Bydd gwaith adeiladu yn dechrau yn fuan er mwyn datblygu safle hen Gartref Gofal Preswyl Bronllwyn yn Gelli - gan greu llety arbenigol modern sy'n darparu gofal i oedolion a phobl hŷn ag anableddau dysgu.
Mae'r Cyngor wedi penodi Langstone Construction Group yn gontractwr ar gyfer y gwaith datblgyu sylweddol. Bydd y cam adeiladu yn dechrau ddydd Llun, 18 Tachwedd. Roedd Cabinet wedi cytuno ar y cynllun yn flaenorol, a chafodd y cais cynllunio perthnasol ganiatâd llawn y llynedd. Cafodd hen adeiladau'r cartref gofal ar y safle eu dymchwel ddechrau 2024.
Bydd y safle amlwg ar Heol Colwyn yn cael ei ddatblygu yn llety gofal arbenigol newydd fydd yn cynnwys 14 ystafell wely ag ystafell ymolchi gyda darpariaeth gofal seibiant. Bydd y rhain yn cael eu hadeiladu ar is-lawr gwaelod, llawr gwaelod a llawr cyntaf. Bydd ardal iard i orllewin yr adeilad, a bydd y maes parcio a mynediad i'r safle yn aros fel y maen nhw yn y datblygiad.
Bydd yr adeilad yn cynnwys cyfleusterau modern megis cyfleuster golchi dillad, ystafell i staff, tair ystafell oriau dydd, tair ystafell synhwyraidd, cegin fasnachol, toiledau, ardal y nyrsys, ardal trin gwallt, ystafell ymolchi hygyrch ac ystafell hyfforddi.
Cyn i'r prif gam adeiladu ddechrau ar 18 Tachwedd, efallai bydd trigolion yn sylwi ar y contractwr yn asesu'r safle r mwyn cynnal gwaith archwilio, creu eu swyddfa safle a gosod mesurau diogelwch er mwyn diogelu'r cyhoedd a'r ardal waith. Rydyn ni'n rhagweld y bydd y gwaith yn dod i ben yn 2026.
Does dim disgwyl i’r gwaith darfu llawer ar y gymuned. Mae Langstone Construction Group wedi anfon llythyr at y Cylch Meithrin ac ysgol gynradd gyfagos er mwyn cyflwyno eu hunain a'r prosiect. Bydd y gwaith adeiladu yn ystyried gweithrediad y lleoliadau addysgu yma o ddydd i ddydd.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Rwy'n falch iawn bydd gwaith adeiladu'r llety gofal newydd yma yn Gelli yn dechrau yn fuan. Bydd y datblygiad gwerth miliynau yma yn darparu llety gofal arbenigol sydd ei angen ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Mae'n rhan o'n hymdrech ac ymrwymiad ehangach i foderneiddio'r dewisiadau llety gofal sydd ar gael i bobl yn Rhondda Cynon Taf.
"Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi darparu llety Gofal Ychwanegol poblogaidd yn Aberaman a'r Graig, mae ein trydydd cynllun yn cael ei adeiladu yn ardal Porth ar hyn o bryd. Mae buddsoddiad pellach gwerth miliynau wedi'i sicrhau gan Gabinet i ddarparu llety gofal pellach ar gyfer pobl hŷn yn ardal Glynrhedynog ac Aberpennar, a llety newydd penodedig ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ym Mhentre'r Eglwys.
"Bydd gwaith y prosiect sydd i ddod yn Gelli yn dechrau ar y safle ar 18 Tachwedd, yn dilyn gwaith dychwel a chlirio sylweddol sydd wedi'i gwblhau yn gynharach eleni. Mae'r Cyngor bellach wedi penodi contractwr ar gyfer y cynllun, a bydd trigolion yn dechrau sylwi ar eu presenoldeb ar y safle er mwyn cynnal gwaith archwilio a pharatoi, cyn i'r cam adeiladu ddechrau. Bydd swyddogion yn cydweithio'n agos â'r contractwr er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned drwy gydol cyfnod gwaith y cynllyn."
Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r gwaith neu weithgarwch ar y safle, cysylltwch â swyddogion Langstone Construction Group: Rheolwr Prosiect y Cynllun: (rthomas@langstoneconstruction.com) neu Reolwr Gwerth Cymdeithasol y Cynllun: (rjohn@langstoneconstruction.com).
Wedi ei bostio ar 13/11/2024