Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi sicrhau cyllid gwerth £6.94 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'i chronfeydd Teithio Llesol a Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer 2024/25 - er mwyn bwrw ymlaen â chynnydd a darpariaeth sawl cynllun eleni.
Mae modd i gynghorau yng Nghymru gyflwyno cais i'r ddwy gronfa bob blwyddyn, gyda swyddogion yn cyflwyno cynlluniau lleol i'w hystyried. Mae'r Gronfa Teithio Llesol yn cefnogi prosiectau sy'n cyfrannu at weledigaeth a rennir sy'n nodi bod cerdded a beicio yn ddewis naturiol i bobl gyflawni teithiau byr bob dydd. Mae gan Gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau nod tebyg, sef cefnogi cynlluniau 'strydoedd ysgol' sy'n gwella diogelwch cerddwyr mewn ardaloedd ger safleoedd ysgol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei dyraniadau cyllid ar gyfer 2024/25 yn ddiweddar. Rydyn ni wedi sicrhau cyllid gwerth £6.253 miliwn o'r Gronfa Teithio Llesol a £695,000 o'r Gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.
Mae crynodeb o'r dyraniadau cyllid llwyddiannus yma wedi'i gynnwys isod:
Cronfa Teithio Llesol (2024/25) - £6,253,700
- Dyraniad Craidd (£1.05 miliwn) ar gyfer mân welliannau / datblygu'r cynllun:
- Gwella Llwybr Taith Cynon, Heol Cwm-bach/Heol y Gamlas yng Nghwm-bach.
- Uwchraddio Llwybr Taith Taf i'r de o Bont Nant Cae Dudwg, Trallwng.
- Llwybr Teithio Llesol rhwng Treorci a Threherbert.
- Gwella canol tref Aberdâr.
- Gwella canol tref Pontypridd.
- Gwella sawl llwybr, gan gynnwys Llwybr Lady Windsor yn Ynys-y-bwl.
- Hyrwyddo, monitro a diweddaru'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol.
- Llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach - Cam Pedwar (£4.269 miliwn):
- Darparu gwaith Cam Pedwar yn ardal Glynrhedynog.
- Cwblhau gwaith dylunio Cam Pump.
- Llwybr Cyswllt Taith Cynon a Gwelliannau (£934,700):
- Uwchraddio Pont Glan-yr-afon yn Llwydcoed er mwyn iddi fod yn strwythur sy'n cydymffurfio â gofynion teithio llesol, a gwelliannau i arglawdd yr afon.
Cronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau (2024/25) - £695,350
- Cynllun Llwybrau Diogel Hirwaun - Blwyddyn Dau (£379,350)
- Gosod croesfannau i gerddwyr ar Ffordd y Rhigos a'r Stryd Fawr, yn ogystal â gwelliannau ar gyffordd Heol Aberhonddu/Stryd Harris.
- Cynllun Llwybrau Diogel Y Ddraenen-wen (£316,000)
- Cysylltiadau i gerddwyr, mesurau diogelwch ffyrdd a darpariaeth teithio llesol ar y strydoedd ger Ysgol Uwchradd y Ddraenen-wen ac Ysgol Gynradd y Ddraenen-wen.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Rwy'n falch bod y Cyngor wedi sicrhau cyllid sylweddol gwerth bron i £7 miliwn o Gronfeydd Teithio Llesol a Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mae ein ceisiadau i'r cronfeydd yma wedi bod yn llwyddiannus ers nifer o flynyddoedd, sydd wedi ein helpu ni i ddatblygu a darparu prosiectau lleol – a hynny gan ein bod ni'n rhannu nod Llywodraeth Cymru o annog rhagor o bobl i gerdded a beicio teithiau bob dydd, yn hytrach na gyrru.
"Mae dros £4.2 miliwn wedi'i sicrhau er mwyn parhau i ddatblygu a darparu Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach, llwybr ra rennir 10 cilomedr o hyd rhwng Maerdy a Thylorstown sy'n cael ei adeiladu dros bum cam. Bydd y dyraniad yn ein galluogi ni i adeiladu Cam Pedwar drwy ardal Glynrhedynog a chwblhau gwaith dylunio Cam Pump.
"Mae sawl cynllun wedi cael eu datblygu gan ddefnyddio dyraniad y llynedd o'r Gronfa Teithio Llesol a byddwn ni’n bwrw ymlaen i'r camau dylunio nesaf yn 2024/25. Maen nhw'n cynnwys gwaith yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd a gwelliannau i Lwybr Taith Cynon drwy ardal Cwm-bach. Bydd gwaith adeiladu hefyd yn cynnwys gosod pont newydd yn lle Pont Glan-yr-afon yn Llwydcoed. Cafodd gwaith uwchraddio Llwybr Lady Windsor rhwng Ynys-y-bwl a Phontypridd ei gwblhau ar ddechrau 2024, ac mae cyllid bellach wedi'i sicrhau ar gyfer ail gam y gwaith. Mae ymchwiliadau wedi'u cynnal yn ddiweddar hefyd ar gyfer gwaith uwchraddio Llwybr Taith Taf yn ardal Trallwng, ac mae modd bwrw ymlaen â’r gwaith yma.
"Yn y cyfamser, mae cynlluniau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn y Ddraenen-wen a Hirwaun hefyd wedi derbyn cyfanswm cyllid gwerth bron i £700,000. Yn rhan o'n buddsoddiadau sylweddol mewn ysgolion, rydyn ni’n bwrw golwg ar sut mae modd gwella'r strydoedd o amgylch pob ysgol - er mwyn annog cerdded a beicio ac i wella diogelwch. Fe wnaethon ni ddarparu cynllun o’r fath ym Mhentre'r Eglwys, cyn agor adeilad newydd sbon Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ym mis Ebrill 2024.
"Bydd y cynllun yn y Ddraenen-wen yn dechrau ar 13 Mai, gyda gwaith gwella sawl llwybr troed a rhoi darpariaeth teithio llesol ar waith dros yr wythnosau sydd i ddod - er mwyn cyd-fynd ag agor Ysgol Afon Wen ym mis Medi. Mae cynllun Hirwaun yn cynrychioli ail gam gwaith wedi cwblhau gwaith uwchraddio diogelwch cerddwyr mewn sawl lleoliad yn y pentref ers mis Ionawr 2024. Unwaith yn rhagor, mae hyn yn ategu'r buddsoddiad mewn ysgol newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Hirwaun, gafodd ei chwblhau yn 2021."
Wedi ei bostio ar 14/05/2024