Skip to main content

Cam diweddaraf gwaith atgyweirio wal ar hyd Heol Berw yn dilyn difrod storm

Berw Road grid - Copy

Bydd y Cyngor yn dechrau ei gam diweddaraf o waith atgyweirio rhan nesaf wal yr afon sydd wedi'i lleoli ar hyd Heol Berw ym Mhontypridd. Bydd angen cau llwybr troed ger y wal, ond bydd modd i ddefnyddwyr y ffordd deithio i'r ddau gyfeiriad yn ystod y gwaith.

Mae rhan nesaf y wal sydd i'w hatgyweirio yn 230 metr o hyd, ac mae wedi'i lleoli i'r de-orllewin o Gae Heol Berw a Theras Lewis. Mae'r Cyngor wedi penodi Hammonds Ltd yn gontractwr a bydd yn dechrau gwaith o ddydd Llun, 13 Mai.

Bydd y cynllun yn cynnwys cynnal gwaith atgyweirio adfer i'r wal gerrig - gan gynnwys cael gwared ar lystyfiant ac ailbwyntio rhannau o'r strwythur. Bydd angen ailadeiladu rhai rhannau, sy'n golygu tynnu rhai o'r meini copa presennol a'u hailosod nhw lle bydd angen. Mae disgwyl i'r cynllun gael ei gwblhau tua diwedd yr haf, 2024, ac mae'n cael ei ariannu gan raglen atgyweiriadau Storm Dennis Llywodraeth Cymru.

Bydd y contractwr yn gweithio ar rannau 30 metr o hyd o'r wal ar y tro, gan osod a symud sgaffaldiau wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Bydd darn o dir sy'n eiddo i'r Cyngor gyferbyn â 28 Heol Berw yn cael ei ddefnyddio'n fan i gadw offer.

Bydd angen cau'r llwybr troed ger y wal, sef rhannau 30 metr o hyd ar y tro, fydd yn cyfateb i leoliad y gwaith wrth iddo newid. Bydd mannau croesi dros dro i gerddwyr yn cael eu darparu a bydd arwyddion clir i’w gweld.

Bydd modd cynnal y rhan fwyaf o'r gwaith heb orfod cau lôn ar Heol Berw. Bydd byrddau traffig Stop/Ewch yn cael eu defnyddio'n achlysurol er mwyn derbyn nwyddau i'r safle. Bydd y rhain yn cael eu trefnu yn ystod adegau tawelach a byddan nhw'n para tua 15 munud.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Bydd y gwaith yma'n cynnwys atgyweirio rhan nesaf wal yr afon ar hyd Heol Berw, a gafodd ei difrodi mewn sawl man yn ystod stormydd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n dilyn cynllun atgyweirio tebyg gafodd ei gynnal ar ran o'r wal ymhellach i'r gogledd, gyferbyn â Chae Heol Berw, a chafodd ei gwblhau cyn y Nadolig.

"Rydyn ni unwaith yn rhagor wedi croesawu cyllid pwysig gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun yma, sydd wedi'i gynnwys yn y rhaglen benodedig ar gyfer atgyweiriadau Storm Dennis yn 2024/25. Dyma gyllid gwerth £3.61 miliwn ar gyfer Rhondda Cynon Taf, a bydd yn sicrhau bod gwaith cynlluniau allweddol, megis Pont Droed Castle Inn yn Nhrefforest, y Bont Wen ym Mhontypridd, a Phont Droed y Bibell Gludo yn Abercynon, yn mynd rhagddo ac yn cael ei gwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

"Mae'r cymorth yma yn ategu ymrwymiad y Cyngor i atgyweirio, cynnal a chadw a diogelu strwythurau allweddol ar gyfer y dyfodol sy'n rhan o'n rhwydwaith ffyrdd ledled y Fwrdeistref Sirol. Cytunodd y Cabinet ar gyllideb gwerth £6.58 miliwn ar gyfer Strwythurau Priffyrdd ym mis Mawrth 2024, ac mae wedi'i chynnwys yn ein rhaglen gyfalaf ar gyfer y flwyddyn i ddod.

"Bydd gwaith atgyweirio wal yr afon ar Heol Berw yn dechrau ar 13 Mai, a does dim disgwyl iddo darfu llawer. Bydd y llwybr troed ger y wal ar gau dros dro, ond bydd modd i draffig deithio i'r ddau gyfeiriad yn ystod cyfnod y gwaith. Diolch ymlaen llaw i'r gymuned leol am eich cydweithrediad. Byddwn ni'n gweithio gyda'n contractwr er mwyn sicrhau cynnydd sydd mor gyflym ac effeithlon â phosibl.”

Wedi ei bostio ar 08/05/2024