddwn ni'n gweld eisiau pob un ohonyn nhw”.
Wedi ei bostio ar 02/05/2024