Bydd trigolion yn gweld pontynau'n cael eu defnyddio yn yr afon ger pont droed Castle Inn dros yr wythnosau nesaf, wrth i'r contractwr gynnal cam nesaf y gwaith sydd wedi'i drefnu. Bydd y bont droed yn parhau i fod ar agor yn ystod y gwaith.
Agorwyd y bont droed newydd rhwng Stryd yr Afon yn Nhrefforest a Heol Caerdydd yng Nglyn-taf ym mis Chwefror 2024, a bydd modd cwblhau'r gwaith sy'n weddill yn y cam adeiladu yn ddiogel tra bydd y bont ar agor. Mae'r bont newydd, sy'n strwythur pwysig lleol, wedi cymryd lle hen bont droed Castle Inn a oedd wedi'i dymchwel ar ôl difrod storm difrifol.
Pan gafodd y bont droed newydd ei hagor yn gynharach eleni, nododd y Cyngor y bydd angen cwblhau rhywfaint o waith a oedd yn weddill yn ystod yr haf eleni – yn enwedig gwaith yn yr afon nad oes modd ei gwblhau yn y gaeaf o ganlyniad i gyfyngiadau tymhorol.
O ddydd Llun 13 Mai, bydd contractwry prosiect,Knights Brown, yn dechrau ar y gwaith o osod cladin ar ategwaith gorllewinol y bont ac wal adain dde-orllewinol y bont. Bydd carfan y contractwr ar y safle yn defnyddio pontynau i gael mynediad i'r bont. Bydd y cam yma o waith yn para tua phedair wythnos, yn amodol ar dywydd braf.
Bydd y contractwr yn ysgrifennu at drigolion a busnesau lleol cyn bo hir er mwyn amlinellu'r gwaith yma. Nodwch y bydd angen goleuadau traffig dwyffordd ar Heol Caerdydd, ar y rhan o'r ffordd ger y bont droed, er mwyn gosod peiriant fydd yn codi'r pontynau i mewn i'r afon a chodi a gosod deunyddiau ac offer ar y pontynau.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Bydd pont droed Castle Inn yn Nhrefforest yn parhau i fod ar agor i gerddwyr a beicwyr wrth i rywfaint o'r rhaglen waith sy'n weddill gael ei chynnal dros y mis nesaf. Bydd y gwaith yma o 13 Mai yn cynnwys gosod cladin ar ran o'r bont, wrth i'n contractwr gael mynediad i'r strwythur gan ddefnyddio pontynau yn yr afon.
“Mae'r Cyngor yn parhau i groesawu cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect mawr yma, gydag elfennau terfynol y gwaith yn cael eu cynnal yn rhan o raglen gwerth £3.61 miliwn ar gyfer atgyweiriadau Storm Dennis yn Rhondda Cynon Taf yn ystod 2024/25 – a hynny ar ôl derbyn cyllid sylweddol yn ystod blynyddoedd ariannol blaenorol.
“Byddwn ni'n gweithio gyda'n contractwr i gwblhau'r gwaith ar y safle mor gyflym ac effeithlon â phosibl, gyda dyddiadau cwblhau'r gwaith yn amodol ar dywydd braf. Bydd angen goleuadau traffig dwyffordd ger y bont ar Heol Caerdydd er mwyn gosod a symud y pontynau, a chodi a gosod deunyddiau arnyn nhw. Diolch ymlaen llaw i ddefnyddwyr y ffordd a'r gymuned am eich cydweithrediad.”
Nodwch y bydd Dŵr Cymru yn cynnal gwaith sylweddol ar Heol Caerdydd yn hwyrach eleni, a bydd wyneb newydd yn cael ei osod ar y ffordd gerbydau yn dilyn hyn.
Wedi ei bostio ar 10/05/2024