Skip to main content

Adam Harcombe: O Wellhad i Lwyddiant gyda Vision Products

Adam 2

Mae cyn-chwaraewr rygbi o ardal Trealaw, Adam Harcombe, wedi dod yn arwr lleol o ganlyniad i'w daith wella anhygoel a'i gydnerthedd yn dilyn digwyddiad a newidiodd ei fywyd yn 2020. Ar ôl ymosodiad difrifol a chael ei adael wrth ochr y ffordd, cafodd Adam anaf difrifol i'w ben ac aeth i mewn i goma estynedig. Er gwaethaf y prognosis, roedd penderfyniad a chryfder Adam, ynghyd â chefnogaeth gyson ei deulu, ffrindiau a chymuned, wedi chwarae rôl hanfodol o ran ei daith wella.

Ar ôl deffro o'r coma, wynebodd Adam nifer o heriau corfforol a meddyliol, gan orfod ailddysgu sgiliau sylfaenol ac angen cymorth gyda thasgau bob dydd. Serch hynny, roedd ei ysbryd yn gryf wrth iddo adennill nerth ac annibyniaeth yn raddol. Mae taith Adam yn dangos pŵer cydnerthedd a chefnogaeth y gymuned.

Yn ogystal â'i daith wella arbennig, mae Adam wedi rhagori ym maes athletau yn ddiweddar. Enillodd ddwy fedal yn y gamp taflu maen eleni, dyma gyflawniad anhygoel sydd wedi dod â boddhad personol iddo ac sydd wedi ysbrydoli'r gymuned gyfan. Roedd Adam i'w weld yn rhan o raglen ddogfen y BBC a gafodd ei rhyddhau ym mis Awst eleni (2024), o'r enw ‘Saving Lives in Cardiff.’

Ym mis Ebrill 2024, ymunodd Adam â busnes Vision Products fel gwirfoddolwr, gan helpu i wneud ffenestri. Ers hynny, mae Adam wedi cael swydd dan hyfforddiant lle mae'n dysgu sgiliau newydd, megis weldio ffenestri. Bwriad y swyddi dan hyfforddiant yma yw cefnogi unigolion anabl, a rhoi profiad gwaith ystyrlon iddyn nhw.

Mae Vision Products yn fusnes cyflogaeth gefnogol sy'n rhan o Gyngor Rhondda Cynon Taf ac mae wedi ymrwymo i ddarparu cymorth, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl. Mae'n cynnig ystod amrywiol o nwyddau a gwasanaethau, gan gynnwys cymhorthion byw, nwyddau symudedd a ffenestri a drysau PVCu o safon uchel. Cenhadaeth Vision Products yw gwneud effaith gadarnhaol yn y gymuned trwy alluogi unigolion a hyrwyddo cynhwysiant.

Wrth fyfyrio ar ei daith wella, dywedodd Adam:  “Rydw i'n ddiolchgar i Vision Products am gredu bod modd i mi gyflawni hyn. Mae gyda fi hyder i wneud pethau eto nawr achos fe wnaeth fy mhroblemau iechyd meddwl gynyddu'n sylweddol pan doeddwn i ddim yn gweithio ac mae bod yn y gwaith wedi newid hyn.

“Rydw i bellach yn gallu rhoi mwy o sylw i bethau yn ystod fy mywyd bob dydd ac rydw i'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn fwy sy'n ddiddordeb i fi.  Rydw i wedi dysgu pethau newydd ac wedi ychwanegu pethau at fy CV fydd yn parhau yn ystod fy nghyfnod yma.  Mae bod yn rhan o dîm a gweithio gyda chydweithwyr wedi aildanio'r hen fersiwn ohonof i fy hun eto.

“Rydw i'n teimlo'n normal achos fy mod i'n gweithio yma gyda phobl anabl eraill.  Byddwn i'n argymell bod unrhyw un yn gweithio yma, yn enwedig pobl anabl sydd newydd adael yr ysgol neu goleg.”

Mae modd cael gwybod rhagor am stori Adam mewn fideo sy'n trafod ei waith gyda Vision Products. 

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys Vision Products: “Mae stori Adam yn dangos cryfder ysbryd dynol a phwysigrwydd darparu cyfleoedd i bawb, ni waeth beth fo'r amgylchiadau.

“Rydyn ni yng Nghyngor RhCT yn hynod falch o gael Adam yn rhan o'n cynllun swyddi dan hyfforddiant yn Vision Products. Ers ymuno â ni fel gwirfoddolwr, mae Adam wedi parhau i ddangos dyfalbarhad, cydnerthedd a phenderfyniad ym mhopeth mae e'n ei wneud.

“Rydw i'n edrych ymlaen at weld cynnydd Adam yn ei rôl, wrth barhau i oresgyn heriau bywyd. Mae Adam yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.”

Mae Vision Products yn parhau i wneud effaith gadarnhaol yn y gymuned trwy alluogi unigolion a hyrwyddo cynhwysiant. Trwy ddarparu'r cyfleoedd yma, mae Vision Products yn galluogi unigolion anabl i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth, datblygu sgiliau, ennill cymwysterau a dod yn fwy annibynnol.

I gael rhagor o wybodaeth am Vision Products a'r cynllun swyddi dan hyfforddiant, cysylltwch â:

Vision Products
Uned 2 Parc Glas, Ystad Ddiwydiannol Lôn Coedcae, Pont-y-clun, CF72 9GP
Ffôn: 01443 229988
E-bost: visionproductsbusnes@rctcbc.gov.uk
https://www.rctcbc.gov.uk/CY/GetInvolved/VisionProducts/Home.aspx
Wedi ei bostio ar 12/11/2024