Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnal achlysur arbennig ddydd Llun, 25 Tachwedd, i nodi Diwrnod Rhuban Gwyn. Mae'r diwrnod yma hefyd yn cael ei alw'n Ddiwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod, ac mae'n cael ei nodi ar 25 Tachwedd bob blwyddyn. Bydd yr achlysur eleni yn nodi’r ddegfed flwyddyn y mae'r Cyngor wedi cefnogi'r ymgyrch yma'n gyhoeddus. Ymunodd mwy na 50 o bobl â ni i nodi'r achlysur y llynedd.
Manylion yr achlysur: Llyfrgell Pontypridd, Llys Cadwyn, CF37 4TH, rhwng 5.30pm a 7.30pm. Mae croeso i bawb.
Bydd yr achlysur yn cynnwys perfformiad gan bobl ifainc o'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid, areithiau, cerddi, stondinau gwybodaeth, a gwylnos yng ngolau cannwyll i anrhydeddu dioddefwyr trais yn erbyn menywod a merched.
Bydd Alex Davies-Jones, Aelod Seneddol Pontypridd a'r Gweinidog dros Ddioddefwyr a Thrais yn Erbyn Menywod a Merched, hefyd yn cymryd rhan yn yr achlysur, yn ogystal â'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau, Jonathan Duckham, Prif Arolygydd Heddlu De Cymru, Jo Ledley, Llysgennad Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a chynrychiolwyr o Brosiect Cam-drin yn y Cartref Cymunedol Rhondda Cynon Taf.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: “Bob blwyddyn, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal achlysur arbennig yn y gymuned i ddangos cefnogaeth i ddioddefwyr trais gwrywaidd yn erbyn menywod a merched. Mae hwn yn bwnc pwysig sy'n cael ei gydnabod gan Ddiwrnod Rhuban Gwyn.
"Gan fynd ati i nodi'r achlysur unwaith eto, mae'r Cyngor yma'n addo i barhau i flaenoriaethu a buddsoddi mewn gwasanaethau, adnoddau a pholisïau sy'n canolbwyntio ar atal trais yn erbyn menywod a merched yn ein Bwrdeistref Sirol.
“Mae'r thema eleni, Mae'n Dechrau gyda Dynion, yn dangos pa mor bwysig yw cynnwys dynion a bechgyn yn y sgyrsiau yma. Trwy ddod at ein gilydd, mae modd codi ymwybyddiaeth a gweithio tuag at ddyfodol lle gall pawb fyw heb ofn a thrais.”
Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn achlysur arwyddocaol sy’n amlygu pwysigrwydd mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, a’i atal. Yn ôl ystadegau diweddar, mae 70% o fenywod yn y DU yn dweud eu bod nhw wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol yn gyhoeddus (Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar gyfer Menywod y Cenhedloedd Unedig, 2021), tra bod 17% o fenywod yng Nghymru yn dweud eu bod wedi cael profiad o drais ar-lein (Y Brifysgol Agored, 2024). Mae'r ystadegau yma'n ategu'r angen brys i weithredu.
Mae ymgyrch y Rhuban Gwyn yn pwysleisio nad mater i fenywod yn unig yw hwn. Mae'n gofyn am gyfranogiad gweithredol dynion a bechgyn. Thema eleni yw “Mae'n Dechrau gyda Dynion,” sy'n annog dynion i fod yn gynghreiriaid a chymryd cyfrifoldeb am feithrin diwylliant o barch a chydraddoldeb.
Meddai Alex Davies-Jones, Aelod Seneddol Pontypridd a'r Gweinidog dros Ddioddefwyr a Thrais yn Erbyn Menywod a Merched: “Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn gyfle pwysig i'n hatgoffa bod gyda ni i gyd rôl i’w chwarae wrth roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, a’i fod yn dechrau gyda dynion yn mynd ati’n rhagweithiol i herio ymddygiad ac agweddau niweidiol.
“Mae Llywodraeth San Steffan, gan weithio gyda’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru, wedi pennu targed uchelgeisiol i haneru nifer yr achosion o drais yn erbyn menywod a merched, ac mae’r gwaith caled yma eisoes wedi dechrau.
“Mae menywod yn haeddu teimlo’n ddiogel yn yr ysgol, yn y gwaith, ar-lein, ac yn eu cartrefi. Ond does dim modd i ni wneud hyn ar ein pen ein hunain, byddwn ni'n gweithio ym mhob rhan o'r Llywodraeth ac ym mhob rhan o'r gymdeithas i gyflawni’r nod yma.”
I nodi ein cefnogaeth barhaus i Ddiwrnod Rhuban Gwyn, bydd y Cyngor yn cymryd rhan yn ymgyrch #16DiwrnodOWeithredu Rhuban Gwyn y DU, sy'n cael ei gynnal rhwng 25 Tachwedd a 10 Rhagfyr. Caiff y diwrnod yma ei nodi yn Ddiwrnod Hawliau Dynol.
Yn unol â'r thema eleni, byddwn ni'n tynnu sylw at y ffyrdd y mae ein staff gwrywaidd, gan gynnwys uwch swyddogion a chynghorwyr, wedi addo i beidio byth â defnyddio, esgusodi, nac aros yn dawel am drais dynion yn erbyn menywod. Heb gymorth ein cydweithwyr, ffrindiau, ac aelodau o'r teulu sy'n ddynion, allwn ni ddim dod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben.
Rydyn ni'n gwahodd pawb i ymuno â ni yn yr achlysur pwysig yma i ddangos undod a chefnogaeth i ddioddefwyr trais o'r fath. Boed hyn ar ffurf gwisgo rhuban gwyn, cynnal eich gwylnos yng ngolau cannwyll eich hun, neu godi ymwybyddiaeth drwy ailrannu ein negeseuon, mae gan bob un ohonon ni ran i’w chwarae yn y mater pwysig yma.
Meddai Prif Weithredwr Rhuban Gwyn y DU, Anthea Sully: “Mae modd i ni ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben gyda’n gilydd, ond ni allwn ni wneud hynny heb eich cymorth chi.
“Rhaid i bawb weithio gyda'i gilydd i roi newid ar waith. Mae cefnogi ymgyrch Rhuban Gwyn y DU yn ein helpu ni i gyflawni ein gwaith hanfodol.”
Sefydlwyd y mudiad Rhuban Gwyn yng Nghanada yn 1991 gan grŵp o ddynion pro-ffeministaidd mewn ymateb i gyflafan École Polytechnique yn 1989, lle lladdwyd pedair ar ddeg o fyfyrwyr benywaidd gan Marc Lépine o ganlyniad i’w gasineb tuag at fenywod. Mae'r mudiad bellach ar waith mewn mwy na 60 o wledydd ledled y byd ac mae'n ceisio hyrwyddo perthnasoedd iach, cydraddoldeb rhywiol, a syniadau tosturiol ynghylch gwrywdod, yn ogystal ag atal trais.
Sefydlwyd Rhuban Gwyn y DU yn 2005 i atal trais gan ddynion yn erbyn menywod drwy fynd i’r afael â’r achosion sylfaenol a hyrwyddo newidiadau diwylliannol cadarnhaol. Mae'r sefydliad yn annog dynion i ddwyn eu hunain i gyfrif a chefnogi cydraddoldeb rhywiol i greu cymunedau mwy diogel i bawb. Mae'r sefydliad yn gweithio gyda mwy na 7000 o unigolion a 400 o sefydliadau i newid diwylliannau, agweddau ac ymddygiad niweidiol mewn modd cadarnhaol, gan alluogi menywod a merched i fyw heb ofni trais nac aflonyddu.
I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch Rhuban Gwyn y DU, ffoniwch 01422 417 327, e-bostiwch: info@whiteribbon.org.uk neu ewch i'r wefan: https://www.whiteribbon.org.uk/
I gael rhagor o wybodaeth neu gymorth o ran Cam-drin yn y Cartref a Thrais yn y Cartref, ewch i: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/EmergenciesSafetyandCrime/CommunitySafetyPartnership/Domesticabuse.aspx
Wedi ei bostio ar 01/11/2024