Bydd y Cyngor yn cyflwyno cynllun Ffyrdd Cydnerth sylweddol yn Heol Turberville, Porth, a bydd gwaith yn dechrau ar y safle wythnos nesaf.
Mae'r cynllun wedi derbyn cymorth gan raglen Cronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru, a'r nod yw lleihau'r perygl o lifogydd ar y briffordd yn ystod cyfnodau o law trwm.
Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun, 18 Tachwedd, a disgwylir i'r cynllun gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2025.
Bydd y cynllun yn uwchraddio strwythur cilfach wal flaen bresennol y briffordd yn Heol Turberville.
Bydd gwelliannau hefyd yn cael eu gwneud i sianel y cwrs dŵr presennol a’r seilwaith draenio sydd wedi’i leoli i fyny’r afon, er mwyn gwella’r broses o gludo dŵr i’r wal flaen newydd.
Mae Calibre Contracting Ltd wedi'i benodi i gynnal y gwaith ar ran y Cyngor.
Bydd raid i'r contractwr ddefnyddio mesurau rheoli traffig ar hyd Heol Turberville i gyflawni rhai elfennau o'r cynllun, ond dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd unrhyw ffyrdd yn cau.
Yn gynharach eleni, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ddyraniad gwerth £500,000 i Rondda Cynon Taf o'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth ar gyfer 2024/25.
Derbyniwyd cymeradwyaeth cyllid pellach gwerth tua £3 miliwn ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd yn gysylltiedig â'i ddyraniadau cyllid ar gyfer Ffyrdd Cydnerth a'r grant Gwaith Graddfa Fach Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, yn amodol ar dderbyn pob caniatâd perthnasol.
Diolch ymlaen llaw i gymuned Porth am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith.
Wedi ei bostio ar 13/11/2024