Mae Aelodau Etholedig wedi cytuno ar Gynllun Corfforaethol newydd y Cyngor (2024-2030) yn dilyn gweithgarwch ymgysylltu helaeth - gan nodi'r weledigaeth ar gyfer Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â'n pedwar Amcan Lles a'n blaenoriaethau ar gyfer y chwe blynedd nesaf. Mae'r cynllun hefyd ymdrin ag ymrwymiadau'r Cyngor i drigolion, staff a phartneriaid.
Cytunodd y Cyngor Llawn ar fersiwn derfynol o'r Cynllun ddydd Mercher, 24 Ebrill. Bydd hyn yn llywio strategaethau a pholisïau'r Awdurdod Lleol, yn helpu i ddyrannu adnoddau, ac yn helpu'r Cyngor i gyflawni'r canlyniadau y cytunwyd arnyn nhw, gan wneud gwahaniaeth i fywydau trigolion y Fwrdeistref Sirol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae modd gweld y Cynllun llawn ar ffurf atodiad i adroddiad y Cabinet, a drafodwyd ddydd Mercher, yma.
Teitl y Cynllun yw 'Gweithio Gyda'n Cymunedau', ac mae'n cwmpasu'r cyfnod rhwng blynyddoedd ariannol 2024/25 a 2029/30. Mae'r ddogfen yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer Rhondda Cynon Taf, lle:
"Mae modd i bobl, cymunedau a busnesau dyfu a byw mewn Bwrdeistref Sirol iach, werdd, diogel, bywiog a chynhwysol, lle mae modd iddyn nhw gyflawni eu potensial ym mhob agwedd ar eu bywydau, nawr ac yn y dyfodol.
Mae hefyd yn pennu pwrpas arfaethedig y Cyngor a’r rheswm dros ei fodolaeth:
"Darparu arweinyddiaeth gymunedol a chynnal gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, gan weithio'n ochr yn ochr â thrigolion, cymunedau a’n partneriaid er mwyn i bobl, busnesau, a’r amgylchedd ffynnu."
Yn olaf, mae’r Cynllun y cytunwyd arno yn canolbwyntio ar y pedwar amcan canlynol o ran lles:
Pobl a Chymunedau - cefnogi a grymuso trigolion a chymunedau Rhondda Cynon Taf i fyw bywydau diogel, iach a boddhaus.
Gwaith a Busnes - helpu i atgyfnerthu a thyfu economi Rhondda Cynon Taf.
Natur a'r Amgylchedd – Rhondda Cynon Taf gwyrdd a glân sy'n gwella ac yn diogelu amgylchedd a natur y fwrdeistref sirol.
Diwylliant, Treftadaeth a'r Gymraeg – cydnabod a dathlu hanes Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â'r hyn sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd a'r hyn sydd i ddod yn y dyfodol.
Mae'r Cynllun Corfforaethol newydd wedi adeiladu ar y cynnydd a wnaed o dan y Cynllun 'Gwneud Gwahaniaeth' cyfredol, a oedd yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 2020 a 2024. Cafodd y Cynllun ei lywio a'i ddatblygu ar sail nifer helaeth o weithgareddau ymgysylltu dros y deunaw mis diwethaf, yn ogystal â gwaith ehangach o ran Hunanasesiad Blynyddol y Cyngor yn 2022/23 ac adolygiadau cynnydd rheolaidd o'r Cynllun cyfredol.
Roedd modd ymgysylltu drwy wefan Dewch i Siarad y Cyngor, yng nghyfarfodydd y Cabinet a thrafodaethau cynllunio ymhlith rheolwyr, yn ogystal â thrwy'r sianel 'Greenspace' ar Teams. Cafodd gweithgarwch ymgysylltu penodol ar weledigaeth, amcanion a blaenoriaethau’r Cynllun newydd eu cynnal ar ffurf dau gam – yn fwyaf diweddar o 8 Rhagfyr, 2023, hyd at 29 Ionawr, 2024. Yn dilyn hyn, cafodd yr adborth ei drafod gan y Cabinet ym mis Mawrth 2024.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Ar ôl i'r Aelodau Etholedig gymeradwyo'r Cynllun Corfforaethol newydd ddydd Mercher, bydd y Cyngor nawr yn ei roi ar waith ar gyfer y cyfnod hyd at 2030. Hon yw un o'r dogfennau pwysicaf sydd wedi dod gerbron Aelodau'r Cyngor. Mae'r Cynllun yn pennu cyfeiriad cyffredinol gweithgarwch yr Awdurdod Lleol, ei weledigaeth ar gyfer Rhondda Cynon Taf, a'i amcanion o ran cefnogi lles trigolion. Mae hwn yn fframwaith allweddol ar gyfer popeth a wnawn, gan lywio ein strategaethau a’n polisïau.
“Mae’r Cynllun Corfforaethol newydd yn mynd i’r afael â llawer o heriau rydyn ni'n eu hwynebu ar hyn o bryd, neu rai sy'n debygol o godi yn y dyfodol, o ystyried y pwysau ariannol sylweddol a'r galw cynyddol ar wasanaethau sy’n effeithio ar holl gynghorau Cymru. Mae'r Cynllun yn canolbwyntio'n benodol ar atgyfnerthu gallu a chydnerthedd cymunedau, ymgorffori newid yn yr hinsawdd yng ngwaith beunyddiol y Cyngor, sicrhau rhagor o werth cymdeithasol, cyd-fynd yn well ag egwyddorion datblygu cynaliadwy, a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn sectorau allweddol megis iechyd, addysg a gwaith.
“Mae’r Cyngor wedi ymgynghori â thrigolion yn ystod dau gam ymgynghori, tra hefyd yn cynnal gwaith ymgysylltu ychwanegol. Mae hyn oll wedi helpu i lywio a llunio’r Cynllun Corfforaethol newydd. Cymerodd tua 540 o bobl ran yn yr ail gam ymgynghori a gynhaliwyd rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Ionawr 2024. Daeth mwy na 300 o ymatebion i’r arolwg i law, ac roedden nhw'n dangos yn glir bod y cyhoedd yn cytuno â gweledigaeth, ymrwymiadau, a phedwar amcan llesiant arfaethedig y Cynllun – gyda mwy na 70% o'r ymatebwyr yn nodi eu bod nhw'n cefnogi'r cynigion ar gyfer pob un o’r meysydd unigol yma.
“Yn y gorffennol, mae llunio Cynllun Corfforaethol sy’n pennu cyfeiriad y Cyngor wedi bod yn ffordd lwyddiannus o helpu i fonitro ein gweithgarwch yn erbyn amcanion clir, a sicrhau ein bod ni'n cyflawni gweledigaeth y mae pawb yn cytuno arni hi ar gyfer Rhondda Cynon Taf. Rydw i'n falch, felly, bod y Cyngor Llawn wedi cytuno ar y Cynllun newydd ar gyfer y chwe blynedd nesaf.”
Wedi ei bostio ar 07/05/2024