Skip to main content

Cabinet i ystyried newid allweddol i chweched dosbarth yng Nghwm Cynon

Mae cynigion wedi'u cyflwyno er mwyn gwella cyfleoedd chweched dosbarth ar gyfer disgyblion yng Nghwm Cynon trwy drosglwyddo chweched dosbarth Ysgol Gyfun Aberpennar i Ysgol Gymunedol Aberdâr.

Yn dilyn trafodaethau gydag Ysgol Gyfun Aberpennar, mae'r Cyngor wedi cytuno i adolygu arlwy chweched dosbarth yr ysgol. Cafodd pryderon eu nodi gan yr ysgol mewn perthynas â hyfywedd y chweched dosbarth o ganlyniad i ostyngiad parhaus yn nifer y disgyblion chweched dosbarth, yr arlwy cyfyngedig o ran pynciau a’r ffaith bod yr ysgol yn dibynnu ar ysgolion eraill yng Nghwm Cynon i ddarparu rhai o bynciau'r chweched dosbarth.

Mae tua 75% o ddisgyblion y chweched dosbarth yn Aberpennar eisoes yn cael rhan o'u haddysg mewn ysgolion eraill yng Nghwm Cynon a byddai'r cynnig yn mynd i'r afael â maint anghynaliadwy'r chweched dosbarth a'i ddewisiadau cyfyngedig o ran pynciau. 

Mae adolygiad y Cyngor wedi canfod bod arlwy presennol y chweched dosbarth yn Aberpennar yn cyfyngu ar ddewisiadau pynciau disgyblion, a bod meintiau dosbarthiadau yn rhy fach er mwyn bod yn ariannol hyfyw. Mae hefyd yn golygu bod yr ysgol yn gorfod ailgyfeirio adnoddau gwerthfawr a fwriedir ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 7-11 er mwyn cynnal chweched dosbarth sy'n mynd yn llai. Ar hyn o bryd, mae angen £125,000 ychwanegol ar yr ysgol ar ben y dyraniad ôl-16 i gynnal y chweched dosbarth – dydy hyn ddim yn gynaliadwy yn yr hirdymor er gwaethaf ymdrechion helaeth yr ysgol i gydweithio ag ysgolion eraill yng Nghwm Cynon. 

Bydd y Cabinet yn ystyried a ddylid ymgynghori ar y cynigion yma ddydd Mercher, 20 Tachwedd. Pe byddai’r cynigion yn cael eu cymeradwyo yn dilyn yr ymgynghoriad, ni fyddai unrhyw effaith ar ddisgyblion sydd yn y chweched dosbarth ar hyn o bryd. Byddai'r newid yn dod i rym ym mis Medi 2026. Er mwyn hwyluso hyn, ni fyddai unrhyw ddisgyblion Blwyddyn 12 newydd yn cael eu derbyn i Ysgol Gyfun Aberpennar ym mis Medi 2025 (bydden nhw’n dechrau yn y chweched dosbarth yn Aberdâr neu’n mynychu’r coleg), a byddai disgyblion Aberpennar sydd ar fin mynd i Flwyddyn 13 yn parhau â’u hastudiaethau yn yr ysgol. Yn dilyn hyn, byddai chweched dosbarth Ysgol Gyfun Aberpennar yn cau.

Yn ogystal â hyn, mae'r holl ddisgyblion sy'n byw tair milltir neu ragor o'u hysgol neu goleg yn gymwys i gael cludiant o'r cartref i'r ysgol. Felly, mae’n debygol y byddai gan bob disgybl ôl-16 sy’n byw yn nalgylch Ysgol Gyfun Aberpennar hawl i gludiant am ddim i Ysgol Gymunedol Aberdâr.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg: "Mae'r newidiadau yma wedi'u cyflwyno yn dilyn trafodaeth gydag Ysgol Gyfun Aberpennar er mwyn adolygu ei harlwy chweched dosbarth presennol. Cafodd pryderon eu nodi mewn perthynas â’r dewis cyfyngedig o ran pynciau i ddisgyblion a’r gostyngiad yn nifer y disgyblion chweched dosbarth.

"Dim ond 16% o ddisgyblion Blwyddyn 11 yn 2023/24 oedd wedi dewis dychwelyd i'r ysgol ar gyfer y chweched dosbarth. 60% oedd y ffigur yma yn 2014/15. Gan fod chweched dosbarth Ysgol Gyfun Aberpennar mor fach, mae'n fwyfwy dibynnol ar ysgolion eraill yng Nghwm Cynon i sicrhau mynediad at nifer o ddewisiadau o ran pynciau ar gyfer y chweched dosbarth, gydag oddeutu tri chwarter o ddisgyblion y chweched dosbarth yn derbyn gwersi mewn ysgolion eraill.

"Cafodd pryderon eu nodi mewn perthynas â chostau cynyddol i’r ysgol er mwyn parhau i ddarparu addysg chweched dosbarth, sy'n cael effaith ar ei chyllideb gyffredinol i ddarparu addysg i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7-11.

“Byddai’r cynigion yn rhoi cyfle i ddisgyblion yn Aberpennar fanteisio ar arlwy chweched dosbarth eang a chytbwys, a ddylai annog rhagor o ymgysylltu ymhlith disgyblion ag addysg ôl-16, sy'n cael ei darparu mewn cyfleusterau addysg o’r radd flaenaf yn Aberdâr.

“Pe byddai’r Cabinet yn cytuno ddydd Mercher, byddai'r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad helaeth wyth wythnos ar y cynigion. Ar ôl y broses yma, byddai’r holl adborth yn cael ei ystyried yn drylwyr i lywio penderfyniad terfynol yn y dyfodol.”

Mae adroddiad ar gyfer cyfarfod y Cabinet ddydd Mercher yn nodi bod niferoedd disgyblion chweched dosbarth Ysgol Gyfun Aberpennar wedi bod yn gostwng yn gyson – o fwy na 140 ym mlwyddyn academaidd 2015/16 i 84 yn unig ym mis Medi 2023. Mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer mis Hydref 2024 wedi dangos gostyngiad pellach i 72 o ddisgyblion yn unig.

O'r 72 o ddisgyblion yma, dim ond 18 (25%) sy'n cael eu holl addysg yn Ysgol Gyfun Aberpennar. Mae'r 54 o ddisgyblion sy'n weddill (75%) yn teithio i Ysgol Gymunedol Aberdâr neu Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer rhai o'u gwersi.

Mae’r adroddiad yn ychwanegu bod yr arlwy presennol yn Aberpennar yn debygol o fod yn rhwystr i ymgysylltu, gan gael effaith negyddol ar gyfraddau pontio o Flwyddyn 11 i Flwyddyn 12. Er enghraifft, dim ond 16% o ddisgyblion Blwyddyn 11 yn 2023/24 oedd wedi dewis ddychwelyd i’r ysgol ar gyfer y chweched dosbarth. Y ffigur cyfatebol yn 2014/15 oedd 60%.

Yn y cyfamser, mae Ysgol Gymunedol Aberdâr yn ysgol 11-19 oed gafodd ei hagor yn 2014 ac wedi derbyn gradd 'A' ar gyfer cyfaddasrwydd a chyflwr (ar raddfa lle mai 'A' yw'r uchaf a 'D' yw'r isaf). Fe wnaeth yr ysgol elwa ar gyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif sylweddol gan Lywodraeth Cymru, gan ddarparu cyfleusterau modern o'r radd flaenaf. Mae gan yr ysgol 124 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth a rhagwelir y bydd y nifer yn codi i 133 erbyn 2028/29. Mae'r adroddiad yn nodi bod gan yr ysgol ddigon o le i dderbyn disgyblion chweched dosbarth Aberpennar.

Yn unol â'r cynigion, byddai'r Consortiwm ôl-16 yn parhau gydag Ysgol Gymunedol Aberdâr ac Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru. Yn yr un modd â'r drefn bresennol, byddai modd i ddisgyblion ôl-16 ddewis mynychu Coleg y Cymoedd.

 Pe byddai Aelodau’r Cabinet yn cytuno arno ddydd Mercher, gallai’r ymgynghoriad gael ei gynnal rhwng 2 Rhagfyr, 2024, a 27 Ionawr, 2025 – byddai’n cael ei gynnal yn unol â threfniadau a amlinellir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Wedi ei bostio ar 15/11/2024