Skip to main content

Dathlu Llwyddiannau Plant a Phobl Ifainc Anabl

DCT Awards Ceremony - Long pic (1)

Mae llwyddiannau rhyfeddol plant a phobl ifainc anabl wedi cael eu dathlu mewn seremoni wobrwyo i godi calon, diolch i nawdd hael Tesco Glan-bad, Glebern Sports Abercynon, a 4vending.

Derbyniodd 40 o blant a phobl ifainc enwebiadau ar gyfer gwobrau, gan gydnabod eu cynnydd yn yr ysgol, hunanymwybyddiaeth, gwytnwch, sgiliau cyfathrebu, hyder, goddefgarwch, caredigrwydd, a thosturi i enwi rhai o'r categorïau. Derbyniodd pob enillydd dystysgrif a thlws i gydnabod eu cyflawniadau.

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan y Cynghorydd Gareth Caple, sef yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac Annabel Lloyd, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae'n anrhydedd dathlu llwyddiannau'r bobl ifainc hynod yma. Mae eu gwytnwch a'u nerth, ynghyd â chefnogaeth ddiwyro eu teuluoedd a'u cynhalwyr, yn ein hysbrydoli ni i gyd. 

"Mae cynnal seremonïau gwobrwyo fel hyn yn ein galluogi i fyfyrio ar y cynnydd a'r sgiliau anhygoel y mae'r unigolion ifainc yma wedi'u datblygu, yn aml er gwaethaf heriau sylweddol.

"Dyma longyfarch yr enillwyr, yn ogystal â'u teuluoedd, y cynhalwyr, a'r staff cymorth am eu hymroddiad, eu gwaith caled a'u cefnogaeth."

Mae Carfan Plant Anabl Rhondda Cynon Taf yn rhoi cymorth i blant anabl a'u teuluoedd. Ei nod yw cefnogi plant a phobl ifainc anabl i gyrraedd eu llawn botensial.

Mae'r cymorth yn cynnwys gofal a chymorth uniongyrchol i blant a phobl ifainc; cymorth i rieni, cynhalwyr a brodyr a chwiorydd; a gwybodaeth a chyngor.

Os oes angen cymorth arnoch chi, mae modd i riant neu gynhaliwr gysylltu'n uniongyrchol â'r garfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth drwy ffonio 01443 425 006.

Dyma ragor o wybodaeth: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/ChildrensServices/DisabledChildrenandYoungPeople/DisabledChildrenAndYoungPeople.aspx

Wedi ei bostio ar 19/11/2024