Mae gwaith deuoli'r A4119 yng Nghoed Elái bellach yn dechrau ar ei gamau olaf. Bydd angen rheoli traffig er mwyn cyflawni'r gwaith ail-wynebu terfynol ar hyd y ffordd osgoi 1.5km o hyd a chylchfannau cyfagos dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys cau'r ffordd dros nos o 3 Rhagfyr, yn amodol ar dywydd.
Mae'r cynllun deuoli'n brosiect cludiant mawr i wella cysylltedd ac annog gweithgarwch economaidd sy'n darparu ffordd ddeuol ar yr A4119 tuag at Gwm Rhondda, o Goed Elái i Ynysmaerdy. Cafodd pont teithio llesol hefyd ei gosod i'r de o gylchfan Coed Elái er mwyn i gerddwyr a seiclwyr groesi'r ffordd o lwybr cymunedol newydd i'r pentref.
Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi rhai dyddiadau allweddol lle bydd angen rheoli traffig dros yr wythnosau nesaf.
Gwaith ail-wynebu ffordd osgoi o 23 Tachwedd
Y prif weithgaredd nesaf ar y safle fydd ail-wynebu hyd cyfan y ffordd, ac eithrio'r ffyrdd sy'n arwain at gylchfan y gogledd a'r de - ger Coed Elái a Phencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Bydd y gwaith yn cael ei wneud ar lonydd tua'r gogledd a thua'r de un ar y tro, gan alluogi traffig unffordd i barhau drwy'r ardal ar y rhan o'r ffordd sydd ddim yn cael ei hail-wynebu. Bydd trefniadau contraflow yn eu lle o ddydd Sadwrn 23 Tachwedd (6am) am oddeutu wythnos, yn amodol ar y tywydd.
Er y bydd arwyddion clir yn cyfeirio traffig, cynghorir defnyddwyr ffyrdd i yrru gyda gofal ychwanegol drwy'r safle gwaith wrth iddyn nhw ddod i arfer â'r trefniadau newid. Bydd busnesau ar ochr y ffordd yn parhau ar agor yn ystod y cyfnod hwn, gyda cherbydau’r contractwr ar waith i gynorthwyo gydag unrhyw drefniadau mynediad.
Gwaith ail-wynebu cylchfan o 3 Rhagfyr - cau'r ffordd dros nos
Mae angen cau'r ffordd yn gyfan gwbl er mwyn hwyluso gwaith ail-wynebu cylchfannau Coed Elái a Phencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a'r ffyrdd sy'n arwain atyn nhw. Mae'r gwaith yma wedi'i drefnu gyda'r nos er mwyn osgoi oriau prysuraf y dydd a lleihau aflonyddwch yn sylweddol.
Bydd y ffordd ar gau am bum noson, o 9pm i 6am y bore wedyn, ar safle'r gwaith yr A4119 (rhwng cylchfannau Coed Elái a Phencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru).
Mae map o'r rhan a fydd ar gau a llwybr amgen wedi'u cynnwys yma: Bydd y llwybr amgen yma'n ddargyfeiriad sylweddol i yrwyr - trwy Ffordd osgoi Pentre'r Eglwys, yr A470 i Bontypridd, yr A4058 i Donypandy/ Cwm Clydach, a'r A4119 i Goed Elái. Bydd dim mynediad ar hyd Lôn Smaelog na Ffordd Heol Cwm Elái.
Mae disgwyl i'r gwaith gael ei wneud ar y dyddiadau canlynol. Nodwch fod y rhain yn dibynnu ar y tywydd ac felly gallan nhw newid:
- Dydd Mawrth, 3 Rhagfyr (9pm) i ddydd Mercher, 4 Rhagfyr (6am).
- Dydd Mercher, 4 Rhagfyr (9pm) i ddydd Iau, 5 Rhagfyr (6am).
- Dydd Iau, 5 Rhagfyr (9pm) i ddydd Gwener, 6 Rhagfyr (6am).
- Dydd Gwener, 6 Rhagfyr (9pm) i ddydd Sadwrn, 7 Rhagfyr (6am).
- Dydd Llun, 9 Rhagfyr (9pm) i ddydd Mawrth, 10 Rhagfyr (6am).
Yn ystod y cyfnodau cau yma, bydd bws gwennol sy'n cael ei weithredu gan Stagecoach yn cysylltu teithwyr rhwng Coed Elái a Thonypandy, ar gyfer teithio i Gaerdydd ac yn ôl trwy'r Gwasanaeth 122. Mae'r amserlen lawn i'w gweld yma.
Mae'r manylion llawn ynglŷn â rheolaeth traffig a chau'r ffyrdd wedi'u cynnwys ar wefan y contractwr, yma.
Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf : “Mae'r gwaith i ddeuoli'r A4119 rhwng Coed Elái ac Ynysmaerdy bellach yn ei wythnosau olaf. Bydd y gwaith ail-wynebu terfynol yn cael ei wneud o 23 Tachwedd gan ddefnyddio'r trefniadau traffig unffordd presennol - er eu bod yn defnyddio llwybr teithio gwahanol drwy'r safle. Er mwyn cwblhau gwaith ail-wynebu'r gylchfan o 3 Rhagfyr, bydd angen gosod dull rheoli traffig mwy cymhleth yn ei le, sef cau'r ffordd dros nos am bum noson yn olynol, ac mae'r gwaith yn amodol ar dywydd.
"Hoffen ni ddiolch i'r gymuned am ei chydweithrediad cyn i ni gau'r ffordd o 9pm bob nos. Er ein bod yn deall y bydd angen i rai preswylwyr deithio yn ystod y nos, gan orfod cymryd dargyfeiriad eang, gweithio gyda'r nos yw'r opsiwn lleiaf aflonyddgar o bell ffordd. Mae'r gwaith hefyd yn ddibynnol ar dywydd, a bydd y Cyngor a'r contractwr yn diweddaru trigolion yn llawn os oes angen gwneud addasiadau i'r trefniadau gwreiddiol."
Mae Alun Griffiths (Contractwyr) Ltd wedi darparu manylion cyswllt ar gyfer ei Swyddog Cyswllt Cyhoeddus, er mwyn ymateb i ymholiadau trigolion ynglŷn â'r gwaith. Mae modd cysylltu â'r swyddog drwy ffonio 03300 412185 (rhwng 8.30am a 5.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener), neu mae modd e-bostio carfan y safle trwy e-bostio A4119CoedEly@alungriffiths.co.uk.
Mae cynllun deuoli'r A4119 Coed Elái wedi bod yn bosibl diolch i fuddsoddiad sylweddol gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU - ynghyd â chyfraniadau cyllid allweddol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru.
Wedi ei bostio ar 21/11/24