Skip to main content

Rhoi gwybod am fesurau cynnar i leihau'r gyllideb i Aelodau'r Cabinet

Bydd y Cabinet yn derbyn diweddariad ar waith pwysig  i bennu mesurau lleihau cyllideb cynnar a newidiadau gweithredol a fydd yn lleihau'r bwlch cyllidebol rhagamcanol a wynebir gan y Cyngor ar gyfer 2025/26. 

Ym mis Medi, derbyniodd y Cabinet diweddariad ar Gynllun Ariannol Tymor Canolig tair blynedd y Cyngor, sy'n nodi'r cyd-destun ar gyfer gwaith tuag at bennu cyllideb y flwyddyn nesaf. Nododd swyddogion y bydd penderfyniadau ariannol anodd yn parhau i gael eu hwynebu, gyda'r sector cyhoeddus yn dioddef wedi cyfnod parhaus o ostyngiadau termau real o ran cyllid. Bydd ffactorau fel pwysau costau byw yn dod â mwy o alw a chostau ar draws y gwasanaethau, yn enwedig gofal cymdeithasol.

Cafodd casgliadau o gynllunio cyllideb hefyd eu hadrodd i'r Cabinet ym mis Medi, gan gynnwys y bwlch cyllidebol a ragwelir ar gyfer 2025/26. Mewn sefyllfa wedi’i modelu o setliad ‘arian gwastad’ gan Lywodraeth Cymru, rhagwelir bwlch o £35.7 miliwn yn y gyllideb ar gyfer 2025/26 ac yn codi i £91.8 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys cynnydd tybiedig o 4% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer pob blwyddyn, a pharhau i flaenoriaethu cyllid ysgolion. 

Mae Adroddiad i'r Cabinet ddydd Mercher, 20 Tachwedd, yn cynnig diweddariad ar waith y Cyngor i nodi a chyflawni mesurau yn ystod y flwyddyn, sydd wedi galluogi arbedion cynnar i gael eu gwneud. Mae gweithgarwch yn ystod misoedd yr haf a dechrau'r hydref wedi nodi ystod o fesurau y gellir eu hadrodd bellach.

Mae mwy na £7.1m wedi'i nodi mewn mesurau effeithlonrwydd cyffredinol, y gellir eu gwneud gyda'r effaith leiaf bosibl ar wasanaethau – ar draws y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant; Gwasanaethau Corfforaethol; Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen; Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned; a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Nodir arbediad ychwanegol o £160,000 drwy Ad-drefnu Gwasanaethau Gweithredol.  Enghraifft o hyn fydd cau a dod â gwaith cynnal a chadw pedwar lawnt bowlio sydd heb gael eu defnyddio gan y cyhoedd am gyfnod hir o amser i ben, a chael gwared ar bedwar cyfleuster cyhoeddus awtomatig. Mae rhagor o fanylion am y rhain wedi'u cynnwys yn adroddiad y Cabinet.

Mae'r adroddiad yn ychwanegu y gall arbediad o £2.88 miliwn arall gael ei gynnwys yn y gyllideb, yn dilyn penderfyniadau a wnaed yn flaenorol gan y Cabinet.  Mae'r rhain yn cynnwys lefelau wedi'u diweddaru o Bremiymau Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag hirdymor, a newidiadau i Gludiant o'r Cartref i'r Ysgol a threfniadau rheoli gwastraff.  Yn ogystal, mae newidiadau i uwch reolwyr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wedi sicrhau arbediad pellach o £70,000 sy'n gallu cael ei gynnwys.

Yn gyfan gwbl, mae'r mesurau lleihau cyllideb a wnaed hyd yma yn cyfateb i £10.28 miliwn, sy'n gallu cael ei osod yn erbyn y bwlch cyllidebol rhagamcanol y bydd y Cyngor yn ei wynebu yn 2025/26.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae’r gwaith pwysig yma wedi’i gwblhau yn gynnar yn y broses o bennu’r gyllideb, gan nodi arbedion o fwy na £10 miliwn hyd yn hyn. Roedd diweddariad y Cynllun Ariannol Tymor Canolig a rannwyd ym mis Medi yn modelu bwlch yn y gyllideb o £35.7 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf.  Mae nodi arbedion sylweddol o’r fath yn gynnar yn rhoi'r Cyngor yn y sefyllfa orau bosibl i osod cyllideb gytbwys yn gyfreithiol ar gyfer y flwyddyn nesaf, sy’n diogelu gwasanaethau allweddol cymaint â phosibl.

"Mae elfen allweddol o'r gwaith cynnar yma wedi nodi £7.1 miliwn mewn mesurau effeithlonrwydd cyffredinol ar gyfer 2025/26 - ar ben £13 miliwn o arbedion effeithlon sydd wedi'u cynnwys yn ein cyllideb eleni, a £16 miliwn y llynedd. Mae arbedion o'r fath yn gyfraniad cadarnhaol at leihau'r bwlch yn y gyllideb, heb gael unrhyw effaith ar wasanaethau. Fodd bynnag, ar ôl blynyddoedd lawer o galedi, mae'r Cyngor wedi gorfod lenwi'i fylchau cyllidebol mwyaf erioed ym mhob un o'r ddwy flynedd ddiwethaf.  Mae nodi arbedion mor sylweddol drwy effeithlonrwydd yn gynyddol anodd flwyddyn ar ôl blwyddyn.

"Bydd gwaith yn parhau dros y misoedd nesaf i ddatblygu'r Strategaeth Gyllideb ddrafft mewn modd doeth a sefydledig. Mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn ymgynghori â thrigolion yng ngham un ei ymgynghoriad blynyddol, gan gasglu barn pobl ar feysydd gwasanaeth â blaenoriaeth, lefelau'r dreth gyngor, ac arbedion effeithlonrwydd.  Cynhelir ail gam yr ymgynghoriad yn y Flwyddyn Newydd, gan ganolbwyntio ar strategaeth gyllideb ddrafft benodol yn seiliedig ar setliad dros dro Llywodraeth Cymru.  Bydd yr holl adborth a dderbynnir ar draws y ddau gam hyn yn cael ei ystyried yn y penderfyniad terfynol.

“Disgwylir y setliad amodol ei hun ar Ragfyr 10 – a, gyda phob amrywiad o 1% yn cyfateb i £4.9m yng nghyllid y Cyngor, bydd hyn yn hanfodol wrth benderfynu ar ein hunion sefyllfa ar gyfer y flwyddyn nesaf.  Er bod cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU wedi dangos arwyddion o welliannau i lefelau ariannu ar draws y sector cyhoeddus, mae’n rhaid i'r Cyngor barhau i baratoi ar gyfer penderfyniadau anodd yn y tymor byr a’r tymor canolig.”

Wedi ei bostio ar 15/11/2024