Cyn hir, bydd y sawl sy'n ymweld â Phontypridd yn sylwi bod gwaith yn cael ei wneud i wella cyflwr ac edrychiad bloc o adeiladau'r Cyngor ar Stryd Taf. Mae disgwyl i'r gwaith achosi ychydig iawn o darfu, a bydd pob busnes yn parhau i fod ar agor.
Bydd y Cyngor yn ymgymryd ag ystod o welliannau i 103–110 Stryd Taf, a bydd y gwaith yn dechrau ddydd Mawrth, 7 Mai. Yr Awdurdod Lleol sy'n berchen ar y bloc. Mae’r bloc wedi'i nodi'n le y mae angen gwaith adnewyddu arno er mwyn iddo barhau i fod yn addas ar gyfer busnesau.
Bydd y cynllun yn golygu gwneud gwelliannau o ran natur ymarferol yr adeilad a'i edrychiad – bydd y to a'r canopi'n cael eu hatgyweirio, bydd y cladin yn cael ei ailosod, a bydd gwelliannau'n cael eu gwneud i'r rendro, yn ogystal ag i flaen rhai siopau. Rhan un y gwaith adnewyddu cyffredinol yw'r hyn fydd yn dechrau ddydd Mawrth. Y bwriad yw y bydd gorchudd y to fflat yn cael ei ailosod yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn ystod rhan dau'r adnewyddu.
Mae'r Cyngor wedi penodi Albion Workplace Solutions yn gontractwyr i ymgymryd â rhan gyntaf y gwaith, a bydd y gwaith yma wedi'i gwblhau erbyn haf 2024. Bydd y contractwr yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cyn lleied â phosib o darfu i fusnesau a chanol y dref. Mae angen gosod sgaffaldiau er mwyn ymgymryd â'r gwaith, ond fe fydd y siopau yn y bloc ar agor drwy gydol y cyfnod a bydd modd eu cyrraedd fel arfer.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: "Bydd y gwaith adnewyddu yn 103–110 Stryd Taf yn gwella edrychiad yr unedau yma a'r bloc ehangach, o'r tu allan, a bydd yn golygu fod gwelliannau'n cael eu gwneud i'r unedau o ran eu hymarferoldeb hefyd er mwyn sicrhau eu bod yn addas o hyd ar gyfer busnesau. Y Cyngor sy'n berchen ar yr adeiladau yma ac rydyn ni wedi sicrhau cyllid allanol i fynd i'r afael â'r gwelliannau dan sylw.
"Mae'r cynllun yma'n rhan o'r gwaith adnewyddu sy'n parhau i fynd rhagddo yng Nghanol Tref Pontypridd, ac mae'n Cynllun Creu Lleoedd yn gosod gweledigaeth gyffrous ar gyfer y dyfodol – wrth inni adeiladu ar yr hyn rydyn ni wedi'i gyflawni eisoes. Mae prosiectau mawr fel Llys Cadwyn, Cwrt yr Orsaf ac YMa wedi'u cwblhau, tra bod cynlluniau amlwg ar waith yn lleoliad y neuadd fingo gynt, ac yn lleoliad M&S. Mae'r gwaith ailddatblygu yng Nghanolfan Gelfyddydau y Miwni yn mynd rhagddo, felly hefyd y gwaith ym Mharc Treftadaeth Ynysangharad, drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
"Rydyn ni hefyd ar ben ein digon fod Pontypridd wedi'i ddewis yn gartref i Eisteddfod Genedlaethol 2024 rhwng 3 a 10 Awst. Mae llai na 100 diwrnod nes bydd yr Ŵyl yn dechrau, a dydyn ni methu aros i ddathlu'r Gymraeg, a hefyd arddangos treftadaeth, gwerthoedd a thirwedd arbennig ein Bwrdeistref Sirol wych.
"O 7 Mai, wedi penwythnos Gŵyl y Banc, bydd unrhyw un sy'n ymweld â chanol y dref yn sylwi bod y gwaith adnewyddu wedi dechrau ar Stryd y Taf – ac mae wedi'i gynllunio'n ofalus er mwyn sicrhau cyn lleied o darfu â phosib. Bydd pob busnes ar agor fel arfer, a bydd modd cael mynediad atyn nhw bob amser. Ni fydd y cynllun yn cael unrhyw effaith ar y gwaith ailddatblygu sydd eisoes yn mynd rhagddo gerllaw ar safle'r neuadd fingo gynt. Diolch ymlaen llaw i gymuned canol y dref am eich cydweithrediad."
Mae'r cynllun yn cael ei roi ar waith yn sgil dyraniad o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth San Steffan, sy'n rhan amlwg o agenda'r Ffyniant Bro ac sy'n rhoi gwerth £2.65 biliwn o gyllid i'w fuddsoddi yn lleol ledled y DU erbyn mis Mawrth 2025.
Wedi ei bostio ar 03/05/24