Ddydd Gwener 8 Tachwedd, derbyniodd Mrs Heidi Bryant Miles o Ysgol Gyfun Rhydywaun Wobr y Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (SENCO) Ysbrydoledig am ei gwaith caled hi a'i thîm, a'u hymroddiad wrth gefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Mrs Heidi Bryant Miles yw'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Rhydywaun a derbyniodd y wobr gan Gymdeithas Dyslecsia Prydain mewn seremoni yn Llundain, ar ran Tîm Hafan am ei ymroddiad, gofal a chefnogaeth i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn yr ysgol, yn enwedig plant sydd â dyslecsia.
Mae Gwobr y SENCO Ysbrydoledig yn cael ei rhoi i Gydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig neu Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol sy'n cyfoethogi bywydau plant bob dydd, gan ddarparu dealltwriaeth, sicrwydd a gwybodaeth arbenigol i bob plentyn. Dyma'r hyn y mae Mrs Bryant Miles a Thîm Hafan wedi bod yn ei wneud ar gyfer disgyblion Ysgol Rhydywaun.
Meddai Lisa Williams, Pennaeth Ysgol Rhydywaun:"Mae'r gwaith y mae Heidi yn ei wneud yn gysylltiedig â sicrhau mynediad at y cwricwlwm a'r adnoddau angenrheidiol i gynorthwyo'r disgyblion yn eu gwersi. Mae Heidi hefyd yn sicrhau bod ymyraethau ar waith i helpu ein disgyblion trwy eu cysylltu ag un o'n hymarferwyr arbenigol yn yr Hafan, sef ein hadran ADY / Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol yn yr ysgol. Rydyn ni'n hynod falch ohoni hi a'r tîm i gyd, mae'r wobr yma'n gwbl haeddiannol."
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: "Rydyn ni'n hynod falch o Heidi a Thîm Hafan Ysgol Rhydywaun. Mae'r wobr yma'n cydnabod y gwaith caled, yr ymroddiad a'r gofal y mae pob plentyn ag ADY yn eu derbyn bob dydd. Dydy'r gwaith ddim yn mynd heb sylw, ac rydyn ni mor falch o weld y gwaith yn cael ei gydnabod fel hyn. Da iawn a diolch i Heidi a'r Tîm."
Wedi ei bostio ar 11/11/2024