Bydd gwaith yn dechrau'n fuan er mwyn gwella cyfleusterau lleol i gerddwyr a'r llwybr diogel at yr ysgol yn y Ddraenen-wen. Bydd hyn yn mynd law yn llaw â'r buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau addysg modern sy'n cael ei ddarparu ar gyfer y gymuned yn ddiweddarach eleni.
Bydd Llwybrau Diogel mewn Cymunedau y Ddraenen-wen yn dechrau ddydd Llun, 13 Mai gydag ychydig o waith yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos flaenorol. Bydd y buddsoddiad yn canolbwyntio ar Heol Caerdydd, Lôn yr Ysgol a Ffordd Ynyslyn. Maen nhw'n llwybrau allweddol i nifer o ddisgyblion a theuluoedd wrth gerdded a beicio i Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen ac Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen bob dydd.
O fis Medi 2024, bydd Ysgol Afon Wen, ysgol newydd 3-16 oed, yn agor i'r gymuned ar safle'r ysgol gynradd ac ysgol uwchradd bresennol. Bydd y buddsoddiad sylweddol yma, ar y cyd â Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, yn darparu adeilad ysgol a chyfleusterau allanol newydd o'r radd flaenaf.
Er mwyn cyd-fynd â'r datblygiad, mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid pellach gan Gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru (2024/25) er mwyn gwella'r cyfleusterau lleol i gerddwyr - gyda chyllid cyfalaf cyfatebol yn cael ei ddarparu gan y Cyngor.
Mae cwmni Calibre Contracting Ltd wedi cael ei benodi i ddarparu'r cynllun, fydd yn para oddeutu 10 wythnos. Bydd yn darparu'r gwelliannau llwybrau diogel oedd wedi'u hargymell ar gyfer datblygiad yr ysgol - gan gynnwys gwella rhannau o'r llwybr troed, gosod ac uwchraddio croesfannau anffurfiol, a gosod pafin botymog.
Bydd gwelliannau teithio llesol yn cael eu darparu ar gyffordd Heol Caerdydd / Lôn yr Ysgol, i ddarparu cyswllt cerdded a beicio newydd rhwng safle'r ysgol a Llwybr Taith Taf. Bydd parthau 'Dim Parcio' hefyd ar hyd y cyffyrdd sydd wedi'u nodi, i wella'r llif traffig presennol a gwella diogelwch cerddwyr.
Bydd angen mesurau rheoli traffig mewn sawl lleoliad - bydd eu safle'n symud wrth i waith y cynllun fynd rhagddo.
Bydd hyn yn cynnwys signalau traffig pedair ffordd ar Heol Caerdydd, a'r disgwyl yw bydd peth tarfu. Dylai gyrwyr ddefnyddio llwybrau amgen lle bo'n bosibl. Dylai disgyblion gerdded i'r ysgol lle bo modd. Mae llythyrau yn cael eu hanfon at ddisgyblion, rhieni a gwarcheidwaid er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw am y cynllun ac i'w hatgoffa nhw i ganiatáu digon o amser i deithio i'r ysgol, yn enwedig yn ystod cyfnod arholiadau.
Bydd y ffordd ar gau hefyd dros y penwythnos yn ystod mis Gorffennaf er mwyn cyflawni gwaith gosod wyneb newydd – bydd manylion pellach yn cael eu darparu gan y Cyngor wedi iddyn nhw gael eu cadarnhau.
Meddai'rCynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Bydd gwaith arfaethedig yn y Ddraenen-wen yn darparu cyfres o welliannau cyfleusterau i gerddwyr ger ardal brysur Heol Caerdydd, sy'n cael ei ddefnyddio gan deuluoedd er mwyn cerdded i'r ysgol a gartref bob dydd. Bydd trigolion yn sylwi ar waith y cynllun yn dechrau o 13 Mai er mwyn gwella llwybrau troed, uwchraddio croesfannau a chynyddu'r ddarpariaeth teithio llesol lleol. Rydyn ni hefyd wedi derbyn cyllid Llywodraeth Cymru pwysig ychwanegol ar gyfer y cynllun yma drwy ei Chronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer 2024/25.
"Bydd y gwaith yn cael ei gynnal dros yr haf eleni cyn i Ysgol Afon Wen agor ym mis Medi. Rhan bwysig o'n datblygiadau ysgol newydd yw bwrw golwg ar sut mae modd gwella a gwneud llwybrau lleol i'r ysgol yn fwy diogel. Er enghraifft, dechreuodd gwaith ym mis Ionawr 2024 i ddarparu gwelliannau amrywiol i gyffyrdd a llwybrau cerddwyr ym Mhentre'r Eglwys, a chafodd ei gwblhau erbyn agor adeilad newydd Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref yn ddiweddar.
"Mae cynlluniau'r Ddraenen-wen a Phentre'r Eglwys yn dilyn gwelliannau llwybrau diogel ar wahân gafodd eu darparu yn Hirwaun y llynedd - a chyfres debyg o waith gafodd ei chwblhau yn Llanilltud Faerdref, Llwynypia, Abercynon, Llantrisant, Cilfynydd a Thonpentre dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd y rhain yn cyd-fynd â datblygiadau ysgolion, neu wedi'u nodi ar gyfer buddsoddiad ar wahân.
"Bydd angen mesurau rheoli traffig ar gyfer rhai agweddau o'r gwaith arfaethedig yn y Ddraenen-wen - yn enwedig ar Heol Caerdydd, lle mae disgwyl i'r gwaith darfu ar bobl. Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'i gontractwr i gyflawni'r cynllun yn effeithlon.” Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad."
Wedi ei bostio ar 08/05/24