Mae offer dringo maes chwarae Ysgol Gynradd Caegarw, Aberpennar, ar fin cael eu gwella'n sylweddol. Mae'r ysgol wedi derbyn cynnig hael gan fusnes lleol, T Samuel Estate Agents.
O dan gynllun Rheoli Ysgolion yn Lleol, corff llywodraethu ysgol sy'n gyfrifol am offer maes chwarae. Yn ôl cynllun cynilo cychwynnol yr ysgol ar gyfer ailwampio'r maes chwarae, amcangyfrifwyd nod 5 mlynedd, gyda gweithgareddau codi arian wedi'u cynllunio, megis achlysur y Pasg a Chyngerdd Côr, yn helpu i godi dros £5,000 tuag at y targed.
Ar ôl prynu eiddo lleol mewn cyflwr gwael, bwriad T Samuel Estate Agents, gyda chymorth partneriaid cymunedol, gan gynnwys gweithwyr sy'n rhieni ac yn warcheidwaid sy'n gysylltiedig â'r ysgol, yw adnewyddu eiddo a'i werthu, gyda'r holl elw'n mynd tuag at brosiect codi arian yr ysgol. Bwriad y prosiect yw codi £20,000 ychwanegol tuag at nod codi arian yr ysgol wrth ddod â'r gymuned at ei gilydd.
Meddai Pennaeth Ysgol Gynradd Caegarw, Mr Huw Griffiths: “Dyma esiampl wych o'r hyn sy'n gwneud ein cymuned mor arbennig, sef gweithio ar y cyd a chefnogi ein gilydd. Rydyn ni wrth ein boddau â'r weithred garedig yma oddi wrth fusnes T Samuel Estate Agents, ochr yn ochr â rhoi cartref newydd i offer chwarae dros ben! Dyma gyfle cyffrous i'n disgyblion a chymuned ehangach yr ysgol. Bydd nifer o genedlaethau o blant o'n trefi a phentrefi yn elwa ar y prosiect yma.”
Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr T Samuel Estate Agents, Chris Roberts,: “Mae gallu dod â'r gymuned at ei gilydd a chyfrannu at achos gwych yn pwysleisio ein hymrwymiad i'r gymuned leol yn Aberpennar. Rydyn ni'n gobeithio mai dyma fydd y cyntaf o nifer o brosiectau tebyg ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y cynigion caredig o gymorth gan fusnesau lleol eraill a rhieni/gwarcheidwaid er mwyn cefnogi'r prosiect.”
Rhoddodd rhiant-lywodraethwr, Gavin Allen, neges arall o ddiolch: “Mae'r maes chwarae yn fwy na lle i'r plant ddefnyddio'u hegni yn ystod amser cinio, mae'n fan lle mae modd i blant fwynhau amser gyda'u ffrindiau, creu atgofion, yn ogystal â gwneud ymarfer corff a datblygu. Bydd cyflymu'r broses o osod ffrâm ddringo yn y maes chwarae yn bendant yn cael effaith gadarnhaol ar y plant ifainc a theuluoedd yn ein cymuned leol.”
Mae nifer sylweddol o fusnesau lleol a rhieni/gwarcheidwaid sydd wedi gwirfoddoli i helpu i ailwampio'r eiddo a sicrhau llwyddiant y prosiect, wedi cefnogi'r ymgyrch codi arian. Mae eu gwaith yn tynnu sylw at y cysylltiadau cryf rhwng yr ysgol a'r gymuned ehangach.
Wedi ei bostio ar 08/11/2024